Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
    • English (English)

Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021

Mehefin 15, 2020 By Chris Williams

Oherwydd y sefyllfa barhaus, mae’n flin gennym gyhoeddi bod ras 10k Bae Abertawe Admiral 2020, a fyddai hefyd wedi dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, wedi’i gohirio tan 19 Medi 2021. 

Mae Tîm Digwyddiadau’r Cyngor wedi bod yn monitro sefyllfa’r pandemig ynghyd â’r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn agos.

Er bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio’n raddol, mae bellach yn glir nad oes unrhyw sôn y bydd digwyddiadau prysur o’r natur hon yn cael eu caniatáu mewn pryd i allu cynnal y digwyddiad hwn yn ddiogel ym mis Medi.

Byddai cynnal y digwyddiad eleni wedi peryglu lledaeniad y feirws a rhoi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys, y gwirfoddolwyr a’r rheini sy’n rhoi cefnogaeth feddygol. Mae diogelwch ein cyfranogwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein partneriaid, ein gwylwyr a’n gwasanaethau brys yn flaenoriaeth.


Beth ydw i’n ei wneud nawr?

Ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf, mae trosglwyddiad awtomatig am ddim i ras 2021 sy’n dathlu 40 mlynedd. Does dim rhaid i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer 2020 wneud unrhyw beth – caiff eu manylion eu trosglwyddo a byddant yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad dathliadol 2021 wrth i’r cynlluniau ddatblygu.

Gall y rheini na allant fod yn bresennol ar y dyddiad newydd drosglwyddo eu tocyn mynediad i redwr arall am ddim trwy ddefnyddio’r Member’s Hub ar RealBuzz hyd at ddydd Sul, 20 Medi eleni. Mae nifer o opsiynau ar gael i chi – Gwiriwch ein cwestiynau cyffredin ar-lein ynghylch cymryd rhan yn y ras ac i gael rhagor o wybodaeth.


Cwestiynau Cyffredin

Pam y bu'n rhaid gohirio/canslo Ras 10k Bae Abertawe Admiral ar gyfer 2020?

Mae Tîm Digwyddiadau'r cyngor wedi bod yn monitro sefyllfa'r pandemig yn agos, yn ogystal â'r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Er bod y cyfyngiadau'n cael eu llacio'n raddol, mae bellach yn glir nad oes unrhyw sôn y bydd digwyddiadau prysur o'r natur hon yn cael eu caniatáu mewn pryd i allu cynnal y digwyddiad hwn yn ddiogel ym mis Medi.

Byddai cynnal y digwyddiad eleni wedi peryglu lledaeniad y feirws ac wedi rhoi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys, y gwirfoddolwyr a'r rheini sy'n rhoi cefnogaeth feddygol. Mae diogelwch ein cyfranogwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein partneriaid, ein gwylwyr a’n gwasanaethau brys yn flaenoriaeth.

Beth yw dyddiad newydd y ras?

Bydd y digwyddiad i nodi pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn 40 oed bellach yn cael ei gynnal ddydd Sul 19 Medi 2021.

Ydy'r digwyddiad hwn yn cynnwys holl rasys 10k Bae Abertawe Admiral? (rasys iau 1k a 3k, ras mewn cadair olwyn a ras y masgotiaid)

Mae'r uchod yn cyfeirio at bob un o rasys 10k Bae Abertawe Admiral. Bydd pob ras 10k Bae Abertawe Admiral bellach yn cael ei chynnal ar 19 Medi 2021.

Rwyf eisoes wedi cofrestru a hoffwn gymryd rhan o hyd, beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

Nid oes angen i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer ras 2020 wneud unrhyw beth - trosglwyddwyd eu manylion yn awtomatig ar gyfer ras 2021. Rhoddir y newyddion diweddaraf ynghylch digwyddiad dathliadol 2021 i redwyr wrth i'n cynlluniau ddatblygu.

