Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
You are here: Home / Uncategorized @cy / Mae creu rhestr o ganeuon perffaith

Mae creu rhestr o ganeuon perffaith

Mehefin 20, 2014 By Chris Williams

Mae creu rhestr o ganeuon perffaith ar gyfer eich hyfforddiant a’ch ras yn hanfodol er mwyn cynnal eich cymhelliant a’ch cyflymdra. Pan mae fy hoff gân yn dod ymlaen, mae’n rhoi mwy o egni i mi redeg. Ydy hyn yn wir amdanoch chi hefyd?

Isod mae ein casgliad personol o rai o’r caneuon gorau ar gyfer ymarfer. Peidiwch â’m barnu am fy chwaeth ‘liwgar’ o gerddoriaeth 🙂

Dyma ein 15 cân orau. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y caneuon hyn.

  1. Mortal Kombat Theme Tune
  2. Shakira — “Empire”
  3. Pat Benetar – Love is a battlefield
  4. Paramore – Now
  5. Bastille – Pompeii
  6. Disclosure – F for You
  7. Survivor – Eye of the Tiger
  8. Fat Boy Slim – Right here, right now
  9. Imagine Dragons Radioactive
  10. One Republic – Counting Stars
  11. Justin Timberlake – Suit & Tie
  12. Bruno Mars – Treasure
  13. Justin Timberlake – Mirrors
  14. Tim Berg- Bromance
  15. Calvin Harris ft. Florence Welch – Sweet Nothing

Pa ganeuon sy’n eich cymell chi ac sy’n eich helpu gyda’ch hyfforddiant?

Weithiau os ydych chi’n mynd i redeg er mwyn ymlacio ar ddydd Sul, rydych am wrando ar rywbeth sydd â thempo a chyflymdra ychydig yn arafach, er mwyn eich helpu i fwynhau rhedeg mwy, rheoli eich cyflymdra, ac i fwynhau’r gerddoriaeth a’r unigedd y mae rhedeg yn ei gynnig. Hefyd, byddwch yn darganfod bod gwrando ar rywbeth sy’n rhy galed a thrwm wrth redeg am gyfnod hir yn achosi i chi ddefnyddio’ch holl egni yn rhy gyflym – dewch o hyd i’r cydbwysedd cywir rhwng eich nod rhedeg a’r amser/pellter yr hoffech ei gyflawni. Hefyd, meddyliwch am ble y byddwch yn rhedeg. Ydy hi’n ddiogel gwisgo clustffonau? Ydy gwrando ar gerddoriaeth metel trwm yn addas ar gyfer rhedeg ar hyd draethau hyfryd Cymru? Neu a fyddai rhywbeth mwy perthnasol megis Mumford and Sons neu Bastille yn fwy addas?

Does dim byd gwaeth na chael cân yn chwarae sydd hollol allan o le wrth redeg. Darllenwch post blog Liz o’r llynedd am ei rhestr o ganeuon rhedeg, digalon iawn 😉 Yn y gorffennol chwaraeodd memos llais ar ôl The Prodigy ac roeddwn i bron a chwerthin, ac nid oeddwn yn canolbwyntio am yr ychydig funudau hynny – sicrhewch eich bod yn creu rhestrau caneuon arbennig yn seiliedig ar y math o redeg, y pellter neu’r amser rydych yn bwriadu rhedeg.

Dengys Active blog post ac ymchwil gwyddonwyr fod cerddoriaeth yn:

  • Newid cyfradd y galon
  • Effeithio ar bwysau gwaed
  • Newid y gyfradd fetabolaidd
  • Lleihau straen corfforol a meddyliol
  • Lleihau blinder

Yn ddigon rhyfedd, mae’r holl bethau hyn yn helpu llif egni o amgylch y corff dynol. Da iawn chi gerddoriaeth 🙂

Ar nodyn arall, mae #ddiwrnodrhedegirgwaith yn dechrau dydd Iau 5 Mehefin. Pam na wnewch chi edrych yma, a gwisgo’ch esgidiau rhedeg yr haf hwn. Gallwch hyd yn oed gynllunio eich llwybrau’n rhwydd ar eu gwefan.

———————————

Oddi wrth eich rhedwr cymdogaeth cyfeillgar

Filed Under: Uncategorized @cy

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Ras 10k Orau yng Nghymru

Y llynedd, cawsom ein henwi fel y ras 10k Orau yng Nghymru yn y Gwobrau Rhedeg – diolch i chi gyd am eich cefnogaeth!

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.