Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
    • English (English)
You are here: Home / Ymarfer corff yn y swyddfa i wella’ch hyfforddiant

Ymarfer corff yn y swyddfa i wella’ch hyfforddiant

Awst 18, 2014 By Chris Williams

Gyda chynifer o’n rhedwyr yn eistedd wrth ddesg trwy’r dydd, roedden ni eisiau awgrymu rhai ymarferion difyr i’w gwneud yn y swyddfa i wella’ch perfformiad a’ch rhaglenni hyfforddi.

Y cyntaf yw  codi coesau mewn sedd, ffordd lechwraidd o ymarfer corff o dan y ddesg wrth deipio. Codwch un goes, neu’r ddwy, am 5 eiliad a’u gostwng eto, gan ailadrodd hyn gynifer o weithiau ag sy’n teimlo’n gyfforddus. Teimlo’n heini? Beth am ychwanegu pwysau? Clymwch bwrs neu strapen neu fag dogfennau dros eich migwrn wrth godi’ch coes(au).

Eistedd yn erbyn wal, wrth aros am y llungopïwr neu i’r tegell ferwi. Dyma ymarfer gwych ar gyfer eich morddwydydd a’ch craidd.

Codi’ch ysgwyddau (rhybudd – peidiwch â gwneud hyn yn ystod cyfarfodydd oni bai’ch bod chi eisiau mynegi barn, neu wrth siarad â’ch pennaeth), ond bydd codi’ch ysgwyddau, ac ymlacio eto, yn eich helpu i gael gwared ar straen, yn ogystal â helpu gyda ffyrfhau’ch ysgwyddau a’ch gwddf.

Gwasgu’n dawel mewn sedd, er mwyn cael cyhyrau ffolen duwiol, wrth deipio neu ddarllen eich e-byst, tynhewch eich ffolennau, eu dal, a’u rhyddhau – mor syml â hynny – a bydd gennych ben-ôl cyn pen dim.

Cyhyrau abdomen haearn llechwraidd, yn debyg i’r uchod ond canolbwyntiwch ar eich cyhyrau abdomen yn hytrach na’ch ffolennau. Yn fuan bydd gennych gyhyrau abdomen sy’n haeddu haul yr haf.

Defnyddio’r grisiau, syniad syml iawn yn wir, ond os ydych fel arfer yn defnyddio’r lifft, rhowch gynnig ar y grisiau ac yn fuan byddwch yn llosgi’r calorïau ac yn ymarfer eich coesau. Gan y byddwch ond yn mynd ychydig o loriau bob tro, ar y cyd, bydd gwneud hyn sawl gwaith y dydd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth.

Allwch chi feddwl am fwy o ymarferion swyddfa cyfeillgar, difyr a syml a fydd yn helpu rhedwr 10k eraill? 

———————————

Oddi wrth eich rhedwr cymdogaeth cyfeillgar

This post is also available in: English

Filed Under: Heb Gategori

Erthyglau ddiweddar

  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Elusennau allweddol yn elwa o Ras Masgotiaid 10k Bae Abertawe Admiral
  • Excitement mounts as 10k race packs go out

Partner Radio

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea at 50 Swansea Council logo

Copyright © 2019 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.