Cymerwch gip ar ein hadran Cwestiynau Cyffredin am fwy o wybodaeth
Beth dylwn i ei wneud ar ddiwedd y ras?
Bydd staff yno i’ch helpu a gallwch hefyd gasglu potel o ddŵr a chasglu’ch bag anrhegion a fydd yn cynnwys eich medal a’ch tystysgrif (tystysgrifau ar gyfer rasys iau’n unig). I gwrdd â ffrindiau a theulu ar ôl y ras, symudwch o’r sianeli ac ewch i gwrdd â hwy y tu allan i’r babell wybodaeth.
Fydd ffisiotherapydd yno ar ol y ras?
Bydd ffisiotherapydd yno ynghyd â thîm o therapyddion chwaraeon er mwyn cynnig cyngor a thriniaeth gan Swansea Physiotherapy Ltd.
Pryd bydd y canlyniadau ar gael?
Bydd canlyniadau dros dro ar gael yn www.10kbaeabertawe.com yn hwyr ar ddiwrnod y ras. Bydd y set gyntaf o ganlyniadau dros dro ar gael ychydig oriau ar ôl i’r rhedwr olaf groesi’r llinell derfyn. Yna bydd y canlyniadau terfynol ar gael yn hwyrach y noson honno. Os nad yw eich canlyniadau’n gywir/nid yw’n ymddangos yn y canlyniadau dros dro, peidiwch â phoeni! Byddant yn ymddangos yn y canlyniadau terfynol.
Ble gallaf ddod o hyd i luniau’r ras?
Bydd y ddolen ar gyfer ffotograffau ras y rhedwyr ar gael ar ôl y ras. Bydd hyn ar dudalen hafan y wefan. Bydd ffotograffau ar gael i’w prynu oddeutu 2-3 diwrnod ar ôl y ras.
Pryd cyflwynir y gwobrau?
Cyflwynir gwobrau’r ras iau a’r brif ras ar y podiwm ger y babell wybodaeth. Ras Iau – rhwng 11.30am a 12.30pm. Prif ras – o 2pm, gofynnir i enillwyr fynd i’r man cyflwyno.
Ni chyflwynir gwobrau ym mhob categori ar ddiwrnod Ras 10k Bae Abertawe Admiral – dim ond y prif enillwyr.
Beth yw’r gwobrau ariannol?
Gwybodaeth yn dod yn fuan.
Ailgylchu
Mae gennym dîm o gasglwyr sbwriel sy’n casglu poteli plastig i’w hailgylchu, ond helpwch ni i ailgylchu gymaint o wastraff â phosib gan ddefnyddio’r biniau ailgylchu a ddarperir pan y gallwch.
Diolch yn fawr!
Hoffai trefnwyr y ras, Dinas a Sir Abertawe a noddwr y digwyddiad, Admiral, ddiolch i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad yn bosib. Prif Farsialiaid, Marsialiaid Gwirfoddol, Staff Admiral, Ambiwlans Sant Ioan, Cadetiaid y Môr a’r Fyddin, Grwpiau Sgowtiaid, CRhA a phawb a roddodd eu hamser i sicrhau llwyddiant y digwyddiad.