Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn un o’r llwybrau mwyaf godidog yn y DU!
Mae pentref yr athletwyr ar y gwair rhwng y Senotaff a’r caffi Secret. Mae’r pentref yn cynnwys y babell wybodaeth, toiledau, ardaloedd ffisiotherapi a mwy.
Gan ddechrau wrth ymyl Maes Rygbi San Helen, mae rhan gyntaf y ras yn dilyn y ffordd i lawr i bentref hardd y Mwmbwls, cyn dychwelyd ar hyd Prom ardderchog Abertawe. Mae’r llwybr yn gorffen wrth i chi redeg drwy’r Bont Slip eiconig tuag at y Senotaff. Mae’r cwrs yn boblogaidd gyda rhedwyr oherwydd ei arwyneb cyflym a gwastad a’i olygfeydd hyfryd. Mae dwy orsaf ddŵr ar hyd y cwrs – un ar y pwynt hanner ffordd, ac un ar y llinell derfyn.
Ar y llinell derfyn, bydd stiwardiaid yn eich arwain drwy’r twmffedi lle gallwch gasglu dŵr, eich medal a’r bag rhoddion, a fydd yn eich arwain chi yn ôl i bentref yr athletwyr.
Defnyddiwch ein map rhyngweithiol isod i’ch helpu i gael ymdeimlad o’r cwrs. Amlygir y siecbwyntiau ar bob cilometr, yn ogystal â lleoliadau allweddol (gorsafoedd dŵr, y babell wybodaeth, etc.)
Ydych chi’n cystadlu yn y Rasys Iau? Cymerwch gip ar y marcwyr oren ar y map (mae’r llwybr rhedeg yr un peth â llwybr y 10k, yr unig wahaniaeth yw ei fod yn fyrrach. Mae’r llinell derfyn yr un peth â’r ras 10k.)
I gael mynediad i’r allwedd, cliciwch ar eicon arwydd/ffenest yn y cornel chwith uchaf, cyn “Admiral Swansea Bay 10k”. I weld y map ar y sgrin lawn, cliciwch yr eicon blwch yn y gornel dde uchaf.
This post is also available in: English