Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
    • Wheelchair race
  • Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Race Guide
    • First Timers
    • Run for Charity
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
    • English (English)
  • Ras 3k
  • Canlyniadau’r Ras
  • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
  • Gwirfoddolwyr
  • Clybiau Rhedeg
You are here: Home / Blog / Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema’r 80au

Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema’r 80au

Awst 16, 2021 By Chris Williams

Disgwylir i’r digwyddiad a drefnir gan Gyngor Abertawe gael ei gynnal ddydd Sul 19 Medi a bydd y cyfle i gofrestru’n cau ar 31 Awst, er gall hyn fod yn gynharach os nad oes lleoedd ar ôl cyn hynny.

 Er mwyn dathlu lansiad y digwyddiad ym 1981, bydd digwyddiad eleni’n dathlu popeth sy’n ymwneud â’r 1980au, felly mae croeso i’r rheini sy’n cymryd rhan ddathlu popeth am yr 80au drwy wisgo gwisg ffansi fel bandiau chwys, cynheswyr coesau, gwallt mawr a lliwiau llachar – ewch yn wyllt! Gallwch ddisgwyl cerddoriaeth a chymeriadau o’r 80au a digon o adloniant yn y parthau cefnogi ar hyd y llwybr.

 Disgwylir i gannoedd o bobl sydd newydd ddechrau rhedeg ymuno â 40fed ras 10k Bae Abertawe’r haf hwn a noddir gan Admiral. Dechreuodd llawer o bobl redeg ar ôl iddynt dreulio cannoedd o oriau ychwanegol yn eu cartrefi oherwydd y pandemig.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, “Mae llawer o bobl wedi dechau rhedeg, loncian neu gerdded dros yr 16 mis diwethaf.

“Mae’n debyg bod llawer eisoes wedi hyfforddi digon i allu rhedeg y ras 10k, ond nid ydynt wedi sylweddoli hynny eto!

“Mae rhedeg wedi bod yn ddihangfa y mae llawer wedi’i fwynhau, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf neu cyn hynny, ac mae wedi cynnig buddion iechyd a lles go iawn.

“Ar gyfer y rheini sydd wedi bod yn rhedeg neu loncian dros y misoedd diwethaf, mae’r 10k yn gyfle gwych i fwyhau llwybr gwastad, llawn golygfeydd mewn ffordd newydd. Gall fod yn her gyffrous newydd – a bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn ennill gwobr i ddathlu pen-blwydd y ras yn 40 oed!”

Fel yr holl ddigwyddiadau rhedeg yng Nghymru, gohiriwyd ras y llynedd o ganlyniad i’r pandemig. Bydd ras eleni’n un arbennig iawn am ei bod yn dathlu pen-blwydd ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed.

Dyma fydd y 15fed achlysur i gwmni Admiral noddi’r digwyddiad, sydd yn ogystal â’r 10k yn cynnig rasys hwyl iau 1K a 3K, ynghyd â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn a ras masgotiaid.

Meddai Rhian Langham, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Admiral, “Rydym yn falch o barhau i noddi ras 10k a rasys hwyl Bae Abertawe Admiral am y 15fed flwyddyn. Mae cefnogi diwyddiadau yn ein cymuned leol yn rhan fawr o’n diwylliant yma yn Admiral felly mae’n wych bod yn rhan o ddigwyddiad fel hyn, yn enwedig ar ôl blwyddyn heriol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn, ar ran pawb yn Admiral, i ddymuno pob lwc i’r holl redwyr.”

Bydd Tîm Digwyddiadau’r cyngor yn parhau i fonitro sefyllfa’r pandemig yn agos. Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral yn unol â rheoliadau a chanllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athletau’r DU.

Bydd mesurau fel dechrau’r ras ar adegau gwahanol yn sicrhau bod y ras yn ddiogel i bawb sy’n cymryd rhan, gan gynnwys y gymuned ehangach.

Sicrhawyd lleoedd i’r rheini a gofrestrodd ar gyfer digwyddiad 2020 yn awtomatig ar gyfer digwyddiad dathliadol eleni.

Ewch i swanseabay10k.com am ragor o wybodaeth ac i gadw’ch lle ar y llinell gychwyn.

This post is also available in: English

Filed Under: Blog

Erthyglau ddiweddar

  • Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral 2022!
  • Rhedwyr a chefnogwyr ar lan môr Abertawe ar gyfer ras 10k flynyddol lwyddiannus
  • Ras 10k a Ras Hwyl Bae Abertawe – Y Dechrau
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema’r 80au
  • Gwnaeth pobl o fath penodol estyn y ffiniau ym 1981

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2022 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg