Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Home
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
      • 3k Race
    • Wheelchair race
    • Mascot Race
  • Results
    • Race Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Race Guide
    • Course Map
    • Travel and Parking
    • First Timers
    • Race Rules – T&Cs
    • Volunteers
    • Run for Charity
    • Training
    • Running Clubs
  • Partners and Sponsors
  • News

Arweiniad Hyfforddi i Ddechreuwyr

Yr hyn sy’n allweddol i hyfforddi’n llwyddiannus yw adeiladu ar eich hyfforddiant yn raddol. Mae pawb yn gwneud cynnydd ar gyflymder gwahanol a bydd angen amser ar eich corff i addasu i’r gofynion newydd hyn. Felly, mae’n bwysig peidio â gadael i’ch brwdfrydedd fynd yn drech nag elfennau arweiniad hyfforddi sydd wedi’i strwythuro’n gywir, a dylech bob amser ganiatáu digon o amser gorffwys ac adfer rhwng sesiynau.

Os ydych chi’n flinedig ac yn teimlo fel bod angen ychydig o ddiwrnodau bant arnoch yna mae eich corff fwy na thebyg yn dweud wrthych i gamu nôl ychydig. Wrth gwrs, os ydych chi’n teimlo fel peidio â mynd i redeg oherwydd bod y tywydd yn ddiflas, mae hynny’n sefyllfa hollol wahanol. Sicrhewch eich bod yn cynnal cydbwysedd rhwng eich gwaith, eich teulu, ymrwymiadau eraill a’ch hyfforddiant fel bod rhedeg yn gwella’ch bywyd yn lle tarfu arno.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar adeiladu’ch ffitrwydd ar gyfer rhedeg ras 10k yn benodol dros 16 wythnos, fel eich bod yn barod ar gyfer y digwyddiad ar ddiwedd y rhaglen. Mae’r rhaglen yn gynyddol ond gallwch ddechrau ar unrhyw gam sy’n addas ar gyfer eich hyfforddiant presennol os ydych chi eisoes yn hyfforddi.

Mewnwelediad

ShapePeidiwch â bod yn gaeth i’r cynllun! Mae diwrnodau gorffwys, sesiynau adfer ac wythnosau mwy hamddenol wedi’u cynnwys yn y rhaglen. Bydd hyn yn sicrhau bod eich corff yn cael digon o amser i addasu i’r hyfforddiant. Fodd bynnag mae pawb yn wahanol ac os ydych chi’n teimlo y byddai diwrnod ychwanegol o orffwys yn gwneud lles i’ch hyfforddiant, ewch ati i wneud un o’r sesiynau byrrach yr wythnos honno.

Mae rhaglen hyfforddiant ein Partner Hyfforddiant swyddogol, Realbuzz, yn berffaith i chi.

Defnyddiwch yr arweiniad cyflymdra isod i fonitro dwyster eich hyfforddiant drwy bob cam o’r arweiniad 16 wythnos. 

Math o rediad hyfforddi   Mynegai dwyster  

1 = hawdd iawn 

10 = anodd iawn 

Disgrifiad 
Araf iawn   2  Hynod araf, mor hawdd, prin fod gwerth gwisgo’ch dillad rhedeg. 
Loncian yn hamddenol  3  Dim pwysau, ond cyfle i ddechrau ymarfer neu adfer ar ôl bod yn rhedeg. 
Loncian   4  Cyflymdra hamddenol ond ychydig yn gyflymach na loncian yn hamddenol. 
Cyfforddus   5  Gallwch siarad â’ch partner hyfforddi’n hawdd a chadw’r cyflymdra i fynd. 
Cyson   6  Rhediad ar gyflymdra cyson, gallu siarad mewn brawddegau byr 

 

Wythnos 1   Dechrau arni (1) 
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Cerddwch/lonciwch yn hamddenol am 10 munud  Dylech ei chymryd hi’n araf deg; peidiwch â meddwl am y cyflymdra, cerddwch/lonciwch am oddeutu 10 munud 
Dydd Mawrth  Gorffwyswch  Deuddydd o adfer  
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  Cerddwch/lonciwch yn araf am 10 munud  Sesiwn ddewisol, peidiwch â’i gwneud os ydych chi’n rhy flinedig neu’n rhy brysur 
Dydd Gwener  Gorffwyswch   
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch   
Dydd Sul  Lonciwch/cerddwch am 15 munud   Gallwch gael seibiannau cerdded rhwng y loncian os oes angen  

 

Wythnos 2  Dechrau arni (2) 
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Gorffwyswch  Cyfnod adfer yn dilyn sesiwn hirach dydd Sadwrn 
Dydd Mawrth  Cerddwch/lonciwch am 10 munud   
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  Cerddwch/lonciwch am 10 munud   
Dydd Gwener  Gorffwyswch   
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch   
Dydd Sul  Cerddwch/lonciwch am 10-15 munud  3 sesiwn lawn yr wythnos hon felly peidiwch â gwthio’ch hun yn ystod y 3edd sesiwn  

 

Wythnos 3  Adeiladu (1) 
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi  
Dydd Llun  Gorffwyswch  Adfer o sesiwn ddydd Sul  
Dydd Mawrth  Cerddwch/lonciwch yn hamddenol am 10 munud   
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  Lonciwch am 10 munud   
Dydd Gwener  Gorffwyswch  Deuddydd o orffwys cyn sesiwn hirach ddydd Sul 
Sadwrn  Gorffwyswch   
Dydd Sul  Lonciwch am 15 munud  Ceisiwch loncian cymaint â phosib 

 

Wythnos 4  Adeiladu (2) 
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyffordd 
Dydd Llun  10 munud ond yn hamddenol iawn   Sesiwn ‘cefn wrth gefn’ gyntaf Araf iawn! 
Dydd Mawrth  Gorffwyswch  Deuddydd o orffwys yn dilyn  y sesiwn cefn wrth gefn  
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  Cerddwch/lonciwch am 10 munud   
Dydd Gwener  Gorffwyswch   
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch   
Sul  Lonciwch am 15 munud  Ailadroddwch sesiwn ddydd Sul diwethaf, gan ganolbwyntio ar loncian heb stopio  

 

Wythnos 5  Adeiladu (3) 
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Gorffwyswch  Deuddydd o orffwys ar ôl sesiwn redeg ddydd Sul 
Dydd Mawrth  Gorffwyswch   
Dydd Mercher  Lonciwch yn hamddenol am 10 munud  Cadwch y cyflymder yn hamddenol iawn ond ceisiwch loncian heb stopio  
Dydd Iau  Gorffwyswch   
Dydd Gwener  Cerddwch/lonciwch yn araf am 10-15 munud   
Sadwrn  Gorffwyswch   
Sul  Cerddwch/lonciwch am 20 munud  Gosodwch ddau darged: 

 

 

  1. Lonciwch gymaint â phosib 

 

  1. Cadwch fynd am 20 munud os gallwch  

 

Wythnos 6   
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Gorffwyswch  Diwrnod gorffwys llwyr ar ôl ymdrech ddydd Sul  
Dydd Mawrth  Lonciwch am 10-15 munud   
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  Lonciwch am 10-15 munud   
Dydd Gwener  Gorffwyswch  Deuddydd o orffwys yn dilyn ymdrech fwy ddydd Sul  
Sadwrn  Gorffwyswch   
Sul  20-25 munud o  

loncian heb stopio  

Ymdrech fawr i ddal ati heb stopio  

 

Wythnos 7  Wythnos hyfforddiant brig gyntaf  
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Gorffwyswch   
Dydd Mawrth  10-15 munud o loncian yn araf    
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  10-15 munud o loncian yn araf   
Dydd Gwener  Gorffwyswch   
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch   
Dydd Sul  Lonciwch am 25-30 munud  Ceisiwch loncian am o leiaf 25 munud  

 

Wythnos 8  Wythnos adfer + rhediad cyflymach ddydd Sul  
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Gorffwyswch   
Dydd Mawrth  Gorffwyswch   
Dydd Mercher  Lonciwch am 10 munud  Dylech ei chymryd hi’n araf deg 
Dydd Iau  Gorffwyswch   
Dydd Gwener  15 munud o loncian – dewisol   Peidiwch â gwneud hyn os ydych wedi blino 
Sadwrn  Gorffwyswch   
Sul  15 – 20 munud o loncian ar gyflymdra sy’n gyfforddus   Llai o amser, yn gyflymach ond peidiwch â dechrau’n rhy gyflym 

 

Wythnos 9  Adeiladu – cam 2 
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  10 munud o redeg yn hamddenol er mwyn adfer   Lonciwch er mwyn adfer ar ôl sesiwn gyflymach ddoe 
Dydd Mawrth  Gorffwyswch   
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  15 munud – cyfforddus    
Dydd Gwener  Gorffwyswch  Deuddydd o orffwys cyn rhediad hirach ddydd Sul  
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch   
Dydd Sul  Lonciwch am 35 munud  Cynyddwch yr hyfforddiant bob wythnos nawr. Cofiwch fynd ar gyflymdra hamddenol.  

