Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Home
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
      • 3k Race
    • Wheelchair race
    • Mascot Race
  • Results
    • Race Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Course Map
    • Race Guide
    • Travel and Parking
    • First Timers
    • Race Rules – T&Cs
    • Volunteers
    • Run for Charity
    • Running Clubs
  • Partners and Sponsors
  • News
You are here: Home / Cwestiynau ar gyfer Straeon Llwyddiant y 10k

Cwestiynau ar gyfer Straeon Llwyddiant y 10k

June 24, 2014 By Chris Williams

I ddechrau, diolch am gytuno i rannu eich straeon. Isod, mae enghreifftiau o gwestiynau a allai fod o ddiddordeb i’ch cyd-redwyr yn Ras 10K Bae Abertawe Admiral.

  • Ar ba adeg yr oeddech yn credu yr hoffech fod yn ffit ac yn iach?

Oedd hyn o ganlyniad i bryderon iechyd, rhesymau chwaraeon, hunan-hyder…

Yn rhyfedd iawn, dechreuodd yr holl beth o fod yn ddiog.  Roeddwn newydd wahanu oddi wrth fy ngwraig (wedi ysgaru erbyn hyn) ac wedi symud i’m lle fy hun.  Ar ôl ychydig fisoedd o fod heb lawer o ddiddordeb mewn coginio i mi fy hun ac o fwyta allan o duniau, penderfynais ar hap wario darn 50c cyfan ar y peiriant pwyso yn fy siop Tesco leol.  Ac er syndod i mi, darganfues i fy mod wedi colli bron 2 stôn heb unrhyw ymdrech o gwbl mewn gwirionedd.

  • Hyd yn hyn, faint o bwysau rydych chi wedi colli?

Hyd heddiw (2 Mehefin), rwyf wedi colli 11.5 stôn neu 157lb

  • Beth oedd eich her fwyaf yn ystod eich stori colli pwysau?

E.e. adeg y Nadolig, yn ystod yr haf, yn ystod cyfnodau straen yn eich bywyd?

Straen bob tro… Mae fy mhwysau dros y 7 mlynedd diwethaf, diolch byth, wedi gostwng, ond bu adegau pan ostyngais i 17 stôn ac yna dychwelyd i 20 stôn, yna nôl lawr i 18 stôn a nôl i 19.5.  Yn gyffredinol, pe bawn i wedi colli pwysau yn unig a ddim cynyddu o gwbl baswn i wedi cyrraedd fy nharged 4 mlynedd yn ôl.

  • Pa bethau da sydd wedi digwydd o ganlyniad i dy newidiadau?

e.e. Iachach, mwy o egni,

Yn sicr rwy’n llawer mwy heini, peidio â chael coesau marw ar ôl eistedd ar y toiled, peidio â meddwl y bydd y bath yn torri pan fyddaf yn cael cawod.  Roeddwn i bron â bod yn ddiabetig ac roeddwn i’n dioddef o bwysau gwaed uchel pan oeddwn i’n 25.5 stôn.  Y tro diwethaf i mi gael prawf gwaed dywedodd y doctor, os unrhyw beth, roedd lefel y siwgr yn fy ngwaed ychydig yn isel ac roedd fy mhwysau gwaed bron yn berffaith.

  • Beth yw eich hoff flogiau, llyfrau neu gylchgronau iechyd a ffitrwydd yr ydych yn eu darllen?

Rwy’n tueddu i beidio â defnyddio unrhyw beth mewn gwirionedd. Os ydw i’n poeni am rywbeth, efallai y byddaf yn gwneud ychydig o ymchwil ar google am noson.  Rydw i wedi, fodd bynnag, cadw blog personol yr wyf wedi defnyddio ar gyfer agweddau eraill ar fy mywyd ond hefyd am fy nheimladau am golli pwysau. Mae’r blog yn kilveryshaman.wordpress.com os oes diddordeb gan unrhyw un.

  • Beth yw eich hoff fwyd iachus i’w fwyta? Beth yw’r rysáit?

Swêds, gallwch ei fwyta gyda bron popeth, pasta, cyri, nwdls, ac mae’n eich llenwi ac yn isel iawn mewn calorïau.  Mae’r rhan fwyaf o fy nghoginio yn cynnwys sosban fawr ar y cwcer a byddaf yn rhoi cyw iâr wedi’i stemio ynddo, madarch, pupurau, moron, swêds a winwns ac yna ychwanegu saws, ac rwy’n ychwanegu reis, pasta neu nwdls.  Rwyf yna yn ei rannu’n dybiau bach tebyg i’r rhai o siopau bwyd Tsieineaidd i oddeutu 300 o galorïau yr un a’u rhoi yn y rhewgell.  Mae hyn yn cael gwared ar yr holl waith dyfalu wrth baratoi prydau ac rwy’n gwybod ei fod i gyd yn iachus.

  • Beth yw eich hoff bryd o fwyd hawdd?

Lolipops hufen iâ (6 am bunt yn Asda, Tesco neu Morrisons). Rwy’n tueddu i gael un y dydd fel trît (weithiau 2, os ydw i’n teimlo ychydig yn isel neu dan straen), ac maent, ar gyfartaledd, oddeutu 70 o galorïau.

  • Ydych chi’n cymryd unrhyw ychwanegiadau?

Nac ydw.

  • O ran bwyta’n dda, beth yw eich 3 argymhelliad gorau?

Nid ydw i o angenrheidrwydd yn dilyn y rhain, gwnewch yn siwr eich bod yn yfed digon, peidiwch â newynu a bob hyn a hyn rhowch drît i chi’ch hun (ewch allan am bryd o fwyd).

  • Beth yw eich hoff fath o ymarfer corff a pham?

Ar hyn o bryd rwy’n mynd i’r gampfa tua 5 gwaith yr wythnos ac yn treulio oddeutu 40 munud yn codi pwysau a 45 munud yn gwneud cardio.  Roeddwn i’n arfer dwlu ar loncian 26 mlynedd yn ôl ac rwy’n awyddus i ddechrau unwaith eto.  Nid wyf yn hoff o chwaraeon tîm, o bosib o ganlyniad i fod dros bwysau fel arfer.

  • Ydych chi wedi gorfod mynd i’r afael ag unrhyw anafiadau ar hyd y ffordd?

Nac ydw, dim anafiadau o ganlyniad i golli pwysau, os unrhyw beth mae fy iechyd wedi gwella.  Fodd bynnag, es i redeg fel arbrawf yn ddiweddar ac roedd yn gymaint o sioc i’m corff, roedd rhaid i mi ruthro i’r ystafell ymolchi pan ddychwelais i adref.

  • Beth sy’n eich ysgogi i barhau?

Mae llawer o bobl yn fy llongyfarch ac mae hyn yn codi fy hyder ac yn fy ngwneud yn fwy penderfynol i beidio â llithro’n ôl.  Bod yn enghraifft dda i’m mab, yr ydwyf ar hyn o bryd yn ceisio ei ysgogi i ddilyn fy ôl troed gan fod ganddo broblemau gyda’i bwysau.  Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf pwysig, fy nghariad, sydd wedi dysgu llawer i mi am goginio i mi fy hun a bwyta’n iach.

 

Diolch,

Sab

Filed Under: Uncategorized

Recent News

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Erthyglau ddiweddar

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Copyright © 2023 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT