Oherwydd y sefyllfa barhaus, mae’n flin gennym gyhoeddi bod ras 10k Bae Abertawe Admiral 2020, a fyddai hefyd wedi dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, wedi’i gohirio tan 19 Medi 2021.
Mae Tîm Digwyddiadau’r Cyngor wedi bod yn monitro sefyllfa’r pandemig ynghyd â’r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn agos.
Er bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio’n raddol, mae bellach yn glir nad oes unrhyw sôn y bydd digwyddiadau prysur o’r natur hon yn cael eu caniatáu mewn pryd i allu cynnal y digwyddiad hwn yn ddiogel ym mis Medi.
Byddai cynnal y digwyddiad eleni wedi peryglu lledaeniad y feirws a rhoi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys, y gwirfoddolwyr a’r rheini sy’n rhoi cefnogaeth feddygol. Mae diogelwch ein cyfranogwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein partneriaid, ein gwylwyr a’n gwasanaethau brys yn flaenoriaeth.
Beth ydw i’n ei wneud nawr?
Ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf, mae trosglwyddiad awtomatig am ddim i ras 2021 sy’n dathlu 40 mlynedd. Does dim rhaid i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer 2020 wneud unrhyw beth – caiff eu manylion eu trosglwyddo a byddant yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad dathliadol 2021 wrth i’r cynlluniau ddatblygu.
Gall y rheini na allant fod yn bresennol ar y dyddiad newydd drosglwyddo eu tocyn mynediad i redwr arall am ddim trwy ddefnyddio’r Member’s Hub ar RealBuzz hyd at ddydd Sul, 20 Medi eleni. Mae nifer o opsiynau ar gael i chi – Gwiriwch ein cwestiynau cyffredin ar-lein ynghylch cymryd rhan yn y ras ac i gael rhagor o wybodaeth.
Cwestiynau Cyffredin
Mae Tîm Digwyddiadau'r cyngor wedi bod yn monitro sefyllfa'r pandemig yn agos, yn ogystal â'r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Er bod y cyfyngiadau'n cael eu llacio'n raddol, mae bellach yn glir nad oes unrhyw sôn y bydd digwyddiadau prysur o'r natur hon yn cael eu caniatáu mewn pryd i allu cynnal y digwyddiad hwn yn ddiogel ym mis Medi.
Byddai cynnal y digwyddiad eleni wedi peryglu lledaeniad y feirws ac wedi rhoi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys, y gwirfoddolwyr a'r rheini sy'n rhoi cefnogaeth feddygol. Mae diogelwch ein cyfranogwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein partneriaid, ein gwylwyr a’n gwasanaethau brys yn flaenoriaeth.
Bydd y digwyddiad i nodi pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn 40 oed bellach yn cael ei gynnal ddydd Sul 19 Medi 2021.
Mae'r uchod yn cyfeirio at bob un o rasys 10k Bae Abertawe Admiral. Bydd pob ras 10k Bae Abertawe Admiral bellach yn cael ei chynnal ar 19 Medi 2021.
Nid oes angen i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer ras 2020 wneud unrhyw beth - trosglwyddwyd eu manylion yn awtomatig ar gyfer ras 2021. Rhoddir y newyddion diweddaraf ynghylch digwyddiad dathliadol 2021 i redwyr wrth i'n cynlluniau ddatblygu.
Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd.
Gallwch drosglwyddo'ch lle am ddim i rywun arall drwy'r member's hub yn RealBuzz.
Ceir cyfarwyddiadau hawdd eu dilyn ar sut i drosglwyddo'ch lle i redwr arall YMA
Rhaid gwneud yr holl drosglwyddiadau am ddim o unigolyn i unigolyn cyn dydd Sul 20 Medi 2020.
Gallwch barhau i drosglwyddo'ch lle ar ôl y dyddiad hwn, fodd bynnag o 20 Medi codir ffi fach am drosglwyddo. Y dyddiad cau terfynol ar gyfer trosglwyddo'ch lle yn ras 2021 i rywun arall yw 1 Gorffennaf 2021.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, efallai y gallech gofrestru unwaith eto'n hwyrach yn y flwyddyn, ond bydd hyn yn amodol ar argaeledd a phrisiau cofrestru ar y pryd.
Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd.
Gallwch ofyn am ad-daliad hyd at ddydd Sul 20 Medi 2020 drwy e-bostio 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk.
Yn eich e-bost, nodwch y canlynol:
- ‘Admiral Swansea Bay 10k – REFUND’ fel testun yr e-bost.
- Yr enw llawn a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru ar gyfer y ras yn wreiddiol.
- Y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru'n wreiddiol
- Enwau'r holl bobl rydych wedi eu cofrestru ar gyfer y ras ac wedi talu amdanynt. Sylwer - ni allwn gynnig ad-daliadau rhannol felly os ydych wedi prynu lle ar gyfer 4 person, bydd rhaid i ni ad-dalu'r 4 lle.
- Os nad oes gennych y cerdyn talu gwreiddiol mwyach, rhowch wybod i ni. Bydd angen i ni gysylltu â chi ar wahân i drafod hwn.
- Peidiwch â chynnwys manylion eich cerdyn yn yr e-bost.
Y dyddiad cau terfynol ar gyfer holl ad-daliadau ras 2020 yw 20 Medi 2020. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi.
Gall ad-daliadau gymryd hyd at 20 niwrnod gwaith - bydd RealBuzz yn ad-dalu'r cerdyn a ddefnyddiwyd gennych yn wreiddiol. Os nad ydych wedi derbyn ad-daliad o fewn 25 niwrnod gwaith, e-bostiwch helpdesk@realbuzz.com.
Caiff ad-daliadau eu gwneud i'r cerdyn a ddefnyddiwyd i dalu'n wreiddiol. Os nad oes gennych y cerdyn gwreiddiol mwyach, nodwch hyn yn eich e-bost sy'n gofyn am ad-daliad gan y bydd angen i ni ddilyn proses wahanol - byddwn yn cysylltu â chi ar wahân i drafod hyn.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid efallai y gallwch gofrestru i gymryd rhan yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn amodol ar argaeledd a phrisiau cymryd rhan ar y pryd hwnnw.
Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd yn 2021. Yn anffodus, ni allwn ohirio'ch lle ar gyfer ras yn y dyfodol gan fod y ras yn cael ei chynnal o hyd, ond ar ddyddiad newydd.
Gallwch drosglwyddo'ch lle yn y ras i rywun arall, am ddim, drwy'r member's hub yn RealBuzz hyd at ddydd Sul 20 Medi 2020.
Rhaid gwneud yr holl drosglwyddiadau am ddim o unigolyn i unigolyn cyn dydd Sul 20 Medi 2020.
Y dyddiad cau terfynol ar gyfer trosglwyddo'ch lle yn ras 2021 i rywun arall yw 1 Gorffennaf 2021.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid efallai y gallwch gofrestru i gymryd rhan yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn amodol ar argaeledd a phrisiau cymryd rhan ar y pryd.
Gallwch gofrestru o hyd i gymryd rhan yn ras 2021! Mae peth gwaith gennym i'w wneud er mwyn diweddaru'r gwefannau, ac rydym yn gobeithio cynnig rhagor o leoedd dros yr ychydig wythnosau nesaf. Gwiriwch ein tudalen Facebook i gael y newyddion diweddaraf am ddyddiadau cofrestru.
Byddant. Caiff holl rasys 10k Bae Abertawe Admiral (rasys iau 1k a 3k, ras mewn cadair olwyn) eu trin yn yr un ffordd â'n prif ras 10k, a'u trosglwyddo'n awtomatig i'r dyddiad newydd
Diolch - rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth!
Bydd y Tîm Digwyddiadau Arbennig yn cysylltu â chi yn y man i roi'r diweddaraf i chi am ein cynlluniau. Cadwch le i ni yn eich dyddiadur am 2021 - gobeithiwn y gallwch helpu o hyd!
Os gwnaethoch gadw lle mewn gwesty cyn ras eleni, bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr llety'n uniongyrchol.
Does dim opsiwn Ras Rithwir ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral.
I gael y newyddion diweddaraf am Ras 10k Bae Abertawe Admiral sicrhewch eich bod yn dilyn ein tudalen Facebook swyddogol.
Os oes gennych gwestiwn i'w ateb o hyd am ras 10k Bae Abertawe Admiral, e-bostiwch swanseabay10k@abertawe.gov.uk
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym yn ymwybodol y bydd rhedwyr a chefnogwyr yn siomedig – rydyn ni’n siomedig hefyd, ond rydym yn gwybod y bydd pawb hefyd yn deall mai dyma’r penderfyniad cywir gan ystyried y sefyllfa bresennol.
“Y peth pwysicaf i’w wneud yn awr yw gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod cyfranogwyr a’r cyhoedd mor ddiogel â phosib, a lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau brys.
Y cyngor sy’n gyfrifol am y ras 10k a fydd yn cael ei noddi’r flwyddyn nesaf gan Admiral am y 15fed flynedd yn olynol. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k a 3k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.
Meddai Ceri Assiratti, Pennaeth y Gwasanaethau Pobl yn Admiral, “Mae iechyd a lles ein staff yn bwysig i ni, felly rydym yn cefnogi penderfyniad y cyngor. Rydym yn falch ein bod wedi noddi Ras 10k Bae Abertawe Admiral ers 2006, mae ein staff yn mwynhau cymryd rhan bob blwyddyn ac maent yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn 2021.”
Fel cyrchfan twristiaeth cyfrifol, mae Abertawe’n awyddus i gefnogi diogelwch preswylwyr y ddinas a’r twristiaid sy’n ymweld â’r ardal.
Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd gyda’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth y DU.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich iechyd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Coronafeirws neu ei symptomau, cymerwch gipolwg ar wefan GIG i weld y cyngor a’r arweiniad diweddaraf.
Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Abertawe yma.
Gelir dod o hyd i ddiweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth y DU yma.