 

Wythnos 10
Diwrnod Hyfforddiant Nodiadau hyfforddi
Dydd Llun Gorffwyswch
Dydd Mawrth  20 munud hawdd
Dydd Mercher  Gorffwyswch
Dydd Iau  15 munud – cyfforddus Rhedwch yn gyflymach ond am lai o amser
 Dydd Gwener  Gorffwyswch
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch
Dydd Sul  Lonciwch am 40 munud Ychwanegwch 5 munud arall

 

Wythnos 11   
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Gorffwyswch   
Dydd Mawrth  20 munud hamddenol   
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  20 munud – cyfforddus   
Dydd Gwener  Gorffwyswch   
Dydd Sadwrn  Lonciwch am 45 munud  Dewiswch lwybr newydd er mwyn cael amrywiaeth  
Dydd Sul  Gorffwyswch   

 

Wythnos 12   
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyffordd 
Dydd Llun  20 munud – cyfforddus   
Dydd Mawrth  Gorffwyswch  Deuddydd o orffwys cyn rhediad cyflymach ddydd Iau  
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  20 munud – cyson  Sesiwn gyflymach ac ymestyn wedyn   
Dydd Gwener  Gorffwyswch   
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch   
Dydd Sul  Lonciwch am 50 munud   

 

Wythnos 13
Diwrnod Hyfforddiant Nodiadau hyfforddi
Dydd Llun Araf iawn, 15 munud Cyfle i adfer
Dydd Mawrth 20 munud – cyfforddus 4ydd rhediad yr wythnos hon – dewisol
Dydd Mercher Gorffwyswch
Dydd Iau 25 i 30 munud – hamddenol
Dydd Gwener Gorffwyswch
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch
Dydd Sul  50-60 munud o loncian yn hamddenol Sesiwn hir iawn, cyflymdra hamddenol

 

Wythnos 14  Wythnos frig 
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Gorffwyswch   
Dydd Mawrth  25 munud – cyfforddus   
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  15-20 munud, cyson  Sesiwn gyflymach yng nghanol yr wythnos  
Dydd Gwener  Gorffwyswch   
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch   
Dydd Sul  60-65 munud.  Y rhediad hyfforddi olaf – hamddenol iawn  

 

Wythnos 15  Dechrau’r tapro  
Diwrnod  Hyfforddiant  Nodiadau hyfforddi 
Dydd Llun  Gorffwyswch   
Dydd Mawrth  Gorffwyswch   
Dydd Mercher  20 munud – cyfforddus   
Dydd Iau  Gorffwyswch   
Dydd Gwener  25 munud hawdd   
Dydd Sadwrn  Gorffwyswch   
Dydd Sul  40 munud ar gyflymdra hamddenol  Osgowch y temtasiwn i wneud mwy 

 

Wythnos 16  Wythnos dapro a’r RAS! 
Diwrnod  Hyfforddiant      Nodiadau Hyfforddi   
Dydd Llun  Gorffwyswch   
Dydd Mawrth  Lonciwch yn hamddenol am 15-20 munud. Bydd pob rhediad yr wythnos  hon yn fwy hamddenol  
Dydd Mercher  Gorffwyswch   
Dydd Iau  Lonciwch yn hamddenol am 15 munud. Peidiwch â gwneud hyn os   ydych wedi blino o gwbl  
Dydd Gwener  Gorffwyswch   
Dydd Sadwrn  Lonciwch yn hamddenol am 10 munud yn eich gwisg rasio   Araf iawn 
Dydd Sul  Y ras 10k! Gyda sesiwn baratoi a  

dadgynhesu hawdd 

Y diwrnod mawr! Mwynhewch eich digwyddiad!  

Ymwadiad 

Ni all The Realbuzz Group Ltd na’i gwmnïau cysylltiedig, na’r elusen a ddarparodd yr arweiniad hwn, na’r digwyddiad na’r trefnydd y mae’n gysylltiedig â hwy, dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am farwolaeth, anafiadau na cholled a achoswyd gan unrhyw wybodaeth a gynhwysir yn yr arweiniad hwn. Darperir yr holl wybodaeth yn ddidwyll. Dylech siarad â’ch meddyg cyn dechrau ar unrhyw raglen gweithgarwch corfforol. Drwy ddefnyddio’r wybodaeth yn yr arweiniad hwn rydych yn cytuno i indemnio, amddiffyn a rhyddarbed yr holl bartïon y cyfeirir atynt uchod, rhag ac yn erbyn unrhyw hawliadau, gweithredoedd, gofynion neu achosion eraill a ddygir yn ein herbyn gan drydydd parti, i’r graddau y mae hawliad, achos cyfreithiol, gweithred neu achos arall a ddygir yn ein herbyn ni a’r partïon eraill y cyfeirir atynt uchod, yn seiliedig ar neu sy’n codi o ganlyniad i’ch defnydd o’r arweiniad hwn, unrhyw doriad gennych chi o’r amodau a thelerau hyn, neu hawliad bod eich defnydd o’r arweiniad hwn yn torri hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti, neu sy’n sarhaus neu’n ddifrïol, neu fel arall yn arwain at niwed neu ddifrod i unrhyw drydydd parti. 

Recent News

  • Our Official Water Partner – Princes Gate
  • Cyflenwr dŵr swyddogol – Princes Gate
  • All you need to know: This Sunday’s Admiral Swansea Bay 10k
  • Popeth y mae angen i chi ei wybod: Ras ..10k Bae Abertawe Admiral ddydd Sul yma
  • Give it a go! Entries open for 2023 Admiral Swansea Bay 10k

Copyright © 2023 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT