|| ||

Dinas a Sir Abertawe

Website URL : http://www.swanseabay10k.com/index.cfm?articleid=22014
||

Cyn y Ras

answers on What to do before the race?

Cysgwch ar gyfer ras dda

Y noson cyn ras, byddwch yn teimlo'n gyffrous neu'n bryderus, felly peidiwch â dibynnu ar gysgu'n dda. Yn lle hynny, sicrhewch eich bod wedi gorffwys ddigon yn y nosau cyn y diwrnod mawr. Peidiwch â phoeni, ni fydd un noson o orffwys gwael yn effeithio ar eich perfformiad.


Cynlluniwch eich brecwast cyn y ras

Penderfynwch ymlaen llaw beth rydych yn mynd i'w fwyta a phryd rydych yn mynd i'w fwyta. Cadwch at fwyd profedig rydych wedi'i ddefnyddio wrth ymarfer. Os oes rhaid i chi deithio i'r ras, dewch â bwyd gyda chi. Peidiwch â dibynnu ar 'ddod o hyd iddo'.


Cadwch at yr hyn rydych yn ei wybod

Mae'r rheol 'peidiwch byth â rhoi cynnig ar rywbeth newydd ar ddiwrnod y ras' yn gymwys i offer a bwyd. Efallai byddwch yn ysu gwisgo crys T ras sgleiniog newydd, rhoi cynnig ar ddiod chwaraeon blas newydd ar y funud olaf neu esgidiau newydd hyd yn oed, ond os nad ydych wedi cael profiad blaenorol ohonynt, gallent ddifrodi'ch ras.


Beth yw amseroedd dechrau a lleoliadau'r rasys?

Maes parcio Lôn Sgeti
Ras 1k 11am i blant 7 oed ac yn iau
Ras 1k 11.15am i blant rhwng 8 ac 11 oed

Lido Blackpill
Ras 3k 11.30am i blant rhwng 9 a 14 oed

Gyferbyn â Chae San Helen
Ras 10k Bae Abertawe Admiral

Llinell ddechrau ar gyfer Ras Masgotiaid 100 metr
Ras Masgotiaid 1.05pm


Ble mae'r man ymgynnull?

Mae'r man ymgynnull ar y ffordd ddeuol ar Heol Ystumllwynarth (y tu allan i Gae Rygbi San Helen) o oddeutu 12.30pm. Bydd cyfnod ymgynhesu o 10 munud cyn y ras.

Ar gyfer prif ras 10k Bae Abertawe Admiral, bydd y man ymgynnull yn cael ei rhannu'n barthau band amser. Dylech ymgynnull yn y man sy'n cyfateb i'r amser y disgwylir i chi orffen y ras ynddo. Dylai hyn sicrhau eich bod yn rhedeg gyda rhedwyr o allu tebyg er mwyn rhoi'r profiad a'r amser terfynol gorau posib i chi.

Cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer traffig a pharcio wrth gynllunio'ch taith.


Beth sydd yn fy mhecyn ras?

Bydd y pecynnau ras yn cael eu hanfon at yr holl gyfranogwyr ddwy wythnos cyn y ras. Mae'ch pecyn ras yn cynnwys eich rhif ras, chip amseru a llyfryn gwybodaeth i'ch paratoi ar gyfer y diwrnod.


A oes rhaid i mi gofrestru ar y diwrnod?

Nac oes - mae'r ras 10k yn llawn, felly ni fydd modd cofrestru ar y diwrnod.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Friday June 18 2010