Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Home
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
      • 3k Race
    • Wheelchair race
    • Mascot Race
  • Results
    • Race Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Course Map
    • Race Guide
    • Travel and Parking
    • First Timers
    • Race Rules – T&Cs
    • Volunteers
    • Run for Charity
    • Running Clubs
  • Partners and Sponsors
  • News

Pobl sy’n rhedeg am y tro cyntaf

Os dyma’ch ras 10k Bae Abertawe Admiral gyntaf, neu os dyma’ch ras gyntaf erioed, mae’n naturiol bod gennych lawer o gwestiynau ac y byddwch ychydig yn nerfus am y diwrnod mawr. Beth mae ei angen arnaf? Ble dylwn i fynd pan fyddaf yn cyrraedd? Beth sy’n digwydd ar y llinell derfyn? Does dim angen i chi boeni – rydym wedi llunio’r arweiniad hwn i’r rheiny sy’n cymryd rhan am y tro cyntaf i’ch arwain drwy’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn eich ras gyntaf. Mae’n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod fel y gallwch fwynhau’r profiad cymaint â phosib!


Cyn diwrnod y ras

  • Y peth pwysicaf yn gyntaf, cofiwch gofrestru! Does dim modd cofrestru ar y diwrnod, ac ni fydd cyfle chwaith i gofrestru ar ôl y dyddiad cau, sef 31 Awst (neu unwaith y bydd pob lle yn llawn). Does dim byd yn waeth na mynd ati i hyfforddi a chodi arian am fisoedd ac yna darganfod nad!
  • Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn agored i bobl o bob gallu, p’un a ydych yn rhedwr profiadol sydd am wynebu her neu’n rhywun sy’n chwilio am ras hwyl i godi arian at achos da. Waeth beth yw eich lefel sgil neu’ch cyflymder, does dim angen i chi boeni – mae’r awyrgylch yn un difyr a hamddenol, a chewch ddigon o gefnogaeth gan wylwyr i’ch helpu chi, a rhedwyr dibrofiad eraill fel chi, i groesi’r llinell.
  • Mae’n ddefnyddiol i chi wneud rhywfaint o hyfforddiant cyn y ras, ac ar-lein cewch gannoedd o ganllawiau rhedeg a rhaglenni hyfforddiant i ddechreuwyr a rhedwyr profiadol. Cymerwch gipolwg ar y rhain i ddod o hyd i un sy’n addas ar gyfer eich gallu a’ch amserlen.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser teithio, oherwydd gall yr ardal fod yn brysur (bydd ffyrdd ar gau hefyd, gan fod rhan o’r cwrs ar y ffordd).
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych bopeth angenrheidiol ymlaen llaw, yn enwedig esgidiau rhedeg. Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral ar fore dydd Sul, felly bydd yn anodd cael gafael ar unrhyw beth y byddwch wedi’i anghofio!
  • Peidiwch â gwneud y camgymeriad o brynu esgidiau rhedeg newydd sbon ar gyfer diwrnod y ras – gallan nhw rwbio’r croen a bod yn anghyfforddus, gan ddifetha’ch profiad o’r ras. Rhedwch yn yr esgidiau rhedeg rydych yn eu defnyddio fel arfer i hyfforddi ac y gwyddoch y byddan nhw’n iawn ar gyfer yr holl ras.
  • Y noson gynt, gwnewch restr wirio i sicrhau bod gennych bopeth yn barod ar gyfer y bore (rydym hyd yn oed wedi llunio rhestr fras i’ch helpu chi – sgroliwch i lawr i waelod y dudalen). Rhowch eich pethau’n barod a cheisiwch gael noson dda o gwsg.

