Gallwch gofrestru nawr ar gyfer 2024!
Mae’r ras 1k yn gyflwyniad perffaith i redeg i’r rhai bach – amgylchedd hwyl heb bwysau, a phellter sy’n gyraeddadwy a phleserus. Hefyd, gyda dau gategori oedran mae’r gystadleuaeth yn fwy teg ac agored. Gellir gweld manylion llawn y ras yn y tabl isod. Mae ein Rasys Iau wir yn gyflwyniad perffaith – yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2017, cawsom ein henwi’n Ddigwyddiad Plant Gorau’r DU!
Bydd y rasys Iau 1k a 3k yn dechrau ac yn gorffen ar brif linell gychwyn/derfyn y ras 10k – Rhagor o wybodaeth.
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer ras 1k Bae Abertawe – cofrestrwch ar-lein
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad: 15 Medi 2024
- Amser: 9.15am (7 oed ac iau), 9.30am (8 oed-11 oed)
- Proffil: Fflat
- Traffig: Dim traffig
- Pellter: 1km
- Marcwyr Pellter: 400m, 200m, 100m i fynd
- Gorsafoedd Dŵr: Oes, ar y diwedd
- Y nifer a gofrestrodd y llynedd: 600
- Gwobrau: Oes
- Cofrestru ar y dydd: Na
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer ras 1k Bae Abertawe – cofrestrwch ar-lein
Prynu cofrestriad ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral
Yr anrheg berffaith ar gyfer y rhedwr yn eich bywyd!
Prynwch gofrestriad ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral 2024 i’ch ffrindiau neu eich anwyliaid. Bydd modd cofrestru ar gyfer 2024 cyn bo hir
Eich proffil Members Hub
Oes angen i chi newid eich manylion? Ydych chi wedi anghofio a ydych chi wedi cofrestru ai peidio? Peidiwch â phoeni – ewch ar eich dangosfwrdd cyfranogwr ar Njuko a gallwch wirio unrhyw beth sydd ai angen arnoch ar gyfer eich cofrestriad ras 10k Bae Abertawe Admiral.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau Arbennig drwy ffonio: 01792 635428 yn ystod y dydd neu e-bostio 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk