Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
You are here: Home / Uncategorized @cy / Ar y trywydd iawn

Ar y trywydd iawn

Awst 27, 2013 By Chris Williams

Es i ar fy nhaith redeg nesaf neithiwr ar ôl seibiant o bythefnos (roedd penwythnos i ffwrdd a haint ar y fron yn llythrennol wedi fy atal rhag rhedeg.)  Bellach mae’n fis Mawrth ac nid wyf yn rhedeg gyda’r nos fel arfer ond rhaid i chi ddychwelyd i’ch esgidiau ymarfer cyn gynted â phosib ar ôl cyfnod o beidio â rhedeg (o leiaf dyna beth wedais i wrtha i fy hun) ac roedd hi’n noson hyfryd – yn gynnes ac yn heulog, sy’n dywydd arferol ym mis Mawrth.

Roedd hi’n iawn, roedd pobl yn gallu fy ngweld yn fy nhop rhedeg llewychol (roeddwn ar y palmant ond…byddwch ddisglair, byddwch ddiogel) ond hanner ffordd trwy fy nhaith redeg, bu farw’r batri ar fy ffôn ac roedd yn rhaid i mi wrando ar fy anadlu yn hytrach na’r app gyda’r llais Americanaidd yn fy annog ac yn dweud wrthyf pa mor bell roeddwn wedi rhedeg felly nid oedd hynny’n llawer o hwyl.  Roeddwn wedi cwblhau fy nhaith redeg mewn hanner awr y tro hwn, felly ychydig yn gynt. 🙂

Es i ar yr un llwybr ag o’r blaen, yn bennaf i weld a allaf redeg ychydig yn gynt ond nid wyf yn siŵr a oeddwn wedi gwneud hynny.  Nid oeddwn wedi mwynhau cymaint y tro hwn a bellach mae gennyf ewin bys troed tost (braidd yn rhyfedd, efallai ei fod yn amser cael esgidiau newydd) ond rwy’n falch fy mod wedi gallu rhedeg heb stopio eto.  Byddaf yn mynd ar fy nhaith redeg nesaf ar ddiwedd yr wythnos ac rwy’n meddwl am redeg ar lwybr newydd i weld a ydw i’n gwella.

Filed Under: Uncategorized @cy

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.