Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)

Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral

Chwefror 4, 2020 By Hannah Grover

Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral 2020.

Gallwch gyflwyno cais heddiw (TBC) a bydd prisiau cynnar am gofrestru tan ddiwedd mis Chwefror.

Mae’r digwyddiad arobryn – sy’n cynnwys rhai o’r golygfeydd gorau ym maes athletau ar hyd y ffordd – wedi cael ei enwebu unwaith eto ar gyfer gwobr Ras 10k orau’r DU yng Ngwobrau Rhedeg 2020.

Cyngor Abertawe sy’n cynnal y digwyddiad, ac mae’n cael ei noddi gan Admiral am y bymthegfed flwyddyn yn olynol. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.

Disgwylir i oddeutu 5,000 o bobl gymryd rhan ar ddydd Sul 20 Medi, sef 40fed ras 10k Bae Abertawe. Mae’r ras wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu ym 1981 ac mae’r cyngor yn bwriadu dathlu’r pen-blwydd arbennig hwn.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn wych ar gyfer athletwyr ar lefel elît, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a’r rheini sy’n ceisio curo’ch amser gorau neu drechu’ch nodau ffitrwydd.

“Gyda chefndir bae hyfryd Abertawe ar gwrs gwastad, mae’r digwyddiad yn un nodedig yn y calendr rhedeg ac mae’n denu cyfranogwyr o bob cwr o’r DU. Mae’n nodwedd boblogaidd iawn o galendr digwyddiadau blynyddol Abertawe.

“Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael eich siomi oherwydd unwaith y bydd y lleoedd ar gyfer y ras wedi’u gwerthu, ni fydd rhagor ohonynt.

“Mae’r digwyddiad yn parhau i dderbyn adborth cadarnhaol bob blwyddyn gan gyfranogwyr o’r gorffennol sy’n clodfori safon trefnu’r ras, a’r gefnogaeth maent yn ei derbyn o’r cannoedd o bobl sy’n cefnogi ar hyd y llwybr.”

Bydd prisiau cynnar am gofrestru ar gael tan 29 Chwefror. Ewch i swanseabay10k.com i fanteisio ar y cyfle. Bydd y ffi safonol yn berthnasol o 1 Mawrth.

Filed Under: Blog, News

Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Medi 18, 2019 By Chris Williams

Swansea Bay 10k pace runners

Bydd rhedwyr gosod cyflymder wrth law yn ras 10k Bae Abertawe Admiral y mis hwn i helpu rhedwyr i gwblhau’r ras o fewn yr amser yr oeddent yn anelu amdano.

Photo of the 3M pace runners for the 2018 Swansea Bay 10k

Yn nigwyddiad eleni ar 22 Medi, bydd pum rhedwr gosod cyflymder a fydd yn gorffen mewn 40 munud, 45 munud, 50 munud, 55 munud a 60 munud.

Daw’r rhedwyr gosod cyflymder o glwb hen sefydledig rhedwyr ffordd cwmni 3M Gorseinon. Mae pob un ohonynt yn rhedwyr neu’n rhedwyr gosod cyflymder profiadol a fydd yn gwirfoddoli er mwyn helpu rhedwyr i gyflawni eu nodau personol.

Bydd amser dechrau newydd ar gyfer y ras sef 11am.

Yn ogystal â phrif ddigwyddiad y 10k, cynhelir rasys iau 1k a 3k, yn ogystal â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn. Cynhelir sbrint 100m blynyddol y masgotiaid ychydig ar ôl y ras 10k, o’r tu allan i faes rygbi San Helen.

Croesewir gwylwyr o 8.30am.

Filed Under: Blog

Elusennau allweddol yn elwa o Ras Masgotiaid 10k Bae Abertawe Admiral

Medi 9, 2019 By Chris Williams

Bydd yr RNLI ac Ambiwlans Awyr Cymru ymysg yr elusennau a fydd yn cael sylw yn ystod ras masgotiaid flynyddol 10k Bae Abertawe Admiral y mis hwn.

Bydd Pride Abertawe, Y Gweilch yn y Gymuned, Cash for Kids, elusennau’r Arglwydd Faer a Swans Aid yno hefyd.

A nawr, gydag oddeutu pythefnos i fynd tan y ras fawr, mae’r masgotiaid a fydd yn cymryd rhan yn hyfforddi ar gyfer y foment fawr ddydd Sul, 22 Medi.

Bydd y ras 100m yn dechrau am 11.10am y tu allan i faes San Helen – sef 10 munud ar ôl i’r brif ras ddechrau o’r un lleoliad.

Cyngor Abertawe sy’n trefnu ras 10k Bae Abertawe Admiral, sydd hefyd yn cynnwys rasys 1k a 3k i  blant iau.

Dylai unrhyw grŵp, elusen, sefydliad neu gwmni sydd am i’w masgot gymryd rhan yn y ras 100m – a chael cyfle i ennill y £100 sydd ar gael yn wobr i’r masgot buddugol – e-bostio Lindsay Sleeman neu ei ffonio ar 01792 635428.

Filed Under: Blog, News

Mae miloedd o redwyr yn dechrau cofrestru

Chwefror 20, 2019 By Chris Williams

Mae miloedd o redwyr yn dechrau cofrestru ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni.

Cynllunnir amserau dechrau newydd ar gyfer un o ddigwyddiadau rhedeg arobryn mwyaf Cymru sy’n cynnwys rhai o olygfeydd gorau’r wlad ar hyd y ffordd.

Cyngor Abertawe sy’n cynnal y digwyddiad, ac mae’n cael ei noddi gan Admiral am y bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn olynol. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.

Disgwylir i oddeutu 5,000 o bobl gymryd rhan unwaith eto eleni ar 22 Medi.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn un o ddigwyddiadau mwyaf nodedig y calendr rhedeg ac mae’n denu cyfranogwyr o bob rhan o’r DU.

“Yn dilyn adborth gan gyfranogwyr, bydd rasys eleni’n dechrau ychydig yn gynt gyda’r ras 1k i blant 7 oed ac iau’n dechrau am 9.15am a’r brif ras yn dechrau am 11am.

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn Abertawe, yn ras wych i athletwyr profiadol, pobl sy’n codi arian at elusennau a phobl sydd am guro eu hamseroedd gorau neu gyflawni nodau ffitrwydd personol.

“Byddwn yn annog unrhyw un â diddordeb mewn cymryd rhan yn y ras hon ar gwrs gwastad ar hyd ehangder Bae Abertawe i wneud hynny cyn gynted â phosib i osgoi cael ei siomi oherwydd unwaith y bydd lleoedd yn y ras wedi’u llenwi, ni fydd cyfle arall.

Ychwanegodd, “Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y ras yn gadarnhaol iawn am y profiad oherwydd safon trefnu a rheoli’r ras ac oherwydd y gefnogaeth maent yn ei derbyn gan y cannoedd o bobl sy’n bresennol ar hyd y llwybr.

“Dyma pam mae 10k Bae Abertawe Admiral wedi cael ei chanmol yn y Gwobrau Rhedeg am fod y ras 10k orau yng Nghymru am ddwy flynedd yn olynol a’r rheswm pam rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr am y ras 10k orau yn y DU eleni. Mae ychydig o wythnosau ar ôl o hyd i bobl fwrw pleidlais.”

Ewch i swanseabay10k.com/cy i gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru. I bleidleisio ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral yng Ngwobrau Rhedeg eleni, ewch i therunningawards.com/vote i fwrw’ch pleidlais erbyn 1 Mawrth.

Manylion llawn:

Amserau’r Rasys:

  • 1k (7 oed ac iau)      15am
  • 1k (8-11 oed)             9.30am
  • 3k (9-14 oed)            10am
  • 10k cadeiriau olwyn  5 munud cyn y brif ras
  • 10k (15+ oed)           11am

Prisiau Cofrestru:

  • £24.50 i oedolion sy’n aelodau o glwb/£26.50 i’r rhai nad ydynt yn aelodau o glwb (gan gynnwys crys T technegol, medal a bag rhoddion
  • Plant £7.50 (gan cynnwys crys T technegol, medal, tystysgrif a bag rhoddion)

Filed Under: Blog

Gweithredydd rhyngwladol i gael ei chydnabod gan ras 10k Bae Abertawe Admiral

Medi 12, 2018 By Chris Williams

Gweithredydd rhyngwladol i gael ei chydnabod gan ras 10k Bae Abertawe Admiral

Bydd seren y byd rhedeg pellter hir yn cael ei chydnabod gan ras 10k Bae Abertawe Admiral ddydd Sul.

Bydd trefnwyr y digwyddiad yn cydnabod Kathrine Switzer am ei rhedeg a’i gweithrediaeth gymdeithasol dros chwaraeon i fenywod.

Bydd dyfyniad gan Switzer, a fydd ar bob crys T a roddir i’r rheiny sydd wedi cofrestru ar gyfer y ras ffordd, yn annog rhedwyr i fod yn ddewr ac yn ddiofn.

Mae’n dweud, “All you need is the courage to believe in yourself and put one foot in front of the other.”

Mae Switzer yn adnabyddus am ei hymdrechion blaengar o ran rhedeg a’i chyfraniadau gydol gyrfa at chwaraeon drwy’i gwaith fel eiriolwr dros chwaraeon i fenywod a byw’n iach.

Dywedodd Kathrine Switzer, “Hoffwn i redeg ras 10K Bae Abertawe Admiral fy hun yn y dyfodol. Mae’r digwyddiad yn datblygu mewn statws bob blwyddyn ac rwy’n gobeithio y bydd miloedd o bobl ar hyd y llwybr i gefnogi’r cyfranogwyr.”

Dywedodd y Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae Kathrine Switzer a’i sefydliad nid er elw, 261 Fearless, wedi ysbrydoli miliynau o bobl ar draws y byd. Rwyf wrth fy modd ei fod wedi cytuno i’n galluogi i ddefnyddio dyfyniad Kathrine ar ein crysau T ar gyfer y digwyddiad. Mae’n sicr o ysbrydoli’r 5000 o redwyr y disgwylir iddynt gymryd rhan.”

Ras 10k Bae Abertawe Admiral bellach yw’r ras orau yng Nghymru. Y penwythnos hwn, gyda chefndir hardd Bae Abertawe, bydd rhedwyr o bob lefel a phrofiad yn cystadlu yn y ras 10k. Cynhelir rasys iau 1K, 3K a 5K er mwyn rhoi cyflwyniad i redwyr ifanc, ni waeth beth yw eu rhyw, i’r gamp. Cynhelir hefyd ras 10k mewn cadeiriau olwyn a Ras y Masgotiaid gan Fae Abertawe.

Llun Crys T ar gyfer Ras 10K Bae Abertawe Admiral sy’n cynnwys dyfyniad gan Kathrine Switzer.

Filed Under: Blog, Uncategorized @cy

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • Next Page »

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Ras 10k Orau yng Nghymru

Y llynedd, cawsom ein henwi fel y ras 10k Orau yng Nghymru yn y Gwobrau Rhedeg – diolch i chi gyd am eich cefnogaeth!

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.