Rwyf eisoes wedi cofrestru ond nid wyf ar gael ar y dyddiad newydd - oes modd i fi drosglwyddo fy lle i rywun arall?

Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd.

Gallwch drosglwyddo'ch lle am ddim i rywun arall drwy'r member's hub yn RealBuzz.

Ceir cyfarwyddiadau hawdd eu dilyn ar sut i drosglwyddo'ch lle i redwr arall YMA

Rhaid gwneud yr holl drosglwyddiadau am ddim o unigolyn i unigolyn cyn dydd Sul 20 Medi 2020.

Gallwch barhau i drosglwyddo'ch lle ar ôl y dyddiad hwn, fodd bynnag o 20 Medi codir ffi fach am drosglwyddo. Y dyddiad cau terfynol ar gyfer trosglwyddo'ch lle yn ras 2021 i rywun arall yw 1 Gorffennaf 2021.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, efallai y gallech gofrestru unwaith eto'n hwyrach yn y flwyddyn, ond bydd hyn yn amodol ar argaeledd a phrisiau cofrestru ar y pryd.

Rwyf wedi cofrestru ond ni fyddaf ar gael ar y dyddiad newydd - ga i ad-daliad?

Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd.

Gallwch ofyn am ad-daliad hyd at ddydd Sul 20 Medi 2020 drwy e-bostio 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk.

Yn eich e-bost, nodwch y canlynol:

  • ‘Admiral Swansea Bay 10k – REFUND’ fel testun yr e-bost.
  • Yr enw llawn a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru ar gyfer y ras yn wreiddiol.
  • Y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru'n wreiddiol
  • Enwau'r holl bobl rydych wedi eu cofrestru ar gyfer y ras ac wedi talu amdanynt. Sylwer - ni allwn gynnig ad-daliadau rhannol felly os ydych wedi prynu lle ar gyfer 4 person, bydd rhaid i ni ad-dalu'r 4 lle.
  • Os nad oes gennych y cerdyn talu gwreiddiol mwyach, rhowch wybod i ni. Bydd angen i ni gysylltu â chi ar wahân i drafod hwn.
  • Peidiwch â chynnwys manylion eich cerdyn yn yr e-bost.

Y dyddiad cau terfynol ar gyfer holl ad-daliadau ras 2020 yw 20 Medi 2020. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi.

Gall ad-daliadau gymryd hyd at 20 niwrnod gwaith - bydd RealBuzz yn ad-dalu'r cerdyn a ddefnyddiwyd gennych yn wreiddiol. Os nad ydych wedi derbyn ad-daliad o fewn 25 niwrnod gwaith, e-bostiwch helpdesk@realbuzz.com.

Caiff ad-daliadau eu gwneud i'r cerdyn a ddefnyddiwyd i dalu'n wreiddiol. Os nad oes gennych y cerdyn gwreiddiol mwyach, nodwch hyn yn eich e-bost sy'n gofyn am ad-daliad gan y bydd angen i ni ddilyn proses wahanol - byddwn yn cysylltu â chi ar wahân i drafod hyn.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid efallai y gallwch gofrestru i gymryd rhan yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn amodol ar argaeledd a phrisiau cymryd rhan ar y pryd hwnnw.

Rwyf wedi cofrestru i gymryd rhan ond ni fyddaf ar gael ar y dyddiad newydd - allai ohirio fy lle?

Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd yn 2021. Yn anffodus, ni allwn ohirio'ch lle ar gyfer ras yn y dyfodol gan fod y ras yn cael ei chynnal o hyd, ond ar ddyddiad newydd.

Gallwch drosglwyddo'ch lle yn y ras i rywun arall, am ddim, drwy'r member's hub yn RealBuzz hyd at ddydd Sul 20 Medi 2020.

Rhaid gwneud yr holl drosglwyddiadau am ddim o unigolyn i unigolyn cyn dydd Sul 20 Medi 2020.