Diwrnod y Ras

  • Nid yw 10k yn bellter hir, ond bydd angen egni arnoch o hyd. Bwytwch frecwast da, neu o leiaf far neu gel maeth cyn y ras.
  • Cofiwch, cyhyd ag yr ydych wedi cofrestru, nid oes rhaid gwneud hynny ar y safle – gallwch gyrraedd a rhedeg.
  • Yn bwysicaf – gwnewch yn siŵr bod eich rhif ras wedi’i gysylltu’n sownd yn eich top. Mae’r rhif ras yn cynnwys eich sglodyn amseru – hebddo, ni fyddwch yn cael amser wrth groesi’r llinell.
  • Wrth i amser dechrau’r ras agosáu, ewch i Mumbles Road. Gwnewch yn siŵr nad ydych yn cerdded drwy’r bwa amseru – bydd hyn yn effeithio ar eich sglodyn amseru gan y byddwch yn croesi’r matiau amseru.
  • Cadwch lygad ar y pyst lamp ar hyd y ffordd – fe welwch arwyddion lliw mawr gydag amserau arnyn nhw, e.e. 40 munud, 50 munud etc. Mae hyn ar gyfer eich amser gorffen disgwyliedig – ewch i’r ‘lloc’ sy’n cyd-fynd â’ch amser gorffen disgwyliedig Bydd hyn yn eich helpu i gael y gorau o’r ras – byddwch ymhlith rhedwyr eraill o’r un gallu â chi a fydd yn rhedeg fwy neu lai ar yr un cyflymdra â chi, a byddwch hefyd yn agos i un o’n penwyr cyflymder.
  • Nid yw’r llociau amseru’n sefydlog, felly peidiwch â phoeni os ydych yn y lle anghywir! Maen nhw yno fel arweiniad i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch ras.
  • Os ydych yn rhedwr araf, peidiwch â mynd i’r blaen oherwydd gall fod yn eithaf brawychus pan fydd rhedwyr mwy profiadol yn rhedeg o’ch cwmpas!

Dyna ni – rydyn chi’n barod ar gyfer dechrau’r ras. Cadwch eich hun yn dwym ac arhoswch am yr ergyd gychwyn. Dywedwch helô wrth y rhedwyr o’ch cwmpas a gwnewch ffrindiau newydd – bydd llawer ohonyn nhw yr un mor nerfus â chi!


A bant â ni!

  • Bydd y gwn yn tanio, a’r ras yn dechrau! Gan ddibynnu ar eich lle yn yr ardal ddechrau, gall gymryd sbel i chi gyrraedd y llinell gychwyn. Peidiwch â phoeni am hyn yn effeithio ar eich amser gan y bydd ond yn dechrau pan fyddwch yn croesi’r llinell gychwyn.
  • Cadwch lygad am faneri melyn yn y dorf – dyma’n penwyr cyflymder. Os ydych yn anelu at amser penodol, arhoswch yn agos atynt!
  • Dilynwch y ffordd yr holl ffordd i lawr i’r Mwmbwls a’r pwynt troi a fydd yn eich arwain i’r prom. Rydych chi hanner ffordd yno!
  • Yfwch os oes angen i chi wneud hynny, ond cofiwch gario’ch poteli gyda chi neu eu taflu yn y biniau ailgylchu a ddarperir (yr un peth os ydych yn defnyddio geliau ras neu unrhyw fwyd/diod arall sy’n cynhyrchu gwastraff). Cofiwch, mae gorsafoedd dŵr ger y pwynt 5k ac wrth y llinell derfyn
  • Os nad ydych yn gyfarwydd â rhedeg gydag eraill, cofiwch barhau i redeg ar eich cyflymdra’ch hun – mae’n hawdd mynd ar gyfeiliorn wrth redeg gyda phobl sydd wrth eich ochr wrth i chi sylweddoli eich bod yn rhedeg yn llawer cyflymach na’ch cyflymdra arferol!
  • Os ydych yn teimlo’ch bod yn dechrau cael anhawster, arafwch a cherddwch. Mae llawer o redwyr yn defnyddio ymagwedd cerdded a rhedeg.
  • Ewch ar hyd y prom a bae godidog Abertawe, a daliwch ati i redeg nes i chi weld y llinell derfyn!
  • Os bydd angen help arnoch ar unrhyw bwynt, bydd marsialiaid cwrs a stiwardiaid ar hyd y llwybr i’ch helpu.

