RAS 2020 WEDI’I GOHIRIO
Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd bae eiconig, hyfryd Abertawe ac mae ar agor i bobl o bob gallu 15+ oed. Mae’r cwrs yn boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a thro cyntaf oherwydd bod y cwrs gwastad a chyflym yn gyflwyniad perffaith i redeg ffordd ac yn berffaith ar gyfer gwella ar eich amser gorau. Mae hyn i gyd, ar y cyd ag awyrgylch teulu gwych yn golygu bod y ras wedi ennill gwobr arian ar gyfer y 10k gorau yn y DU am y ddwy flynedd ddiwethaf yng Ngwobrau Rhedeg y DU.
Y llynedd, cawsom ein henwi fel y ras 10k Orau yng Nghymru yn y Gwobrau Rhedeg – diolch i chi gyd am eich cefnogaeth!
Gwybodaeth am y Ras
- Dyddiad: 19 Medi 2021, 11am
- Arwyneb: Ffordd
- Cofrestru: Yn llawn
- Amgylchedd: Dinas
- Proffil: Fflat
- Traffig: Na
- Marcwyr Pellter: 5km
- Gorsafoedd Dŵr: Oes
- Cyfleusterau’r Lleoliad: Toiledau, cawodydd, parcio, arlwyo, cymorth cyntaf
- Terfyn y Ras: 4500
- Gwobrau: Oes
- Aelodau: I’w gadarnhau
- Gwesteion: I’w gadarnhau
- Aelodau UKA: £25.50
- Heb fod yn aelod: £27.50
Eich proffil Members Hub
Angen newid eich manylion? Methu cofio a ydych wedi cofrestru neu beidio? Peidiwch â phoeni, mewngofnodwch i’ch proffil Members Hub ar RealBuzz a gallwch wirio unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cais Ras 10k Bae Abertawe Admiral.
Os ydych chi’n sefydliad neu’n grŵp sy’n cynnwys 10 neu fwy o bobl sydd am gofrestru ar gyfer 10k Admiral Bae Abertawe, e-bostiwch ni gan ein bod yn gweithio ar broses cofrestru grwpiau mawr ar eich cyfer!
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau Arbennig drwy ffonio: 01792 635428 yn ystod y dydd neu e-bostio 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk
Photo-fit.com yw ffotograffwyr swyddogol y 10k – ewch i edrych ar ôl y ras i weld eich llun.
This post is also available in: English