Y dyddiad cau terfynol ar gyfer trosglwyddo'ch lle yn ras 2021 i rywun arall yw 1 Gorffennaf 2021.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid efallai y gallwch gofrestru i gymryd rhan yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn amodol ar argaeledd a phrisiau cymryd rhan ar y pryd.

Nid wyf wedi cofrestru i gymryd rhan eto, ond hoffwn wneud hynny - allai gofrestru o hyd? A phryd gallaf wneud hynny?

Gallwch gofrestru o hyd i gymryd rhan yn ras 2021! Mae peth gwaith gennym i'w wneud er mwyn diweddaru'r gwefannau, ac rydym yn gobeithio cynnig rhagor o leoedd dros yr ychydig wythnosau nesaf. Gwiriwch ein tudalen Facebook i gael y newyddion diweddaraf am ddyddiadau cofrestru.

A fydd holl rasys 10k Bae Abertawe Admiral yn cael eu trosglwyddo? (Rasys Iau 1k a 3k, ras mewn cadair olwyn a ras y masgotiaid)

Byddant. Caiff holl rasys 10k Bae Abertawe Admiral (rasys iau 1k a 3k, ras mewn cadair olwyn) eu trin yn yr un ffordd â'n prif ras 10k, a'u trosglwyddo'n awtomatig i'r dyddiad newydd

Rwyf eisoes wedi cysylltu â thîm 10k Bae Abertawe Admiral am wirfoddoli

Diolch - rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth!

Bydd y Tîm Digwyddiadau Arbennig yn cysylltu â chi yn y man i roi'r diweddaraf i chi am ein cynlluniau. Cadwch le i ni yn eich dyddiadur am 2021 - gobeithiwn y gallwch helpu o hyd!

Roeddwn i'n teithio i Abertawe ar gyfer y ras ac rwyf eisoes wedi cadw lle mewn gwesty?

Os gwnaethoch gadw lle mewn gwesty cyn ras eleni, bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr llety'n uniongyrchol.

Oes opsiwn i gymryd rhan mewn ras rithwir?

Does dim opsiwn Ras Rithwir ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral.

Sut gallaf gael y diweddaraf am gyhoeddiadau a diweddariadau pellach?

I gael y newyddion diweddaraf am Ras 10k Bae Abertawe Admiral sicrhewch eich bod yn dilyn ein tudalen Facebook swyddogol.

Oes gennych gwestiynau i'w hateb o hyd?

Os oes gennych gwestiwn i'w ateb o hyd am ras 10k Bae Abertawe Admiral, e-bostiwch swanseabay10k@abertawe.gov.uk


Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym yn ymwybodol y bydd rhedwyr a chefnogwyr yn siomedig – rydyn ni’n siomedig hefyd, ond rydym yn gwybod y bydd pawb hefyd yn deall mai dyma’r penderfyniad cywir gan ystyried y sefyllfa bresennol.

“Y peth pwysicaf i’w wneud yn awr yw gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod cyfranogwyr a’r cyhoedd mor ddiogel â phosib, a lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau brys.

Y cyngor sy’n gyfrifol am y ras 10k a fydd yn cael ei noddi’r flwyddyn nesaf gan Admiral am y 15fed flynedd yn olynol. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k a 3k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.

Meddai Ceri Assiratti, Pennaeth y Gwasanaethau Pobl yn Admiral, “Mae iechyd a lles ein staff yn bwysig i ni, felly rydym yn cefnogi penderfyniad y cyngor. Rydym yn falch ein bod wedi noddi Ras 10k Bae Abertawe Admiral ers 2006, mae ein staff yn mwynhau cymryd rhan bob blwyddyn ac maent yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn 2021.”


Fel cyrchfan twristiaeth cyfrifol, mae Abertawe’n awyddus i gefnogi diogelwch preswylwyr y ddinas a’r twristiaid sy’n ymweld â’r ardal.

Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd gyda’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth y DU.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich iechyd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Coronafeirws neu ei symptomau, cymerwch gipolwg ar wefan GIG i weld y cyngor a’r arweiniad diweddaraf.

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Abertawe yma.

Gelir dod o hyd i ddiweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth y DU yma.

Filed Under: News

Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe

Medi 26, 2019 By Chris Williams

photo of the 2019 admiral swansea bay 10k with the swansea 50 branding

Roedd rhedwyr yn anelu at aur yn ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni. Roedd y digwyddiad yn fôr o aur a du gan fod y lliwiau ar gyfer ras eleni’n helpu i nodi pen-blwydd aur y ddinas.

photo of the golden ticket winners before they run th admiral swansea bay 10k

Mark Kennedy a Gayle Hughes o Landeilo Ferwallt oedd enillwyr lwcus ein cystadleuaeth Tocynnau Aur Abertawe 50.

Un ogystal ag ennill mynediad am ddim i’r ras, roedd Mark a Gayle hefyd yn gwisgo’n bibiau ras arbennig â’r rhifau 1969 a 2019 i goffáu dyddiadau hanner canmlwyddiant y ddinas.

Ymunon nhw â miloedd o redwyr ar gyfer un o’r digwyddiadau gorau o’i fath yn y DU sy’n denu cefnogwyr a chystadleuwyr o bob cwr o’r DU. Dyma’r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg 2019.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Roedd yn fraint i’n dinas groesawu cynifer o redwyr brwd y penwythnos hwn; ffordd arbennig arall i Abertawe ddathlu ei 50 mlynedd gyntaf fel dinas.

“Mae cwrs 10k Bae Abertawe Admiral yn un gwych sy’n addas i redwyr, gyda rhai o’r golygfeydd mwyaf bendigedig yn unrhyw le yn y DU – mae’n ddathliad o’n diwylliant chwaraeon.”

Enillwyd y medalau aur eleni gan Kieran Clements o Shaftesbury Barnet Harriers gogledd Llundain yn y brif ras 10k.

Natasha Cockram, o dîm rasio Micky Morris oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill y 10k ers dechrau’r 1980au.

Enillydd y ras i bobl mewn cadair olwyn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol oedd Richie Powell, Chwaraeon Anabledd Cymru.

Filed Under: Uncategorized @cy

Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success

Medi 24, 2019 By Chris Williams

THOUSANDS of runners and spectators took to the streets of Swansea today (Sunday, September 22) for the Admiral Swansea Bay 10k.

runners set off from the start line of the 2019 Admiral Swansea Bay 10k
Around 5,000 runners took centre stage for what is one of the top events of its kind in the UK, attracting fans and competitors from across the UK. The event was voted Best 10k in Wales in the 2019 Running Awards.

Men’s 10k winner was Kieran Clements, of north London’s Shaftesbury Barnet Harriers. Women’s 10k winner was Natasha Cockram, of the Micky Morris Racing Team. She was the first Welsh female winner since the early 1980s.

Wheelchair race winner for the fourth year in a row was Richie Powell, of Disability Sport Wales.

As well as the main 10k event, there were 1k and 3k races for juniors, in addition to a 10k wheelchair race and a 100m mascot dash.

Cllr Robert Francis-Davies, Swansea Council’s cabinet member for investment, regeneration and tourism, said: “It was a joy for our city to host so many running enthusiasts at the weekend; another special way for Swansea to celebrate its first 50 years of city status.

“The Admiral Swansea Bay 10k has a wonderful, runner-friendly course with some of the most glorious views anywhere in the UK – it’s is a celebration of our sporting culture.

“The 10k is a brilliant event for elite athletes, experienced runners and first timers, or anyone looking to raise money for charity or tackle personal fitness challenges.

“We’re delighted with the huge crowd of spectators which added to the community feel and family atmosphere that helps to inspire everyone who takes part.”

All race results are available to view online

Official race photos are available later this week from www.photo-fit.com, the official Admiral Swansea Bay 10k race photographer.

Winners

  • Men’s 10k – Kieran Clements, Shaftesbury Barnet Harriers, North London
  • Women’s 10k – Natasha Cockram, Micky Morris Racing Team
  • Boys 3k – Macsen Toogood
  • Girls 3k – Amy Greatrick
  • Boys 1k (7 and under) – Frederick Hanson
  • Girls 1k (7 and under) – Rhiannon Hughes
  • Boys 1k (8-11) – Thomas Reece
  • Girls 1k (8-11) – Libby Hale
  • Wheelchair Race – Richie Powell, Disability Sport Wales
  • Mascot race – Ozzie the Osprey, Ospreys Rugby, who won £100 for their designated charity Ospreys in the Community

Filed Under: 10k Blog

Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Medi 18, 2019 By Chris Williams

Swansea Bay 10k pace runners

Bydd rhedwyr gosod cyflymder wrth law yn ras 10k Bae Abertawe Admiral y mis hwn i helpu rhedwyr i gwblhau’r ras o fewn yr amser yr oeddent yn anelu amdano.

Photo of the 3M pace runners for the 2018 Swansea Bay 10k

Yn nigwyddiad eleni ar 22 Medi, bydd pum rhedwr gosod cyflymder a fydd yn gorffen mewn 40 munud, 45 munud, 50 munud, 55 munud a 60 munud.

Daw’r rhedwyr gosod cyflymder o glwb hen sefydledig rhedwyr ffordd cwmni 3M Gorseinon. Mae pob un ohonynt yn rhedwyr neu’n rhedwyr gosod cyflymder profiadol a fydd yn gwirfoddoli er mwyn helpu rhedwyr i gyflawni eu nodau personol.

Bydd amser dechrau newydd ar gyfer y ras sef 11am.

Yn ogystal â phrif ddigwyddiad y 10k, cynhelir rasys iau 1k a 3k, yn ogystal â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn. Cynhelir sbrint 100m blynyddol y masgotiaid ychydig ar ôl y ras 10k, o’r tu allan i faes rygbi San Helen.

Croesewir gwylwyr o 8.30am.

Filed Under: Blog

Elusennau allweddol yn elwa o Ras Masgotiaid 10k Bae Abertawe Admiral

Medi 9, 2019 By Chris Williams

Bydd yr RNLI ac Ambiwlans Awyr Cymru ymysg yr elusennau a fydd yn cael sylw yn ystod ras masgotiaid flynyddol 10k Bae Abertawe Admiral y mis hwn.

Bydd Pride Abertawe, Y Gweilch yn y Gymuned, Cash for Kids, elusennau’r Arglwydd Faer a Swans Aid yno hefyd.

A nawr, gydag oddeutu pythefnos i fynd tan y ras fawr, mae’r masgotiaid a fydd yn cymryd rhan yn hyfforddi ar gyfer y foment fawr ddydd Sul, 22 Medi.

Bydd y ras 100m yn dechrau am 11.10am y tu allan i faes San Helen – sef 10 munud ar ôl i’r brif ras ddechrau o’r un lleoliad.

Cyngor Abertawe sy’n trefnu ras 10k Bae Abertawe Admiral, sydd hefyd yn cynnwys rasys 1k a 3k i  blant iau.

Dylai unrhyw grŵp, elusen, sefydliad neu gwmni sydd am i’w masgot gymryd rhan yn y ras 100m – a chael cyfle i ennill y £100 sydd ar gael yn wobr i’r masgot buddugol – e-bostio Lindsay Sleeman neu ei ffonio ar 01792 635428.

Filed Under: Blog, News

  • 1
  • 2
  • 3
  • …
  • 12
  • Next Page »

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Ras 10k Orau yng Nghymru

Y llynedd, cawsom ein henwi fel y ras 10k Orau yng Nghymru yn y Gwobrau Rhedeg – diolch i chi gyd am eich cefnogaeth!

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.