Os dyma’ch ras 10k Bae Abertawe Admiral gyntaf, neu os dyma’ch ras gyntaf erioed, mae’n naturiol bod gennych lawer o gwestiynau ac y byddwch ychydig yn nerfus am y diwrnod mawr. Beth mae ei angen arnaf? Ble dylwn i fynd pan fyddaf yn cyrraedd? Beth sy’n digwydd ar y llinell derfyn? Does dim angen i chi boeni – rydym wedi llunio’r arweiniad hwn i’r rheiny sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf i’ch arwain drwy’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn eich ras gyntaf. Mae’n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod fel y gallwch fwynhau’r profiad cymaint â phosib!
Cyn diwrnod y ras
- Y peth pwysicaf yn gyntaf, cofiwch gofrestru (Gallwch gofrestru nawr ar gyfer ras 2022)! Does dim modd cofrestru ar y diwrnod, ac ni fydd cyfle chwaith i gofrestru ar ôl y dyddiad cau, sef 31 Awst (neu unwaith y bydd pob lle yn llawn). Does dim byd yn waeth na mynd ati i hyfforddi a chodi arian am fisoedd ac yna darganfod nad!
- Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn agored i bobl o bob gallu, p’un a ydych yn rhedwr profiadol sydd am wynebu her neu’n rhywun sy’n chwilio am ras hwyl i godi arian at achos da. Waeth beth yw eich lefel sgil neu’ch cyflymder, does dim angen i chi boeni – mae’r awyrgylch yn un difyr a hamddenol, a chewch ddigon o gefnogaeth gan wylwyr i’ch helpu chi, a rhedwyr dibrofiad eraill fel chi, i groesi’r llinell.
- Mae’n ddefnyddiol i chi wneud rhywfaint o hyfforddiant cyn y ras, ac ar-lein cewch gannoedd o ganllawiau rhedeg a rhaglenni hyfforddiant i ddechreuwyr a rhedwyr profiadol. Cymerwch gipolwg ar y rhain i ddod o hyd i un sy’n addas ar gyfer eich gallu a’ch amserlen.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser teithio, oherwydd gall yr ardal fod yn brysur (bydd ffyrdd ar gau hefyd, gan fod rhan o’r cwrs ar y ffordd).
- Gwnewch yn siŵr bod gennych bopeth angenrheidiol ymlaen llaw, yn enwedig esgidiau rhedeg. Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral ar fore dydd Sul, felly bydd yn anodd cael gafael ar unrhyw beth y byddwch wedi’i anghofio!
- Peidiwch â gwneud y camgymeriad o brynu esgidiau rhedeg newydd sbon ar gyfer diwrnod y ras – gallan nhw rwbio’r croen a bod yn anghyfforddus, gan ddifetha’ch profiad o’r ras. Rhedwch yn yr esgidiau rhedeg rydych yn eu defnyddio fel arfer i hyfforddi ac y gwyddoch y byddan nhw’n iawn ar gyfer yr holl ras.
- Y noson gynt, gwnewch restr wirio i sicrhau bod gennych bopeth yn barod ar gyfer y bore (rydym hyd yn oed wedi llunio rhestr fras i’ch helpu chi – sgroliwch i lawr i waelod y dudalen). Rhowch eich pethau’n barod a cheisiwch gael noson dda o gwsg.
Diwrnod y Ras
- Nid yw 10k yn bellter hir, ond bydd angen egni arnoch o hyd. Bwytwch frecwast da, neu o leiaf far neu gel maeth cyn y ras.
- Cofiwch, cyhyd ag yr ydych wedi cofrestru, nid oes rhaid gwneud hynny ar y safle – gallwch gyrraedd a rhedeg.
- Yn bwysicaf – gwnewch yn siŵr bod eich rhif ras wedi’i gysylltu’n sownd yn eich top. Mae’r rhif ras yn cynnwys eich sglodyn amseru – hebddo, ni fyddwch yn cael amser wrth groesi’r llinell.
Dyna ni – rydyn chi’n barod ar gyfer dechrau’r ras. Cadwch eich hun yn dwym ac arhoswch am yr ergyd gychwyn. Dywedwch helô wrth y rhedwyr o’ch cwmpas a gwnewch ffrindiau newydd – bydd llawer ohonyn nhw yr un mor nerfus â chi!
A bant â ni!
- Bydd y gwn yn tanio, a’r ras yn dechrau! Gan ddibynnu ar eich lle yn yr ardal ddechrau, gall gymryd sbel i chi gyrraedd y llinell gychwyn. Peidiwch â phoeni am hyn yn effeithio ar eich amser gan y bydd ond yn dechrau pan fyddwch yn croesi’r llinell gychwyn.
- Os nad ydych yn gyfarwydd â rhedeg gydag eraill, cofiwch barhau i redeg ar eich cyflymdra’ch hun – mae’n hawdd mynd ar gyfeiliorn wrth redeg gyda phobl sydd wrth eich ochr wrth i chi sylweddoli eich bod yn rhedeg yn llawer cyflymach na’ch cyflymdra arferol!
- Os ydych yn teimlo’ch bod yn dechrau cael anhawster, arafwch a cherddwch. Mae llawer o redwyr yn defnyddio ymagwedd cerdded a rhedeg.
- Os bydd angen help arnoch ar unrhyw bwynt, bydd marsialiaid cwrs a stiwardiaid ar hyd y llwybr i’ch helpu.
Ar ôl y Ras
Rydych chi wedi llwyddo! Rydych wedi croesi llinell derfyn eich ras 10k Bae Abertawe Admiral gyntaf erioed!
- Er y bydd yn demtasiwn i stopio cyn gynted ag yr ydych yn croesi’r llinell derfyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i symud ymlaen – bydd llawer o redwyr ar y cwrs, a byddant y tu ôl i chi ac efallai na fyddant yn gallu stopio mewn pryd!
- Cewch eich tywys drwy’r “sianelau’ lle gallwch godi dŵr, ffrwyth a medal 10k hollbwysig!
Parhewch i fynd yn eich blaen a byddwch yn dod allan ger pentref y rhedwyr, lle bydd ffrindiau a theulu’n aros amdanoch. Casglwch eich bagiau os ydych wedi storio rhai, ac ewch adref i orffwys eich traed a chael hoe a diod haeddiannol – cofiwch yfed digon!
Canlyniadau
Ychwanegir canlyniadau ar-lein ar ein tudalen canlyniadau yn ddiweddarach ar y diwrnod (byddwn yn eu rhoi ar ein tudalen Facebook pan fyddant ar-lein). Byddwch yn gallu chwilio am eich enw neu drwy rif y bib.
A dyna ni! Cyn i chi sylweddoli, byddwch wedi cwblhau 10k Bae Abertawe Admiral, a bydd gennych fedal gorffennwr yr oeddech wedi rhoi’ch bryd arni i’w hedmygu. Ond yn bwysicaf oll, cofiwch fwynhau eich hun!
Rhestr wirio
Defnyddiwch ein rhestr wirio ddefnyddiol i’ch helpu i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr. Efallai na fydd angen popeth arnoch, ond mae’n fan cychwyn defnyddiol;
- Rhif Ras: hanfodol gan ei fod yn cynnwys eich sglodyn amseru
- Cyfeiriadau i’r digwyddiad: Defnyddiol os nad ydych yn gyfarwydd â’r ardal neu os ydych yn teithio yma
- Esgidiau rhedeg
- Sanau
- Dŵr/geliau/diod chwaraeon
- Trowsus cwta
- Fest/crys T
- Taleb crys T: fyddwch chi ddim yn gallu codi’ch crys T y ras hebddi
- Label bag: bydd angen hwn arnoch os ydych yn bwriadu gadael bag yn y Babell Wybodaeth
- Wats clyfar: Caniateir watsiau chwaraeon a hyfforddi (e.e. Garmins) ond sylwer, ni chaniateir dyfeisiau MP3 personol.
- Het: yn ddefnyddiol mewn tywydd heulog
- Sbectol haul: nid yn unig ddefnyddiol mewn tywydd heulog – os yw’n bwrw glaw yn drwm a rydych yn gwisgo lensys cyswllt, gall sbectol haul helpu i atal dŵr a chwistrelliadau rhag mynd i mewn i’ch llygaid.
- Eli haul: mae’n bwrw glaw yn Abertawe bob hyn a hyn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio eli haul os bydd yr haul yn gwenu
- Ar ôl y ras: geliau neu ddiodydd egni, tywelion a dillad sych
- Cot ac ymbarél: Yn ddefnyddiol i unrhyw wylwyr sydd wedi dod i’ch gwylio!
Cwestiynau Cyffredin
Oes gennych ragor o gwestiynau? Ewch i’n tudalen arweiniad i’r ras – yno ceir Cwestiynau Cyffredin ac atebion manwl i’ch helpu
This post is also available in: English