|| ||

Dinas a Sir Abertawe

Website URL : http://www.swanseabay10k.com/index.cfm?articleid=22065
||

Eich Cynllun 10C Cyflawn

whether you are a beginner, intermediate or advanced runner


Y Rhaglen Hyfforddiant

Yn ddelfrydol, i hyfforddi ar gyfer digwyddiad 10k, dylech ganiatáu o leiaf 8 wythnos i baratoi (mwy i ddechreuwyr) a llwyddo i gael tair sesiwn yr wythnos o hyfforddiant.  Ar gyfer unrhyw sesiwn ymarfer, dylid defnyddio'r fformat canlynol bob tro.

Ymgynhesu:  Dylai hyn gynnwys o leiaf 5 munud o gerdded neu loncian ysgafn er mwyn llacio'r cyhyrau ac atal anafiadau, ynghyd â 5-10 munud o ymestyn.

Sesiwn Ymarfer:  Gweler y rhaglen briodol.

Oeri:  Dylai hyn gynnwys o leiaf 5 munud o gerdded neu loncian ysgafn, gan arafu'n raddol, ac yna 5-10 munud o ymestyn.  Wrth ymestyn, dylech ganolbwyntio ar gyhyrau'r coesau, ond heb gyfyngu eich hun iddynt.


Rhaglen Redeg i Ddechreuwyr

I'r rhai ohonoch heb lawer o brofiad rhedeg sydd am redeg eu 10k cyntaf.

WYTHNOSRHAGLENAILADRODDDIWRNODAU
1Rhedeg 1 munud, cerdded 2 funudAiladroddwch 8 gwaith3 diwrnod
2Rhedeg 2 funud, cerdded 2 funudAiladroddwch 6 gwaith3 diwrnod
3Rhedeg 3 munud, cerdded 2 funudAiladroddwch 4 gwaith3 diwrnod
4Rhedeg 5 munud, cerdded 2 funudAiladroddwch 4 gwaith3 diwrnod
5Rhedeg 6 munud, cerdded 1.5 munudAiladroddwch 4 gwaith3 dadiwrnodys
6Rhedeg 8 munud, cerdded 1.5 munudAiladroddwch 3 gwaith3 dadiwrnodys
7Rhedeg 10 munud, cerdded 1.5 munudAiladroddwch 3 gwaith3 ddiwrnodays
8Rhedeg 12 munud, cerdded 1 munudAiladroddwch 3 gwaith3 dadiwrnodys
9Rhedeg 15 munud, cerdded 1 munudAiladroddwch 3 gwaith3 diwrnod
10Rhedeg 15 munud, cerdded 1 munudAiladroddwch 3 gwaith3 diwrnod

Peidiwch â phoeni os oes angen mwy o doriadau cerdded arnoch - mae'n bwysig osgoi gwneud gormod yn rhy gynnar.  Dylech redeg ar gyflymdra hawdd ac ymddiddanol bob amser, a cherdded ar gyflymdra bywiog.  Yna, gellir cynnal y digwyddiad fel cyfuniad o gerdded a rhedeg.


Rhaglen Redeg i Nofisiaid

I bobl sydd â gallu rhedeg sylfaenol, sydd efallai'n dilyn rhaglen am y tro cyntaf.

WYTHNOSDIWRNOD 2DIWRNOD 3DIWRNOD 4DIWRNOD 6DIWRNOD 7
1Rhedeg 2.5 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 2 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 3 filltir
2Rhedeg 2.5 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 2 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 3.5 filltir
3Rhedeg 2.5 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 2 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 4 filltir
4Rhedeg 3 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 2 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 4 filltir
5Rhedeg 3 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 2 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 5 filltir
6Rhedeg 3 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 2 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 6 filltir
7Rhedeg 3 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 2 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 6 filltir
8Rhedeg 3 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 2 filltirCroes-hyfforddiantRhedeg 10C

Ar ôl dechrau'r rhaglen, gall y sesiynau rhedeg gynnwys toriadau cerdded - pediwich a gwthio'n ormodol yn rhy gynnar.  Diwrnodau ymlacio yw diwrnodau 1 a 5. Mae'r rhain mor bwysig â'r dyddiau hyfforddiant, gan eu bod yn rhoi amser i'r cyhyrau adfer.  Mae croes-hyfforddiant (nofio, beicio etc.) yn ddewisol, ond bydd yn gwneud yr hyfforddi a'r digwyddiad yn haws, am y byddwch yn cadw'n fwy ffit.


Rhaglen Redeg Ganolig

I redwyr canolig sydd am wella eu hamser 10k, neu gyrraedd nod penodol.

WYTHNOSDIWRNOD 1DIWRNOD 2DIWRNOD 3DIWRNOD 4DIWRNOD 5DIWRNOD 6DIWRNOD 7
13 milltir3 milltirTempo 35 munud3 milltirYmlacioCroes-hyfforddiant4 milltir
23 milltir3.5 milltir8 x 400 metr4 milltirYmlacioCroes-hyfforddiant5 milltir
33 milltir4 milltirTempo 40munud3 milltirYmlacioCroes-hyfforddiant6 milltir
43 milltir4.5 milltir9 x 400 metr4 milltirYmlacioYmlacioRas 5k
53 milltir5 milltirTempo 45 munud3 milltirYmlacioCroes-hyfforddiant6 milltir
63 milltir5.5 milltir10 x 400 metr4 milltirYmlacioCroes-hyfforddiant7 milltir
73 milltir6 milltirTempo 50 munud4 milltirYmlacioCroes-hyfforddiant8 milltir
83 milltir3 milltir5 x 400 metr3 milltirYmlacioCroes-hyfforddiantRas 10k

Mae'r rhediadau 3 gwaith yr wythnos wedi'u dylunio i'w gwneud ar gyflymdra hawdd, ymddiddanol.  Diwrnod ymlacio yw diwrnod 5 - byddwch yn synhwyrol o ran blinder, a chymryd mwy o ddiwrnodau i ymlacio os oes angen. 

Mae rhediadau tempo'n gyflym, yn datblygu yn AGOS at gyflymdra 10k yn y canol, ac yna 10 munud o redeg hawdd ar y diwedd. 

Hyfforddiant ysbeidiol yw rhedeg cyflym a loncian neu gerdded i adfer bob yn ail.  Rhedeg 400 metr ar gyflymdra 5k - gellir gwneud rhain ar y trac, ar beiriant rhedeg neu yn y parc. 

Mae croes-hyfforddiant yn ddewisol, ond bydd yn gwneud yr hyfforddi a'r digwyddiad yn haws, am y byddwch yn cadw'n fwy ffit.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Monday June 28 2010