Yr amser buddugol gorau: 32.36 – Rehab Ddungu (Kenya) 2004
Yr amser buddugol arafaf: 35.21 – Nicky Morris (Luton) 1990
Cofnodwyd amserau o dan 35 munud 55 o weithiau, sy'n cynnwys 24 o weithiau pan gofnodwyd amserau o dan 34 munud a 2 waith o dan 33 munud.
Mae 46 menyw wedi rhedeg o dan 35 munud, sy'n cynnwys 21 menyw sydd wedi rhedeg o dan 34 munud a 2 fenyw sydd wedi rhedeg o dan 33 munud.
3 menyw'n unig sydd wedi ennill y ras fwy nag unwaith – Ann King (Caerfyrddin/Abertawe) (1983 a 1984) a Julia Gates (Caerfaddon) (1985 a 1987), Miriam Wangari (yn y gystadleuaeth o dan 21 ar y ddau achlysur) (Kenya) (2001, 2002).
Rehab Ddungu (Kenya) 32.36 yn 2004 a Lucia Subano (Kenya) 32.52 ym 1997 yw'r unig fenywod i ennill y ras mewn llai na 33 munud.
Birhan Dagne (Essex/PF) sy'n dal 4 o'r 20 amser cyflymaf a osodwyd am y ras a hi yw'r unig fenyw yn hanes y digwyddiad i redeg bedair gwaith o dan 34.00 munud - 1997 (33.43), 1998 (33.36) a 2000 (33.27) gan orffen yn ail ar bob achlysur a gorffen yn 3ydd yn 2004 (33.46)
Yr unig athletwyr eraill i redeg o dan 34.00 mwy nag unwaith yw Julia Gates (Caerfaddon) pan enillodd ym 1985 (33.29) ac ym 1987 (33.49), Miriam Wangari (Kenya) pan enillodd yn 2001 (33.36) ac yn 2002 (33.36) ac yn ail yn 2004 (33.33) ac Andrea Green (Dartford) pan ddaeth yn 3ydd yn 2000 (33.41) a 3ydd hefyd yn 2002 (33.58).
Mae Amanda Wright (Birchfield) wedi rhedeg o dan 35.00 bedair gwaith – (1994 – 34.05 – 2il) , (1997 – 34.48 – 4ydd), (2002- 33.46 – fel Amanda Wright-Allen), (2004 - 34.44 -5ed) ynghyd â Miriam Wangari (Kenya), yr unig fenyw i redeg o dan 35.00 4 gwaith yn olynol (2001-33.36-1af, 2002-33.36 -1af, 2003 - 34.16, 2004 -33.33 -2il)
Caerfaddon yw'r clwb mwyaf llwyddiannus gan roi enillydd ras y menywod 4 gwaith gyda 3 gwobr gyntaf yn olynol ym 1985, 1986, 1987.
Yn ystod 27 mlynedd y ras i fenywod mae'r enillwyr wedi dod o 5 gwlad yn unig. Kenya (10), Cymru (8), Lloegr (8), yr Alban (1), Canada (1). (DS: Ni chafwyd ras ar wahân i fenywod yn nigwyddiad 1988 oherwydd roedd y digwyddiad cyfan wedi'i gynnwys fel rhan o ras Charity Sport Aid gyda'r rhedwr cyntaf i orffen yn unig yn cael ei amseru.)

Cysylltiadau