Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
You are here: Home / Uncategorized @cy / Ras am fywyd

Ras am fywyd

Awst 27, 2013 By Chris Williams

Yn ôl yn y byd go iawn ar ôl gwyliau gwych – seibiant am wythnos yn yr heulwen gynnes – hyfryd!  Wedi cael seibiant o bythefnos o redeg ac ymarfer corff i fwynhau’r tywydd gwych gartref (lwcus iawn i ddychwelyd i’r heulwen) ond roedd yn rhaid i mi baratoi ar gyfer y Ras am Fywyd ar 21 Gorffennaf.  Mae problemau’n dod yn sgîl y gwres.  Dadhydradiad yw’r broblem fwyaf ac mae’n anoddach cadw cyflymder.  Felly ar ôl taith redeg anodd gyntaf, llwyddais i wneud 6k cyflym yr wythnos ddiwethaf cyn y Ras am Fywyd ddydd Sul gydag Ymlusgwyr Sgeti (enw’n tîm!)

Am fore gwych!  Roedd y bobl, yr awyrgylch a’r llwybr yn wych.  Roeddwn yn betrusgar ar y cychwyn gyda’r holl bobl ond llwyddais i ddod o hyd i le i redeg a dechreuais ymlacio wrth barhau â’r ras.  Mae’n sicr yn gwneud gwahaniaeth pan fo rhedwyr eraill a phobl yn eich annog i redeg at achos da.  Roeddwn yn hapus gyda’m hamser o 27 munud er fy mod yn gobeithio am 25 munud (dim  gobaith) ac yna sylweddolais yn fuan nad ydw i’n gallu rhedeg yn gynt.J  Yn wir, mae fy esgidiau rhedeg hudolus yn gweithio!  Roeddwn yn flinedig iawn ar ôl y ras ac efallai nad oeddwn wedi yfed digon o ddŵr cyn cychwyn – dysgu gwers! Fy mwriad bellach yw cynyddu fy mhellter dros yr 8 wythnos nesaf (dim ond 8 wythnos i fynd bobl bach) ac mae’r dechrau yn dal i’m poeni – sut byddaf yn gorffen?  Fodd bynnag, rwy’n meddwl y byddaf yn anelu at 8k nesaf.  Gobeithio bod pawb arall yn datblygu’n dda.J

Filed Under: Uncategorized @cy

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.