Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
    • English (English)

Arweiniad i’r ras

Yma gallwch ddod o hyd i unrhyw gwestiynau y mae angen atebion arnoch iddynt, o deithio a gwybodaeth am barcio’r car ar gyfer eich peiriant llywio lloeren, i lety yn Abertawe, i fanylion y ras megis amser dechrau’r ras, cyfleusterau toiledau a mwy.

Oes gennych gwestiwn nad yw wedi’i ateb? E-bostiwch 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw 10k Bae Abertawe Admiral?

Mae ras arobryn 10k Bae Abertawe'n un o'r rasys ffordd mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae'r ras, a gynhelir am y 39ain flwyddyn erbyn hyn, yn boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a dechreuwyr ac enillodd wobr y 10k orau yng Nghymru yng Ngwobrau Rhedeg 2018 a 2019.

Ble?

Cynhelir 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd bae eiconig a hardd Abertawe, sy'n golygu bod y cwrs yn gyflym ac yn wastad a bydd yn rhoi cyflwyniad perffaith i redeg ar y ffordd ac mae'n berffaith ar gyfer gwella'ch amser gorau personol.

Pryd mae'r digwyddiad?

Cynhelir Ras 10k Bae Abertawe Admiral 2019 ddydd Sul 22 Medi.

Sut gallaf gofrestru?

Gallwch bellach gyflwyno cais ar-lein ar gyfer rasys 2020.

Faint o bobl fydd yn rhedeg?

Mae oddeutu 4,500 o bobl yn cofrestru ar gyfer y ras bob blwyddyn.

A fyddaf yn derbyn medal?

Bydd pob un sy'n gorffen 10k Bae Abertawe Admiral yn derbyn medal!

Ni allaf ddod i'r ras, ga i ad-daliad?

Na chewch - yn anffodus, yn unol â'r amodau a thelerau, nid ydym yn cynnig ad-daliadau o dan unrhyw amgylchiadau.

Ni allaf ddod i'r ras, alla i roi fy lle i rywun arall?

Na chewch - yn anffodus, nid ydym yn caniatáu newid enwau ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y ras. Peidiwch â newid eich rhif ras ag unrhyw redwr arall chwaith, gan y gallai hyn achosi problemau ar gyfer ein gwasanaeth meddygol neu ganlyniadau. Os bydd trefnwyr y ras yn ymwybodol bod unrhyw un yn newid ei rif ras bydd yn cael ei wahardd rhag y ras hon, ac efallai bydd yn cael ei wahardd rhag rasys eraill o dan reolau UKA. Gweler rheolau'r ras a'r amodau a'r telerau.

A fydd rhaid i mi gofrestru ar y diwrnod?

Na, unwaith eich bod wedi cofrestru ar-lein, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod a rhedeg! Ni allwch gofrestru ar y diwrnod ar gyfer y brif ras 10k.

Beth yw'r cwrs?

Gallwch ddod o hyd i fap rhyngweithiol o'r cwrs yma

A fydd gorsafoedd dwr? Ble byddan nhw?

Bydd gorsaf ddŵr ger y pwynt 5k ac ar y diwedd. Byddwch yn ystyriol o redwyr eraill drwy gymryd un ddiod ym mhob gorsaf dŵr a thrwy ddefnyddio'r biniau ailgylchu a ddarperir.

A fydd unrhyw help ar gael ar y cwrs?

Bydd stiwardiaid gwirfoddol ar y cwrs i fonitro, cyfarwyddo, cynorthwyo ac annog rhedwyr. Os oes angen cymorth arnoch unrhyw bryd yn ystod y digwyddiad, dylech fynd atyn nhw'n gyntaf.

A fydd Cymorth Cyntaf ar gael?

Bydd. Darperir cymorth cyntaf gan wirfoddolwyr Ambiwlans Sant Ioan a thîm o barafeddygon.  Byddant ar gael ar hyd y llwybr a bydd ganddynt ganolfan wrth y llinell derfyn.  Os ydych yn teimlo’n sâl cyn, yn ystod, neu ar ôl y digwyddiad, gofynnwch i'r marsial neu’r stiward agosaf am gymorth.

A fydd toiledau yno?

Mae toiledau ar gael ger y llinell gychwyn a'r llinell derfyn, ac mewn sawl man ar hyd y llwybr rhedeg.

Beth os aiff fy mhlentyn ar goll?

Bydd y pwynt plant coll yn y Babell Wybodaeth lle bydd staff yn gallu'ch helpu.

Rwy'n pryderu am effaith y digwyddiad hwn ar yr amgylchedd - pa fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith?

Mae gennym dîm o gasglwyr sbwriel sy'n casglu ac yn trefnu gwastraff i'w ailgylchu, ond helpwch ni i ailgylchu gymaint o wastraff â phosib gan ddefnyddio'r biniau ailgylchu a ddarperir pan y gallwch.

 

Collais i rywbeth yn ystod y ras - a oes ardal eiddo coll yno?

Os collwch chi unrhyw beth yn ystod y digwyddiad, gallwch gysylltu â ni trwy'r dudalen Facebook, neu e-bostiwch y tîm digwyddiadau yn special.events@abertawe.gov.uk.

Cofiwch y bydd y tîm digwyddiadau'n brysur iawn dros y penwythnos, a byddant yn dychwelyd i'r swyddfa ar ôl y digwyddiad.

Ga i drosglwyddo fy ngais?

Ni fydd ffioedd cystadlu yn cael eu had-dalu, ac ni ellir eu trosglwyddo ar gyfer digwyddiad yn y dyfodol.

Ga i ddod ar y diwrnod a chofrestru ar gyfer y ras?

Na chewch - ni fydd modd cofrestru na chymryd rhan yn y brif ras 10k ar y diwrnod.

Ga i godi arian ar gyfer elusen?

Wrth gwrs! Bob blwyddyn, mae miloedd o redwyr yn cofrestru ar gyfer y ras ar gyfer achosion da. Mae 10k Bae Abertawe Admiral hefyd yn cefnogi elusennau'r Arglwydd Faer - gallwch ddarganfod mwy am yr elusennau a ddewiswyd ar gyfer eleni a lawrlwytho ffurflen noddi.

Ga i redeg mewn gwisg ffansi?

Wrth gwrs! Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn rhedeg mewn gwisg ffansi er mwyn codi arian ar gyfer achosion da. Cofiwch rannu eich lluniau â ni ar y diwrnod

Rwyf wedi colli'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru - a yw dal yn bosib i gofrestru ar gyfer y ras?

Na - unwaith bod digon o ymgeiswyr neu bod y dyddiad cau wedi mynd heibio, ni dderbynnir unrhyw geisiadau eraill. Sylwer ni fydd modd cofrestru na chymryd rhan yn y brif ras 10k ar y diwrnod.

Oes angen i mi fod yn rhedwr proffesiynol neu brofiadol?

Nac oes wrth gwrs! Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn ras hwyl hefyd, ac mae croeso i redwyr profiadol a phobl sy'n rhedeg am y tro cyntaf hefyd. Mae miloedd o bobl yn cofrestru bob blwyddyn am y tro cyntaf, mewn gwisg ffansi ac er mwyn codi arian i elusen.


Cyn y Ras

Pryd byddaf yn derbyn fy mhecyn ras?

Anfonir pecynnau ras at yr holl redwyr bythefnos cyn y ras. Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn erbyn dydd Llun 16 Medi 2019, e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk er mwyn datrys y mater.

Beth sydd yn fy mhecyn ras?

Mae eich pecyn ras yn cynnwys rhif â sglodyn amseru'n atodedig, label bag a thaleb i gael crys-t technolegol am ddim.

Nid wyf wedi derbyn fy mhecyn ras - beth dylwn i ei wneud?

Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn ras erbyn dydd Llun 16 Medi 2019, e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk

Ble gallaf gasglu fy nghrys-t 10k?

Gallwch gasglu'r crys-t o Neuadd y Ddinas ddydd Gwener 20 a dydd Sadwrn 21 Medi neu ar ddiwedd y ras yn y Babell Wybodaeth. Bydd yr amserau casglu wedi'u nodi ar y daleb. Rhaid bod gennych eich taleb i dderbyn eich crys-t.

Oes amserlen rasys ar gael? Pa amser fydd fy ras yn dechrau?

Gweler yr amserlen isod;

  • 10k Cadair olwyn (15+ oed) 10.55am
  • 10k (15+ oed) 11am
  • 3k (rhwng 9 a 14 oed) 10am
  • 1k (rhwng 8 a 11 oed) 9.30am
  • 1k (7 oed ac iau) 9.15am
  • Ras Masgotiaid 11.10am
Oes rhywle i adael fy magiau?

Gall cyfranogwyr adael eu bagiau yn y babell wybodaeth trwy ddefnyddio'r label bag sydd ynghlwm wrth eich rhif ras.

Athletwr cadair olwyn ydw i - ble ydw i'n dechrau'r ras?

Os ydych yn athletwr cadair olwyn hunan-wthio profiadol â chadair olwyn rasio, mae'n rhaid i chi adrodd i'r Rheolwr Cychwyn erbyn 10.15am er mwyn dechrau cyn y prif redwyr.

Ble mae'r llinell ddechrau?

Y man ymgynnull i gychwyn yw'r ffordd ddeuol ar Heol Ystumllwynarth (y tu allan i Faes Rygbi San Helen) o oddeutu 10.30am.   Bydd cyfnod o gynhesu oddeutu 10 munud cyn y ras.

Beth sydd angen i mi ei wneud gyda fy rhif ras?

Rhoddir y sglodyn amseru ar gefn eich rhif ras. Ar ddiwrnod y ras, gwisgwch eich rhif ras ar eich blaen â phin diogelwch ar bob cornel. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cyrraedd y llinell derfyn gyda'ch rhif ras yn gyflawn.

Peidiwch â phlygu na thorri eich rhif ras mewn unrhyw ffordd.

Mae fy nghyfeiriad wedi newid ers i mi gofrestru ar gyfer y ras - oes angen i mi wneud rhywbeth?

Os yw'ch cyfeiriad wedi newid ers y tro diwethaf i chi gofrestru, gallwch ddiweddaru'ch manylion ar yr Hwb Aelodau. Mae'r nodwedd hon ar gael am gyfnod penodol yn unig, ac ar ôl hynny bydd rhaid i chi gysylltu â 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk.

Os oes angen i chi ddiweddaru'ch cyfeiriad ar ôl i'r pecynnau rasio gael eu postio, efallai y gallwn eich helpu, fodd bynnag codir ffi fach i ailgyflwyno pecynnau'r ras.

 


Yn ystod y Ras

A fydd sylwebaeth yn ystod y digwyddiad?

Bydd sylwebaeth ar y llinell derfyn, a fydd yn disgrifio lleoliad y rhedwyr ar y cwrs, a bydd yn galw enwau rhedwyr sydd wedi gorffen y ras wrth iddynt groesi'r llinell derfyn. Gwrandewch yn astud - efallai y byddwch yn clywed eich enw!

Ble yw'r lle gorau i weld yr holl ddigwyddiad?

Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn enwog am y gefnogaeth arbennig a geir gan wylwyr ar hyd y cwrs. Cliciwch yma i weld ein map rhyngweithiol o'r cwrs er mwyn cynllunio lle byddwch yn gwylio'r ras.

Ble mae'r llinell derfyn?

Mae'r llinell derfyn ger garreg goffa'r senotaff.

Pa mor hir bydd y digwyddiad yn para?

Bydd y ras iau gyntaf yn dechrau am 9.15am a bydd y brif ras yn dechrau am 11am. Bydd y rhedwyr cyntaf yn gorffen ymhen oddeutu 30 munud, a bydd y rhan fwyaf o redwyr y gorffen ar ôl tua 2 awr.

Ble gallaf fynd er mwyn cael gwybodaeth pan fyddaf yno?

Lleolir y Babell Wybodaeth ar y promenâd ger y Senotaff.

Rwyf ar y safle ac rwyf wedi bod yn dyst i ladrad/ymosodiad/rywbeth drwgdybus, beth dylwn i ei wneud?

Bydd staff diogelwch a Heddlu De Cymru i'w gweld ar y safle a byddant yn patrolio yn arena'r digwyddiad ac yn yr ardal gyfagos. Os byddwch yn gweld rhywbeth drwgdybus, adroddwch amdano i staff diogelwch neu stiward ar unwaith.

Rwy'n pryderu am fynd i ddigwyddiad mor fawr. Pa fesurau diogelwch sydd ar waith?

Eich diogelwch a'ch diogeledd yw ein prif bryder, ac rydym yn ymdrin â hyn yn ddifrifol iawn. Mae Cyngor Abertawe a Heddlu De Cymru wedi bod yn cynllunio'r digwyddiad hwn am amser hir, ac os byddwch yn bresennol yn y digwyddiad rydym am i chi fwynhau a chael hwyl, felly darllenwch yr wybodaeth a'r cyngor canlynol ynghylch diogelwch yn y digwyddiad.

  • Bydd staff diogelwch i'w gweld yn y digwyddiad a byddant yn patrolio o amgylch y safle.
  • Efallai y bydd cŵn arbenigol yn patrolio hefyd.
  • Mae rhwydwaith o gamerâu CCTV wedi'i osod o gwmpas y lleoliad, a chânt eu monitro o'n hystafell reoli'r digwyddiad.
  • Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Heddlu a'r gwasanaethau brys eraill i gynllunio digwyddiad sy'n ddiogel i bawb.
  • Bydd yr Heddlu'n patrolio'r digwyddiad a'r ardal leol.
  • Efallai y byddwch yn gweld heddweision arfog yn patrolio'r ardal gan ei fod yn arfer arferol mewn digwyddiadau o'r maint hwn.
  • Bydd nifer o fesurau diogelwch eraill ar waith na allwch chi eu gweld.
A yw'r digwyddiad yn cael ei gynnal os bydd hi'n bwrw glaw?

Cynhelir y digwyddiad, hyd yn oed os bydd yn glawio. Os bydd y tywydd yn wael, byddwch yn ofalus wrth i chi redeg.

Oes terfyn oedran?
  • 10k Cadair olwyn (15+ oed)
  • 10k (15+ oed)
  • 3k (rhwng 9 a 14 oed)
  • 1k (rhwng 8 a 11 oed)
  • 1k (7 oed ac iau)
Os bydd argyfwng, a fydd y gwasanaethau brys yn gallu ein cyrraedd ni?

Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hwn yn ddiogel. Er y bydd rhai ffyrdd ar gau, bydd gan y gwasanaethau brys fynediad ar bob adeg.
Dyma'r rheswm pam ni chaniateir clustffonau.

Ga i wisgo clustffonau?

Na - ni chaniateir clustffonau yn ystod y ras. Mae llwybr 10k Bae Abertawe Admiral yn cynnwys adrannau o ffyrdd sydd ar gau, ac mae angen mynediad i gerbydau brys ar bob adeg. Er diogelwch yr athletwyr, ni chaniateir clustffonau oherwydd y gallant stopio'r rhedwyr rhag clywed hysbysiadau diogelwch neu gerbydau gwasanaethau brys.

A oes amser terfyn?

Na, er ei fod yn un o'r rasys cyflymaf yn y DU mae croeso i redwyr hwyl hefyd. Os ydych tua chefn y ras, efallai y gofynnir i chi symud i'r palmant os ystyrir bod angen i chi wneud hynny gan Gyfarwyddwr y Ras.

Beth yw rheolau'r ras?

Gallwch ddod o hyd i reolau'r ras a'r amodau a'r telerau ar-lein yma

Ble ddylwn i ddechrau'r ras?

Ar gyfer prif ras 10k Bae Abertawe Admiral, mae'r man ymgynnull wedi'i rannu'n ardaloedd bandiau amser. Dylech ymgynnull yn yr ardal sy'n cyd-fynd â'ch amser rhedeg tebygol. Dylai hyn sicrhau eich bod yn rhedeg gyda rhedwyr o allu tebyg er mwyn rhoi'r profiad a'r amser terfynol gorau posib i chi.

Cofiwch gynnwys amser ychwanegol ar gyfer tagfeydd posib a pharcio wrth gynllunio'ch taith.

Rhoddir y bandiau amser ar waliau Maes Rygbi San Helen.

Rwy'n anelu am amser penodol - a fydd unrhyw gymorth ar y cwrs er mwyn gwneud hyn?

Beth am redeg gydag un o'n rhedwyr cadw amser? Mae gennym nifer o redwyr sy'n cadw amser 40, 45, 50 a 60 munud. Cadwch lygad am eu baneri melyn.

Ga i wisgo dyfeisiau ffitrwydd personol (Garmin, Fitbit etc.)?

Caniateir dyfeisiau ffitrwydd personol, ond sylwer ni chaniateir clustffonau.

Ga i redeg gyda phram?

Na, oherwydd byddai hyn yn cyflwyno perygl baglu i redwyr eraill.

Ga i redeg gyda fy nghi?

Na, oherwydd byddai hyn yn cyflwyno perygl baglu i redwyr eraill.

A fydd yn bosib i mi ddilyn y digwyddiad hyd yn oed os nad ydw i yno?

Gallwch ein dilyn ar Facebook a Twitter er mwyn cael diweddariadau ar y ras, a'r traffig a theithio.

A oes modd i mi redeg gyda fy mhlentyn yn y ras iau?

Gall rhieni redeg gyda'u plant yn ein rasys iau 1k ar gyfer plant 7 oed ac iau ac ar gyfer plant 8-11 oed. Ni all rhieni redeg yn ein ras 3k, ond caniateir iddynt ddilyn yng nghefn y grŵp.


Ar ôl y Ras

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gorffen y ras?

Bydd staff yno i'ch helpu a gallwch hefyd gasglu potel o ddŵr a chasglu'ch bag anrhegion a fydd yn cynnwys eich medal a'ch tystysgrif (tystysgrifau ar gyfer rasys iau'n unig). I gwrdd â ffrindiau a theulu ar ôl y ras, symudwch o'r sianeli ac ewch i gwrdd â hwy y tu allan i'r babell wybodaeth.

A fydd ffisiotherapydd ar gael yn ystod y ras ac ar ol y ras?

Bydd ffisiotherapydd yno ynghyd â thîm o therapyddion chwaraeon er mwyn cynnig cyngor a thriniaeth gan Swansea Physiotherapy Ltd.

Pryd bydd y canlyniadau ar gael?

Bydd canlyniadau dros dro ar gael yn www.10kbaeabertawe.com yn hwyr ar ddiwrnod y ras. Bydd y set gyntaf o ganlyniadau dros dro ar gael ychydig oriau ar ôl i'r rhedwr olaf groesi'r llinell derfyn. Bydd y canlyniadau terfynol ar gael oddeutu 7 niwrnod ar ôl digwyddiad. Os nad yw eich canlyniadau'n gywir/nid yw'n ymddangos yn y canlyniadau dros dro, peidiwch â phoeni! Byddant yn ymddangos yn y canlyniadau terfynol.

Ble gallaf ddod o hyd i luniau o'r ras?

Photo-fit.com yw ffotograffwyr swyddogol y ras eleni, a bydd ffotograffau ar gael i'w prynu oddeutu 2-3 diwrnod ar ôl y ras. Bydd y ddolen ar gyfer y ffotograffau swyddogol ar gael ar hafan y wefan ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Pryd cyflwynir y gwobrau?

Cyflwynir gwobrau'r ras iau a'r brif ras ar y podiwm ger y babell wybodaeth. Ras Iau – rhwng 10.30am a 11.30am. Prif ras – o 1pm, gofynnir i enillwyr fynd i'r man cyflwyno.

Ni chyflwynir gwobrau ym mhob categori ar ddiwrnod Ras 10k Bae Abertawe Admiral – dim ond y prif enillwyr.

Nid wyf wedi derbyn medal/crys-t/bag anrhegion.

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw un o'r pethau uchod, ewch i'r Babell Wybodaeth. Os ydych yn sylweddoli ar ôl i chi adael safle'r digwyddiad, gallwch gysylltu â ni trwy'r dudalen Facebook, neu e-bostiwch dîm digwyddiadau arbennig y cyngor yn special.events@abertawe.gov.uk

Pryd byddaf yn derbyn fy iTab?

Bydd rhedwyr yn derbyn iTab o fewn 7-10 niwrnod gwaith ar ôl y ras. Os nad ydych wedi derbyn eich iTab o fewn 10 niwrnod cysylltwch â 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk


Teithio

Sut ydw i'n cyrraedd yno mewn car?

Ceisiwch ein helpu drwy gyrraedd yn gynnar gan fod y meysydd parcio'n llenwi'n gyflym ac mae traffig yn cynyddu'n sylweddol ger maes parcio'r prif ddigwyddiad. Llunnir cynllun rheoli traffig manwl a bydd ffyrdd yn cau oddeutu 12.00pm. Fodd bynnag, yn dilyn profiadau'r gorffennol, bydd rhesi o draffig yn cynyddu yn agos at y cwrs. Atgoffir cystadleuwyr i gyrraedd yn gynnar ac i gofio am oedi ar y ffyrdd wrth ardaloedd dechrau a gorffen y ras. Pan fyddwch yn gadael y maes parcio ar droed, cymerwch ofal a chroeswch y ffordd yn y mannau croesi dynodedig yn unig. Bydd hyn hyd yn oed yn bwysicach ar ddiwedd y digwyddiad pan fyddwch yn dychwelyd i'ch ceir, gan y byddwch yn croesi ffordd ddeuol brysur iawn.
Am beiriant llywio lloeren, cofnodwch SA1 4PQ

Sut ydw i'n cyrraedd ar y bws?

O orsaf fysus y Cwadrant yng nghanol y ddinas, bydd y bysus canlynol yn mynd â chi i Faes Rygbi San Helen: 2A/3A. Mae nifer o wasanaethau cludiant cyhoeddus yng nghanol y ddinas. I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau bysus a thrên, ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 neu ewch i Traveline Cymru

Ble gallaf barcio?

Gallwch barcio am ddim ar y "Rec" a'r Cae Lacrosse (erbyn 12.00pm fan bellaf), ger Maes Rygbi San Helen, ac o flaen ac wrth ochr Neuadd y Ddinas, Abertawe. Mae meysydd parcio gorlifo wrth Faes Parcio Gorllewinol y Ganolfan Ddinesig.

Pan fyddwch yn gadael y maes parcio ar droed, cymerwch ofal a chroeswch y ffordd yn y mannau croesi dynodedig yn unig. Mae hyn yn bwysig iawn yn enwedig ar ddiwedd y digwyddiad pan fyddwch yn dychwelyd i'ch cerbydau, oherwydd byddwch yn croesi ffordd ddeuol brysur iawn.

Ble gallaf aros?

Teithio i Abertawe ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral? Gadewch i Groeso Bae Abertawe'ch helpu i gynllunio'ch arhosiad.  Cynhelir croesobaeabertawe.com gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe, a'r tîm yw darparwr swyddogol gwybodaeth i dwristiaid Bae Abertawe (Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr).  Mae'r wefan yn llawn syniadau am bethau ychwanegol i'w gweld a'u gwneud yn ogystal â gwybodaeth am amrywiaeth eang o lety o safon.

A fydd unrhyw ffyrdd ar gau?

Cau ffyrdd

Bydd nifer o ffyrdd ar gau ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral. Bydd y brif ras 10k yn dechrau gyferbyn â Maes Rygbi San Helen yn gynt na'r arfer am 11.00am a bydd yn dilyn Heol y Mwmbwls i Sgwâr Ystumllwynarth lle bydd yn troi ac yn dychwelyd ar hyd llwybr beicio/troedffordd y blaendraeth. Cymerwch gip ar yr amserau allweddol a'r map defnyddiol isod.

Cliciwch ar y llun i weld fersiwn fwy

Bydd y ffyrdd ar gau a'r dargyfeiriadau ar waith o:

10.00am tan 12.00pm:

  • Bydd Heol y Mwmbwls ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng y goleuadau traffig wrth y slipffordd ger Maes Rygbi San Helen a gwaelod Lôn Sgeti. Bydd y ffordd yn ailagor cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi'n ddiogel ar ôl i'r rhedwr olaf a'r cerbydau diogelwch adael cyffordd Lôn Sgeti.
  • Troi i'r dde yn unig o Lôn Sgeti i Heol y Mwmbwls.
  • Bydd Lôn Brynmill ar gau rhwng Heol y Mwmbwls a Heol Bryn, oni bai am fynediad i'r Maes Chwaraeon oddi ar Lôn Brynmill er mwyn parcio

10.30pm tan 12.00pm:

  • Bydd Heol y Mwmbwls ar gau i draffig sy'n mynd tua'r gorllewin rhwng gwaelod Lôn Sgeti a Heol Mayals. Bydd angen i draffig sy'n mynd tua'r dwyrain ddefnyddio un lôn a chaiff ei ddargyfeirio i fyny Lôn Sgeti. Caiff mynediad at Ysbyty Singleton a Phwll Cenedlaethol Cymru ei gynnal
  • Bydd Heol y Mwmbwls ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng gwaelod Heol Mayals a chylchfan West Cross. Bydd y ffordd yn ailagor ar raglen dreigl cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi'n ddiogel ar ôl i'r rhedwr olaf a'r cerbydau diogelwch fynd heibio. Troi i'r chwith yn unig (tuag at ganol y ddinas) o Heol Ashleigh, Heol Derwen Fawr, Lôn Mill a Heol Mayals.
  • Bydd Heol y Mwmbwls ar gau i draffig sy'n mynd tua'r gorllewin rhwng cylchfan West Cross Inn a Sgwâr Ystumllwynarth. Bydd y ffordd yn ailagor ar raglen dreigl cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi'n ddiogel ar ôl i'r rhedwr olaf a'r cerbydau diogelwch fynd heibio.
  • Heol y Mwmbwls ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Heol Fairwood a Heol Newton. Troi i'r chwith yn unig tuag at ganol y ddinas o Heol Alderwood, Lôn Bethany, Palmyra Court, Rhodfa Norton a Heol Newton.
  • Er diogelwch pawb, ni fydd preswylwyr Heol y Mwmbwls yn gallu cael mynediad i rannau o'r ffordd hon rhwng tua 10.30pm a 12.30pm.

Bydd mynediad i gerbydau argyfwng trwy'r amser.

A fydd unrhyw lwybrau beicio ar gau?

Na fydd, ond bydd arwyddion rhybuddio ymlaen llaw wedi'u gosod a bydd stiwardiaid ar hyd y llwybr yn cynghori beicwyr i ddod oddi ar eu beiciau yn ystod cyfnodau prysuraf y ras.

A fydd parcio hygyrch ar gael?

Bydd lleoedd parcio ar gael ym Maes Parcio'r Rec, sy'n gyfochrog ag ardaloedd dechrau a gorffen y ras.

Pryd bydd Maes Parcio'r Rec ar agor?

8.30am

A allaf barcio'n lleol?

Gallwch - ond parciwch yn gyfrifol. Bydd pob ffordd gyfagos yn destun rheoliadau parcio arferol, a bydd wardeniaid parcio'n patrolio'r ardal ac yn gorfodi cyfyngiadau parcio.

A fydd gwasanaeth Parcio a Theithio?

Na fydd

Byddaf yn teithio i Abertawe, felly a fydd arwyddion er mwyn fy nghyfeirio?

Bydd arwyddion melyn o gyffordd 47 a 42 yr M4 i ardal y digwyddiad yn dangos dyn yn rhedeg arnynt.

Pam bydd ffyrdd ar gau?

Er mwyn cynnal y ras ac er diogelwch y rhedwyr.

Rwy'n breswylydd lleol/rwy'n byw gerllaw - sut bydd y digwyddiad yn effeithio arna i?

Ewch i enjoyswanseabay.com/cy/gwybodaeth-i-breswylwyr-2/ am wybodaeth bellach

A fydd modd i mi gael mynediad i Ysbyty Singleton?

Nid effeithir ar Ysbyty Singleton gan gau ffyrdd neu safle'r digwyddiad, a bydd mynediad i Ysbyty Singleton yn dilyn y drefn arferol. Fodd bynnag, oherwydd y bydd rhai ffyrdd ar gau, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio ffyrdd eraill - cynlluniwch ymlaen llaw.

Alla i gael mynediad i Brifysgol Abertawe o hyd?

Ni fydd hi'n bosib cael mynediad i brif fynedfa Prifysgol Abertawe rhwng 10am a 11.30am. Ceir mynediad amgen trwy Ysbyty Singleton - cynlluniwch ymlaen llaw.

Alla i gael mynediad i Lyn Cychod Singleton/Pub on the Pond?

Effeithir ar Lyn Cychod Singleton/Pub on the Pond am gyfnod byr ar ddechrau'r ras (rhwng tua 11am a 11.20am oherwydd y bydd y ffyrdd ar gau, ond ceir mynediad cyn ac ar ôl hyn).

Rwyf am deithio i'r Mwmbwls/Gwr, sut y gallaf gyrraedd yno?

Rhwng 10am a 10.30am, ceir mynediad trwy droi i'r dde ger Lôn Sgeti

Rhwng 10.30am a 12.00pm, ceir mynediad trwy Gŵyr.

Unwaith y bydd y rhedwr olaf yn mynd heibio Lôn Sgeti, bydd y traffig yn gallu dilyn y cerbyd cefnogi.

Rwy'n bwriadu teithio allan o Abertawe, sut gallaf gyrraedd yr M4?

Bydd Heol y Mwmbwls/Heol Ystumllwynarth yn dal i fod ar agor i draffig hyd at Lôn Sgeti, felly gallwch gyrraedd yr M4 o hyd, ond caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith. 

Sut gallaf gael yr wybodaeth ddiweddaraf am barcio a theithio ar y diwrnod?

Gallwch ddilyn ein tudalen Facebook a Twitter.

This post is also available in: English

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.