Ar ôl y Ras

Rydych chi wedi llwyddo! Rydych wedi croesi llinell derfyn eich ras 10k Bae Abertawe Admiral gyntaf erioed!

  • Er y bydd yn demtasiwn i stopio cyn gynted ag yr ydych yn croesi’r llinell derfyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i symud ymlaen – bydd llawer o redwyr ar y cwrs, a byddant y tu ôl i chi ac efallai na fyddant yn gallu stopio mewn pryd!
  • Cewch eich tywys drwy’r “sianelau’ lle gallwch godi dŵr, ffrwyth a medal 10k hollbwysig!

Parhewch i fynd yn eich blaen a byddwch yn dod allan ger pentref y rhedwyr, lle bydd ffrindiau a theulu’n aros amdanoch. Casglwch eich bagiau os ydych wedi storio rhai, ac ewch adref i orffwys eich traed a chael hoe a diod haeddiannol – cofiwch yfed digon!


Canlyniadau

Ychwanegir canlyniadau ar-lein ar ein tudalen canlyniadau yn ddiweddarach ar y diwrnod (byddwn yn eu rhoi ar ein tudalen Facebook pan fyddant ar-lein). Byddwch yn gallu chwilio am eich enw neu drwy rif y bib.

A dyna ni! Cyn i chi sylweddoli, byddwch wedi cwblhau 10k Bae Abertawe Admiral, a bydd gennych fedal gorffennwr yr oeddech wedi rhoi’ch bryd arni i’w hedmygu. Ond yn bwysicaf oll, cofiwch fwynhau eich hun!


Rhestr wirio

Defnyddiwch ein rhestr wirio ddefnyddiol i’ch helpu i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr. Efallai na fydd angen popeth arnoch, ond mae’n fan cychwyn defnyddiol;

  • Rhif Ras: hanfodol gan ei fod yn cynnwys eich sglodyn amseru
  • Cyfeiriadau i’r digwyddiad: Defnyddiol os nad ydych yn gyfarwydd â’r ardal neu os ydych yn teithio yma
  • Esgidiau rhedeg
  • Sanau
  • Dŵr/geliau/diod chwaraeon
  • Trowsus cwta
  • Fest/crys T
  • Taleb crys T: fyddwch chi ddim yn gallu codi’ch crys T y ras hebddi
  • Label bag: bydd angen hwn arnoch os ydych yn bwriadu gadael bag yn y Babell Wybodaeth
  • Wats clyfar: Caniateir watsiau chwaraeon a hyfforddi (e.e. Garmins) ond sylwer, ni chaniateir dyfeisiau MP3 personol.
  • Het: yn ddefnyddiol mewn tywydd heulog
  • Sbectol haul: nid yn unig ddefnyddiol mewn tywydd heulog – os yw’n bwrw glaw yn drwm a rydych yn gwisgo lensys cyswllt, gall sbectol haul helpu i atal dŵr a chwistrelliadau rhag mynd i mewn i’ch llygaid.
  • Eli haul: mae’n bwrw glaw yn Abertawe bob hyn a hyn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio eli haul os bydd yr haul yn gwenu
  • Ar ôl y ras: geliau neu ddiodydd egni, tywelion a dillad sych
  • Cot ac ymbarél: Yn ddefnyddiol i unrhyw wylwyr sydd wedi dod i’ch gwylio!

Cwestiynau Cyffredin

Swansea Bay 10k race guide and FAQs

Oes gennych ragor o gwestiynau? Ewch i’n tudalen arweiniad i’r ras – yno ceir Cwestiynau Cyffredin ac atebion manwl i’ch helpu

Recent News

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Erthyglau ddiweddar

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Copyright © 2023 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT