|| ||

Dinas a Sir Abertawe

Website URL : http://www.swanseabay10k.com/index.cfm?articleid=22183
||

Anafiadau Rhedeg

cyffredinol anafiadau rhedeg


1. Tendonitis gweyllen y ffêr

2. Pen-glin rhedwr

3. Sblintiau'r Grimog


Tendonitis gweyllen y ffêr

Diffiniad - Llid y tendon gweyllen y ffêr yw hwn.  Gweyllen y ffêr yw'r tendon mawr sy'n cysylltu dau brif gyhyr croth y goes â chefn asgwrn y sawdl. O dan ormod o straen, mae'r tendon yn tynhau a chaiff ei orfodi i weithio'n rhy galed. Mae hyn yn achosi iddo chwyddo (hynny yw, tendonitis), a, thros amser, gall arwain at ei orchuddio â meinwe craeth, sy'n llai hyblyg na'r tendon. Os bydd gweyllen y ffêr sydd wedi chwyddo o dan fwy o straen, gall rwygo neu dorri.

Achosion - Gall hyn gael ei achosi gan gyhyrau croth y goes sy'n dynn neu'n flinedig, sy'n trosglwyddo'r baich rhedeg i'r ffêr. Gall hyn fod yn sgil ymestyn gwael, cynyddu'r pellter yn gyflym, neu orymarfer drwy redeg ar fryniau neu waith rhedeg yn gyflym, a gall y ddau roi mwy o straen ar y ffêr na mathau eraill o redeg.  Mae rhedwyr sy'n troi eu traed yn rhy bell i mewn wrth lanio'n fwy tebygol o ddatblygu tendonitis y ffêr.

Triniaeth – Dylech gael hoe o redeg am tua 5-7 niwrnod, a rhoi iâ ar yr anaf.  Osgowch weithgareddau lle bydd rhaid i chi symud pwysau a chadwch eich troed i fyny lle bynnag y bo'n bosibl.


Pen-glin rhedwr

Diffiniad - Meddalu neu dreulio a chracio'r cartilag o dan y pen-glin, sy'n arwain at boen a chwyddo. 

Achosion – Troi eich traed i mewn ormod wrth redeg, sy'n gallu achosi i'r badell pen-glin droi i'r ochr.  Gall gwendid, yn enwedig ar ran fewnol y cwadriceps, atal y badell pen-glin rhag olrhain yn llyfn.  Gall esgidiau anghywir neu esgidiau sydd wedi treulio fod yn achosion hefyd.

Triniaeth – Dylech roi'r gorau i redeg am tua 5-7 diwrnod, a rhoi iâ ar yr anaf.  Osgowch weithgareddau lle bydd rhaid i chi symud pwysau a chadwch eich troed i fyny lle bynnag y bo'n bosibl.


Sblintiau'r Grimog

Diffiniad - Chwyddo'r ymlyniadau cyhyr i'r tibia (asgwrn y grimog) ar y tu mewn i flaen rhan isa'r goes.

Achosion - Cyhyrau anhyblyg y groth goes a thendonau tynn y ffêr.
Troi eich traed i mewn gormod wrth lanio, sy'n gallu achosi i'r badell pen-glin droi i'r ochr.  Gall gwendid, yn enwedig ar ran fewnol y cwadriceps, atal y badell pen-glin rhag olrhain yn llyfn.  Gall esgidiau anghywir neu esgidiau sydd wedi treulio fod yn achosion hefyd.

Mae'r rhai sydd dim ond yn dechrau rhedeg yn fwy agored i'r broblem hon am amrywiaeth o resymau, ond yn fwyaf cyffredin yn sgil y ffaith nad yw cyhyrau'r coesau wedi cael cymaint o straen o gymharu â chyn iddynt ddechrau rhedeg.

© 2010 Dinas a Sir Abertawe
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Thursday June 17 2010