Cymerwch gip ar ein hadran Cwestiynau Cyffredin am fwy o wybodaeth
Rhifau ras a sglodyn amseru
Rhoddir y sglodyn amseru ar gefn eich rhif ras. Ar ddiwrnod y ras, gwisgwch eich rhif ras ar eich blaen â phin diogelwch ar bob cornel. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cyrraedd y llinell derfynol â’ch rhif.
Peidiwch â phlygu na thorri eich rhif ras mewn unrhyw ffordd.
Gorsaf ddwr
Bydd gorsaf ddŵr ger y pwynt 5k ac ar y diwedd. Byddwch yn ystyrlon o redwyr eraill a thaflu poteli’n ddiogel gan ddefnyddio’r biniau a ddarperir.
Stiwardiaid y cwrs
Bydd stiwardiaid gwirfoddol ar y cwrs i fonitro, cyfarwyddo, cynorthwyo ac annog rhedwyr. Os oes angen cymorth arnoch unrhyw bryd yn ystod y digwyddiad, dylech fynd atyn nhw’n gyntaf.
Chwiliwch am ffrind neu ‘bennwr cyflymder’
Chwiliwch am redwyr eraill sy’n rhedeg ar eich cyflymder targed chi a gadewch iddynt eich ‘arwain’. Gallwch ddilyn sawl un o’r ‘pennwyr cyflymder’ hyn yn eich ras. Mae’n ffordd dda o annog eich hun drwy gydol y ras. Gallwch adnabod ‘pennwyr cyflymder’ gan eu gwasgodau gwelededd uchel, gyda rhagamcan o’u hamser gorffen ar y gwasgodau. Byddant hefyd yn sefyll yn y parth amser perthnasol.
A fydd cymorth cyntaf ar gael?
Bydd. Darperir cymorth cyntaf gan Ambiwland Sant Ioan a bydd parafeddyg ambiwlans hefyd ar y safle. Byddant ar gael ar hyd y llwybr ac wrth y llinell derfyn. Os ydych yn teimlo’n sâl cyn, yn ystod, neu ar ôl y digwyddiad, gofynnwch i’r marsial neu’r stiward agosaf am gymorth.
Ble bydd y toiledau a’r gorsafoedd dwr?
Mae toiledau ar gael ger y llinell gychwyn a’r llinell derfyn, ac ar hyd y llwybr rhedeg. Bydd gorsaf ddŵr ar bwynt 5k ac ar y llinell derfyn.
A fydd ffisiotherapydd ar gael yn ystod y ras?
Gwybodaeth i ddilyn
Beth fydd yn digwydd os bydd fy mhlant ar goll?
Mae’r man plant coll yn y Babell Wybodaeth.