Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)

Techneg Redeg

Man with a knee injuryUn o elfennau mwyaf rhwystredig rhedeg yw methu â chyrraedd y lefel nesaf, yn bennaf o ganlyniad i fân anafiadau Yn amlach na pheidio, techneg wael sydd wrth wraidd y problemau hyn.

Mae’r poenau mwyaf cyffredin yn dueddol o fod yn rhan isaf y cefn, y pen-gliniau, gwadnau’r traed, y crimogau ac yn y gwddf a’r ysgwyddau.  Os ydych yn cael problemau gyda phoenau yn eich cefn, eich gwddf neu’ch ysgwyddau, gallai hynny fod oherwydd problem ag osgo’ch corff, felly ceisiwch gofio rhai awgrymiadau defnyddiol a ddylai gael gwared ar unrhyw broblemau yn rhan uchaf y corff.

  • Sicrhewch fod eich gwddf a’ch ysgwyddau wedi ymlacio.
  • Dylai eich brest fod yn unionsyth ac wedi cydbwyso dros eich cluniau.
  • Peidiwch â chladdu’ch pen yn eich ysgwyddau.
  • Sicrhewch fod eich pen yn unionsyth ac yn ganolog

Cewch hefyd broblemau yn rhan isaf eich cefn os byddwch yn tueddu i bwyso ymlaen pan fyddwch yn rhedeg, gan fod hyn yn rhoi pwysau diangen ar y rhan hon o’r corff.  Ceisiwch sicrhau bod eich osgo bob amser yn unionsyth. Bydd hyn nid yn unig yn dileu’r poenau hynny ond bydd hefyd yn cryfhau eich cyhyrau craidd yn yr abdomen a galluogi eich corff i weithio’n fwy effeithiol.

Bydd techneg wael yn rhan uchaf y corff yn cael sgil effaith ar ran isaf y corff.  Bydd buddsoddi mewn pâr o esgidiau rhedeg pwrpasol yn help.

Anadlu’n gywir

Man out of breath from runningPam rydym yn anadlu’n drwm pan fyddwn yn rhedeg?  Wel, gallai hyn fod oherwydd eich bod yn rhy uchelgeisiol neu oherwydd tensiwn.  Neu hyd yn oed y ddau.  Os ydych yn anadlu’n drwm yna mae’n arwydd nad ydych yn anadlu’n gywir.

Gall tensiwn gyfyngu ar anadlu, felly sicrhewch fod eich osgo yn gywir a bod eich breichiau a’ch ysgwyddau yn rhydd.  O ran techneg anadlu, ceisiwch anadlu’n hir ac yn ddwfn, po fasach fydd eich anadlu, lleiaf o aer fydd yn gallu cyrraedd eich ysgyfaint, a fydd yn ei dro’n creu tensiwn yn eich brest.

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Ras 10k Orau yng Nghymru

Y llynedd, cawsom ein henwi fel y ras 10k Orau yng Nghymru yn y Gwobrau Rhedeg – diolch i chi gyd am eich cefnogaeth!

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.