Mae ras arobryn 10k Bae Abertawe'n un o'r rasys ffordd mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae'r ras, a gynhelir am y 43 flwyddyn erbyn hyn, yn boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a dechreuwyr ac enillodd wobr y 10k orau yng Nghymru yng Ngwobrau Rhedeg 2018 a 2019.
Cynhelir 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd bae eiconig a hardd Abertawe, sy'n golygu bod y cwrs yn gyflym ac yn wastad a bydd yn rhoi cyflwyniad perffaith i redeg ar y ffordd ac mae'n berffaith ar gyfer gwella'ch amser gorau personol.
Cynhelir Ras 10k Bae Abertawe Admiral 2024 ddydd Sul 15 Medi.
Bydd y cyfnod cofrestru’n agor 16 Hydref gyfer 2024
Mae oddeutu 4,000 o bobl yn cofrestru ar gyfer y ras bob blwyddyn.
Nac oes wrth gwrs! Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn ras hwyl hefyd, ac mae croeso i redwyr profiadol a phobl sy'n rhedeg am y tro cyntaf hefyd. Mae miloedd o bobl yn cofrestru bob blwyddyn am y tro cyntaf, mewn gwisg ffansi ac er mwyn codi arian i elusen.
Bydd pob un sy'n gorffen 10k Bae Abertawe Admiral yn derbyn medal!
Wrth gwrs! Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn rhedeg mewn gwisg ffansi er mwyn codi arian ar gyfer achosion da. Cofiwch rannu eich lluniau â ni ar y diwrnod
Wrth gwrs! Bob blwyddyn, mae miloedd o redwyr yn cofrestru ar gyfer y ras ar gyfer achosion da. Mae 10k Bae Abertawe Admiral hefyd yn cefnogi elusennau'r Arglwydd Faer.
Na chewch - ni fydd modd cofrestru na chymryd rhan yn y brif ras 10k ar y diwrnod.
Na - unwaith bod digon o ymgeiswyr neu bod y dyddiad cau wedi mynd heibio, ni dderbynnir unrhyw geisiadau eraill. Sylwer ni fydd modd cofrestru na chymryd rhan yn y brif ras 10k ar y diwrnod.
Na, unwaith eich bod wedi cofrestru ar-lein, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod a rhedeg! Ni allwch gofrestru ar y diwrnod ar gyfer y brif ras 10k.
Na chewch - yn anffodus, nid ydym yn caniatáu newid enwau ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y ras. Peidiwch â newid eich rhif ras ag unrhyw redwr arall chwaith, gan y gallai hyn achosi problemau ar gyfer ein gwasanaeth meddygol neu ganlyniadau. Os bydd trefnwyr y ras yn ymwybodol bod unrhyw un yn newid ei rif ras bydd yn cael ei wahardd rhag y ras hon, ac efallai bydd yn cael ei wahardd rhag rasys eraill o dan reolau UKA. Gweler rheolau'r ras a'r amodau a'r telerau.
Bydd dwy orsaf ddŵr ar y cwrs - un ar y marc hanner ffordd (5km) ac un ar y diwedd.
Bydd stiwardiaid gwirfoddol ar y cwrs i fonitro, cyfarwyddo, cynorthwyo ac annog rhedwyr. Os oes angen cymorth arnoch unrhyw bryd yn ystod y digwyddiad, dylech fynd atyn nhw'n gyntaf.
Cofiwch fod gwirfoddolwyr ar y cwrs yn rhoi o'u hamser rhydd i'ch helpu chi ar ddiwrnod y ras, a gwneud eich profiad ras mor bleserus â phosib. Bydd unrhyw iaith anweddus neu ymddygiad ymosodol tuag at y marsialiaid yn arwain at anghymwyso a/neu wahardd unrhyw unigolyn sy'n ymddwyn yn y modd hwn o ddigwyddiadau yn y dyfodol, ac adroddir amdanynt i UK Athletics.
Bydd. Darperir cymorth cyntaf gan wirfoddolwyr Ambiwlans Sant Ioan a thîm o barafeddygon. Byddant ar gael ar hyd y llwybr a bydd ganddynt ganolfan wrth y llinell derfyn. Os ydych yn teimlo’n sâl cyn, yn ystod, neu ar ôl y digwyddiad, gofynnwch i'r marsial neu’r stiward agosaf am gymorth.
Mae toiledau ar gael ger y llinell gychwyn a'r llinell derfyn, ac mewn sawl man ar hyd y llwybr rhedeg.
Bydd y pwynt plant coll yn y Babell Wybodaeth lle bydd staff yn gallu'ch helpu.
Mae gennym dîm o gasglwyr sbwriel sy'n casglu ac yn trefnu gwastraff i'w ailgylchu, ond helpwch ni i ailgylchu gymaint o wastraff â phosib gan ddefnyddio'r biniau ailgylchu a ddarperir pan y gallwch.
Os collwch chi unrhyw beth yn ystod y digwyddiad, gallwch gysylltu â ni trwy'r dudalen Facebook, neu e-bostiwch y tîm digwyddiadau yn special.events@abertawe.gov.uk.
Cofiwch y bydd y tîm digwyddiadau'n brysur iawn dros y penwythnos, a byddant yn dychwelyd i'r swyddfa ar ôl y digwyddiad.