Anfonir pecynnau ras at yr holl redwyr bythefnos cyn y ras.
Bydd yn cynnwys eich bib rasio, taleb am grys T (i'w chyflwyno wrth gasglu'ch crys T 10k) a gwybodaeth am ddiwrnod y ras.
Eleni, fe ddaw eich bib gyda label bag i'w rwygo oddi arno a thaleb crys T.
Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn ras e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk
Os yw'ch cyfeiriad wedi newid ers y tro diwethaf i chi gofrestru, gallwch ddiweddaru'ch manylion ar yr Hwb Aelodau. Mae'r nodwedd hon ar gael am gyfnod penodol yn unig, ac ar ôl hynny bydd rhaid i chi gysylltu â 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk.
Os oes angen i chi ddiweddaru'ch cyfeiriad ar ôl i'r pecynnau rasio gael eu postio, efallai y gallwn eich helpu, fodd bynnag codir ffi fach i ailgyflwyno pecynnau'r ras.
Gallwch gasglu'ch crys T o'r babell gwybodaeth a bagiau ar y Prom, ger cofeb Jac Abertawe.
Rhoddir y sglodyn amseru ar gefn eich rhif ras. Ar ddiwrnod y ras, gwisgwch eich rhif ras ar eich blaen â phin diogelwch ar bob cornel. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cyrraedd y llinell derfyn gyda'ch rhif ras yn gyflawn.
Peidiwch â phlygu na thorri eich rhif ras mewn unrhyw ffordd.
Gweler yr amserlen isod;
- 10k Cadair olwyn (15+ oed) TBC
- 10k (15+ oed) TBC
- 3k (rhwng 9 a 14 oed) TBC
- 1k (rhwng 8 a 11 oed) TBC
- 1k (7 oed ac iau) TBC