|| ||

Dinas a Sir Abertawe

Website URL : http://www.swanseabay10k.com/index.cfm?articleid=21882
||

Teithio a Pharcio

Where to stay, how to get here & where to park

Teithio mewn Car

Ceisiwch ein helpu drwy gyrraedd yn gynnar gan fod y meysydd parcio'n llenwi'n gyflym ac mae traffig yn cynyddu'n sylweddol ger maes parcio'r prif ddigwyddiad.  Llunnir cynllun rheoli traffig manwl a bydd ffyrdd yn cau oddeutu 12.15pm.

Wrth ddod o'r meysydd parcio ar droed, cymerwch ofal a chroesi wrth y mannau croesi dynodedig yn unig.  Mae hyn yn bwysig iawn yn enwedig ar ddiwedd y digwyddiad pan fyddwch yn dychwelyd at eich ceir, oherwydd byddwch yn croesi ffordd ddeuol brysur iawn.


Sut ydw i'n cyrraedd ar y bws?

O orsaf fysus y Cwadrant yng nghanol y ddinas, bydd y bysus canlynol yn eich cludo i Faes Rygbi San Helen : 2 / 2A / 2B / 3 / 3A.


Ble gallaf barcio?

Gallwch barcio am ddim ar y "Rec" a'r Cae Lacrosse (erbyn 12.00pm fan bellaf), ger Maes Rygbi San Helen, ac o flaen ac wrth ochr Neuadd y Ddinas, Abertawe.  Gorlif - Prifysgol Abertawe a Neuadd y Sir.

D.S.

Croeswch i fan dechrau'r ras yn y MANNAU CROESI DYNODEDIG yn unig.  Ni fydd ceir sy'n parcio yn y "Rec" yn cael gadael rhwng 12.15pm a 1.30pm.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Friday June 4 2010