Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
    • Wheelchair race
  • Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Race Guide
    • First Timers
    • Run for Charity
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
  • Ras 3k
  • Canlyniadau’r Ras
  • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
  • Gwirfoddolwyr
  • Clybiau Rhedeg

Mae Ras 10K Bae Abertawe Admiral wedi ennill y digwyddiad gorau o’i fath yng Nghymru.

Ionawr 5, 2018 By Chris Rees

Best 10k in Wales - Swansea Bay

Daeth y ras flynyddol, a gynhaliwyd eleni ddydd Sul 24 Medi, yn gyntaf yn rowndiau Cymru ar gyfer Gwobrau Rhedeg y DU sydd o fri mawr.

Mae’r system bleidleisio ar-lein bellach wedi ailagor ac mae’n galluogi’r rhai sydd eisoes wedi pleidleisio i bleidleisio eto. Mae Ras 10K Bae Abertawe Admiral ymysg y 12 o rasys sy’n cystadlu am deitl y DU.

Cyngor Abertawe sy’n trefnu 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n rhan o raglen blwyddyn gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe.

Ewch i www.therunningawards.co.uk i bleidleisio dros Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n cystadlu yn erbyn rasys megis 10k Whitchurch, 10k Berkshire a 10k Doncaster ar y rhestr fer.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae 10k Bae Abertawe Admiral wedi bod yn llwyddiant aruthrol ers iddi gael ei sefydlu ym 1981, gan ddenu miloedd o bobl i gymryd rhan bob blwyddyn.

“Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer athletwyr proffesiynol, rhedwyr amatur a llawer mwy. Gydag ysblander Bae Abertawe yn y cefndir, mae’n un o lawer o ddigwyddiadau sy’n cadarnhau statws Abertawe fel dinas chwaraeon flaenllaw.

“Mae 10k Bae Abertawe Admiral wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr y DU ddwywaith o’r blaen ond nid yw byth wedi ennill. Gallwch helpu i newid hynny drwy bleidleisio dros y digwyddiad cyn gynted â phosib i roi’r gydnabyddiaeth i 10k Bae Abertawe y mae’n wirioneddol yn ei haeddu.”

Yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2017, daeth 10k Bae Abertawe Admiral yn ail yng nghategori’r ras 10k orau.

Mae’r cyfle i bleidleisio yn dod i ben ar 15 Mawrth a chynhelir y seremoni wobrwyo ar 19 Ebrill.

Filed Under: Blog, News

Ffyrdd ar gau

Medi 22, 2017 By Chris Williams

Bydd nifer o ffyrdd ar gau ddydd Sul ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral.

Disgwylir y bydd tua 4,500 o redwyr yn cymryd rhan yn y brif ras, sy’n dechrau y tu allan i Faes Rygbi San Helen am 1pm ac yn mynd i’r Mwmbwls ac yn ôl.

Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y digwyddiad. Bydd rasys eraill yn cael eu cynnal ar y diwrnod hefyd, gan gynnwys rasys 1k, 3k a 5k ar gyfer y rhai iau yn ogystal â’r ras 100 metr draddodiadol i fasgotiaid. Mae’r holl leoedd ar gyfer pob ras (heblaw am y masgotiaid) bellach yn llawn, felly ni fydd pobl yn gallu cofrestru  i gymryd rhan ar y diwrnod.

Bydd y ffyrdd a restrir isod ar gau rhwng tua 12pm a 2pm.

Amcangyfrifon yw’r amseroedd ailagor oherwydd maent yn dibynnu ar gyflymder y rhedwyr.

Lle bo’n bosib mae llwybrau dargyfeirio ar gael. Darperir gwybodaeth i’r holl leoliadau ger y cwrs y gallai’r trefniadau effeithio’n uniongyrchol arnynt.

Amseroedd* Ffordd Nodiadau
12:00 – 13:30 Heol y Mwmbwls Ffordd ar gau rhwng Heol Neuadd y Ddinas-De a Lôn Sgeti.
12:00 – 13:30 Lôn Brynmill Ffordd ar gau rhwng Heol y Mwmbwls a Heol Bryn, ac eithrio mynediad i gyfeiriad y de i’r Rec gerllaw Lôn Brynmill ar gyfer parcio, os bydd lle ar gael.
12:00 – 12:45 Lôn Sgeti Troi i’r dde yn unig ar Heol y Mwmbwls .
12:45 – 13:45 Lôn Sgeti Ffordd ar gau (i gyfeiriad y de)

Cynhelir mynediad i Ysbyty Singleton a Phwll Cenedlaethol Cymru

12:45 – 13:45 Heol y Mwmbwls Ffordd ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Lôn Sgeti a Heol Mayals.

Troi i’r chwith yn unig (tuag at ganol y ddinas) o Heol Ashleigh, Heol Derwen Fawr, Lôn y Felin a Heol Mayals.

12:45 – 13:45 Heol y Mwmbwls Ffordd ar gau rhwng Heol Mayals a Heol Fairwood.
12:45 – 14:00 Heol y Mwmbwls Ffordd ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Heol Fairwood a Heol Newton .

Troi i’r chwith yn unig tuag at ganol y ddinas o Heol Alderwood, Lôn Bethany, Palmyra Court, Rhodfa Norton a Heol Newton.

 

Filed Under: Blog

Rhedwyr gosod cyflymder yn barod i helpu

Medi 21, 2017 By Chris Williams

Rhedwyr gosod cyflymder yn barod i helpu rhedwyr y 10k i guro eu hamserau gorau

Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral ar y gorwel a gall y rhedwyr sydd am gyflawni amser penodol wneud hynny gyda chymorth rhedwr gosod cyflymder.

Rhedwyr profiadol sydd wedi’u hyfforddi i helpu raswyr i gyflawni eu hamser gorffen targed yw rhedwyr gosod cyflymder. Mae llawer o rasys, gan gynnwys marathonau, yn aml yn cynnwys rhedwyr gosod cyflymder, sy’n cynorthwyo rhedwyr eraill i gynnal cyflymder cyson drwy’r ras.

Yn ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni, bydd 4 rhedwr gosod cyflymder ar gyfer amserau gorffen o 40 munud, 45 munud, 50 munud ac awr.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Gyda’i llwybr gwastad a godidog, mae 10k Bae Abertawe Admiral yn cynnig cyfle gwych i guro eich amser gorau, ac mae’r rhedwyr gosod cyflymder profiadol, sy’n wirfoddolwyr, yn ffordd ardderchog o helpu rhedwyr i gyflawni eu nodau personol.

“Gan fod pob lle ar gyfer y ras wedi’i lenwi, mae’r cyffro’n dechrau cynyddu ar gyfer y digwyddiad, a fydd eto’n denu miloedd o bobl. Mae’r ras wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu ym 1981 i fod yn un o’r gorau o’i bath yn y DU ac mae ei lleoliad ar hyd y bae’n berffaith ar gyfer rhedwyr a gwylwyr.

“Mae chwaraeon yn rhan sylweddol o ddiwylliant y DU, gyda digwyddiadau ledled y wlad yn denu llawer o gyfranogwyr a gwylwyr. Disgwylir miloedd o redwyr a gwylwyr ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni, sy’n arwydd clir pam mae Abertawe wedi cyflwyno cais am deitl Dinas Diwylliant y DU 2021.”

Cynhelir y ras ddydd Sul, 24 Medi; yn ogystal â’r prif ddigwyddiad, sef y 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k, a ras gadair olwyn 10k. Cynhelir sbrint blynyddol y masgotiaid dros 100 metr ychydig ar ôl y ras 10k, o’r tu allan i faes San Helen. Croesewir gwylwyr o 10am.

Filed Under: Blog

Y pythefnos terfynol

Medi 19, 2017 By Chris Williams

Mae pecynnau’r ras wedi’u hanfon, mae’r rhifau wedi’u cadarnhau ac mae’r cyffro wedi dechrau – dyma ein blogiwr, Georgia (rhif ras: 2017) gyda’r rhan olaf o’i blog hyfforddi ar gyfer y ras 10k.

Heb dderbyn eich pecyn ras eto? E-bostiwch y tîm yn special.events@swansea.gov.uk

Dyma fy rhif – 2017!

Roeddwn i’n gwybod mai hwn oedd yr wythnos lawn olaf o weithio’n galed wrth hyfforddi cyn i mi arafu wrth i ras 10k Bae Abertawe Admiral nesáu! Sicrheais fy mod i’n cwblhau 4 sesiwn a’m bod i’n herio fy hun, yn enwedig yn ystod y sesiwn Pwmpio’r Corff ddydd Iau.

Sesiwn 1: Dydd Llun
Rhedeg 5k = 25:39
Ar ôl rhedeg 10k da bore Sadwrn, nid oeddwn yn barod i redeg y pellter llawn ar ddechrau’r wythnos. Penderfynais y byddai rhedeg 5k yn gynt yn opsiwn gwell – digon i gael fy nghoesau i weithio ac i gwblhau fy nghamau am y dydd. Roedd hi’n braf rhedeg ar hyd llwybr gwahanol i’r arfer fel fy mod i’n gallu mwynhau’r golygfeydd syfrdanol dros Fae Abertawe o ongl newydd.

Sesiwn 2: Dydd Mawrth
Ioga cyfunol 60 munud
Daeth dwy o’m cyd-letywyr i’r dosbarth yr wythnos hon, a chawsom ddosbarth ‘ymarfer corff’ cymdeithasol iawn.Roedd hyfforddwr gwahanol felly doedd y dosbarth ddim mor anodd â sesiwn yr wythnos ddiwethaf, ond roeddwn yn dal i gyfri’r ailadroddiadau a oedd ar ôl wrth wneud yr eisteddiadau – mae’n ddiogel dweud na fydd gennyf becyn chwech yn y dyfodol agos.

Sesiwn 3: Dydd Mercher
Rhedeg 10k = 54:27
Dylwn wybod erbyn hyn, ar ôl rhedeg 7.5km da, pan oeddwn wedi rhedeg tir chwarter o’r ffordd, mai dim ond mater o amser fydd hi cyn i mi ddechrau dioddef o redeg yn bell – ac yn ôl y disgwyl, wrth gyrraedd 8k yn union cefais boen yn fy ochr a oedd gyda mi wedyn am y 10 munud olaf. Roedd llawer o hercian a gwasgu dannedd wrth redeg er mwyn cyrraedd y pellter llawn, ond hwn oedd fy 10k olaf cyn diwrnod y ras, felly roedd rhaid dal ati!

Sesiwn 4: Dydd Iau
Pwmpio’r Corff 60 munud
Gan mai hwn oedd y sesiwn codi pwysau trwm olaf cyn y ras 10k, penderfynais herio fy hun a chodi pwysau trymach wrth wneud traciau’r frest, yr ysgwyddau a’r cyhyryn triphen. Ni waeth faint rwyf yn hyfforddi, yr unig beth sydd byth yn mynd yn haws yw’r hergiadau – dyma’r ymarfer corff rwyf yn ei fwynhau lleiaf, ac mae’r cychwyniad gohiriedig dolur cyhyrol (DOMS) rwy’n dioddef ohono’n cadarnhau hynny!

Ni allaf gredu pa mor gyflym mae’r 7 wythnos ddiwethaf wedi mynd, a bod llai nag wythnos nes diwrnod y ras! Dwi’n gyffrous dros ben ond hefyd yn eithaf nerfus, yn enwedig am fod gennyf amser i’w guro, yn hytrach na bod yn hapus i orffen y ras yn unig.

Dwi wirioneddol wedi mwynhau rhannu fy nhaith hyfforddiant â chi ac rwy’n gobeithio ei bod wedi’ch diddanu, wedi’ch llawenhau ac efallai wedi’ch ysbrydoli ar hyd eich taith 10k eich hunain hyd yn oed.

Byddaf yn siŵr o’ch hysbysu am sut aeth pethau ac os lwyddais i guro fy amser gorau (56:00) ar ein cyfrifon Facebook a Twitter yr wythnos nesaf! @mwynhauabertawe

Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan ddydd Sul… mi welai chi wrth y llinell ddechrau!

Georgia x

Filed Under: Blog

Gwell cynnydd araf na dim cynnydd o gwbl

Medi 14, 2017 By Chris Williams

Mae’r wythnosau’n gwibio heibio, mae’r rhai bach nôl yn yr ysgol ac mae’r aelod diweddaraf o’n tîm, Georgia, yn paratoi’n dda ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral, sydd bellach 20 niwrnod yn unig nes iddi gael ei chynnal! Dyma’r rhan ddiweddaraf o’i blog hyfforddi:

Rwy’n cyfaddef, mae ceisio gwneud 4 sesiwn ymarfer corff mewn wythnos ar ben gwaith a chymdeithasu’n anodd ei drefnu, ond rwy’n siŵr byddaf yn diolch i mi fy hun ar ddiwrnod y ras (ar yr amod fy mod i’n curo fy mherfformiad personol gorau, hynny yw).

Yn y cyfamser, rwyf mor lwcus bod gen i olygfeydd fel hyn wrth i mi hyfforddi. Mae’n lleddfu’r poen yn fy nghoesau a’r teimlad o losgi yn fy ysgyfaint pan fo’r haul yn disgleirio ac mae’r llanw’n uchel.

Dyma grynodeb o hyfforddiant yr wythnos diwethaf:

Sesiwn 1: Dydd Mawrth
Ioga cyfunol 60 mun
Mae’n gas gen i ddweud hyn, ond rwyf bob amser wedi bod yn un o’r amheuwyr ‘na o ran ioga sy’n honni nad ‘ymarfer go iawn’ yw e. Fodd bynnag, mae’r dosbarth ‘ma wedi fy estyn (a gwella fy nghydbwysedd). Mae’n deg dweud y bu llawer o goesau sigledig, a thipyn o chwerthin ar y ffordd. Mewn gwirionedd roedd yn braf rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac roedd yn llai dwys na rhai o’n sesiynau eraill.

Sesiwn 2: Dydd Mercher
Sesiwn gyflymder – 7km = 38:16
Er bod yr haul yn disgleirio heddiw, byddai’n well gen i sipian cwrw oer ar ôl y gwaith na gwisgo fy esgidiau hyfforddi ac ymestyn fy nghoesau oedd eisoes yn flinedig ar hyd y prom. Ond beth bynnag, llwyddais i gwblhau ‘sesiwn gyflymder’ arall hyd yn oed os nad oeddwn yn gallu cyflawni’r 10 munud olaf o redeg cyflym cyson.

Sesiwn 3: Dydd Iau
Sesiwn HIIT a chodi pwysau
Efallai nad yw 0.2km/a yn gynt ar y droedfelin yn swnio fel cymaint o gamp, ond credwch chi fi – mae symud o 15km/h i 15.2km/h bron yn ddigon i beri i mi gwympo oddi ar y cefn. Ond roedd 11 munud o waith caled yn hollol werth chweil pan lwyddais i gwblhau’r sesiwn lawn gyda pherfformiad personol gorau (buddugoliaethau bach ac ati).

Sesiwn 4: Dydd Sadwrn
Ras 10km = 53:05
Ar ôl y penwythnos hir yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi ddechrau hon yn gywir – yn bennaf gyda batri ffôn wedi’i wefru’n llawn!! Roedd yr haul yn disgleirio, roedd yr awyr yn ffres ac roeddwn yn barod i fynd i’r afael â’r pellter llawn y bore ‘ma. Gwnes i ymdrech fawr dros y cilometr olaf i guro’r cloc ac roedd yn bendant yn werth gwneud hynny – nawr y cyfan sydd ei angen arna’ i yw ail-wneud hyn ar ddiwrnod y ras!

Ddydd Sadwrn oedd fy ras 10k lawn gyntaf ers 10k Cymru ar ddechrau mis Gorffennaf, felly dyma’r meincnod a fydd yn sail i’r hyn byddaf yn ei wneud dros y pythefnos nesaf. Croesi bysedd y byddaf yn gallu cwblhau o leiaf 2 ras 10k lawn cyn diwrnod y ras, wrth i mi anelu at fy mherfformiad personol gorau.

Blog arall cyn bo hir,

Georgia x

Filed Under: Blog

  • « Previous Page
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • Next Page »

Erthyglau ddiweddar

  • Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral 2022!
  • Rhedwyr a chefnogwyr ar lan môr Abertawe ar gyfer ras 10k flynyddol lwyddiannus
  • Ras 10k a Ras Hwyl Bae Abertawe – Y Dechrau
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema’r 80au
  • Gwnaeth pobl o fath penodol estyn y ffiniau ym 1981

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2022 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
  • cyCymraeg