Bydd modd cofrestru ar gyfer 2024 cyn bo hir
Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd bae eiconig, hyfryd Abertawe ac mae ar agor i bobl o bob gallu 15+ oed. Mae’r cwrs yn boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a thro cyntaf oherwydd bod y cwrs gwastad a chyflym yn gyflwyniad perffaith i redeg ffordd ac yn berffaith ar gyfer gwella ar eich amser gorau. Mae hyn i gyd, ar y cyd ag awyrgylch teulu gwych, yn golygu bod y ras wedi ennill gwobr y Ras 10k Orau yng Nghymru yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2019.
Gwybodaeth am y Ras
- Dyddiad: 15 Medi 2024
- Arwyneb: Ffordd
- Cofrestru: ar lein
- Amgylchedd: Dinas
- Proffil: Fflat
- Traffig: Na
- Marcwyr Pellter: 5km
- Gorsafoedd Dŵr: Oes, ar y pwynt 5k ac wrth y llinell derfyn
- Cyfleusterau’r Lleoliad: Toiledau, parcio, arlwyo, cymorth cyntaf
- Terfyn y Ras: 4000
- Gwobrau: Oes
- Aelodau UKA: TBC
- Heb fod yn aelod: TBC
Bydd modd cofrestru ar gyfer 2024 cyn bo hir
Prynu cofrestriad ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral
Yr anrheg berffaith ar gyfer y rhedwr yn eich bywyd!
Prynwch gofrestriad ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral 2024 i’ch ffrindiau neu eich anwyliaid.
Caiff y cofrestriad ei anfon atoch ar ffurf côd gostyngiad unigryw. Byddwch wedyn yn gallu ei rannu â’r derbynnydd o’ch dewis. Mae’r côd yn caniatáu iddo gofrestru ar gyfer y digwyddiad, trwy’r broses gofrestru ar-lein, heb fod angen unrhyw daliad ychwanegol. Bydd modd cofrestru ar gyfer 2024 cyn bo hir
Eich proffil Members Hub
Angen newid eich manylion? Methu cofio a ydych wedi cofrestru neu beidio? Peidiwch â phoeni, mewngofnodwch i’ch proffil Members Hub ar RealBuzz a gallwch wirio unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cais Ras 10k Bae Abertawe Admiral.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau Arbennig drwy ffonio: 01792 635428 yn ystod y dydd neu e-bostio 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk
Photo-fit.com yw ffotograffwyr swyddogol y 10k – ewch i edrych ar ôl y ras i weld eich llun.