Un o elfennau mwyaf rhwystredig rhedeg yw methu â chyrraedd y lefel nesaf, yn bennaf o ganlyniad i fân anafiadau Yn amlach na pheidio, techneg wael sydd wrth wraidd y problemau hyn.
Mae’r poenau mwyaf cyffredin yn dueddol o fod yn rhan isaf y cefn, y pen-gliniau, gwadnau’r traed, y crimogau ac yn y gwddf a’r ysgwyddau. Os ydych yn cael problemau gyda phoenau yn eich cefn, eich gwddf neu’ch ysgwyddau, gallai hynny fod oherwydd problem ag osgo’ch corff, felly ceisiwch gofio rhai awgrymiadau defnyddiol a ddylai gael gwared ar unrhyw broblemau yn rhan uchaf y corff.
- Sicrhewch fod eich gwddf a’ch ysgwyddau wedi ymlacio.
- Dylai eich brest fod yn unionsyth ac wedi cydbwyso dros eich cluniau.
- Peidiwch â chladdu’ch pen yn eich ysgwyddau.
- Sicrhewch fod eich pen yn unionsyth ac yn ganolog
Cewch hefyd broblemau yn rhan isaf eich cefn os byddwch yn tueddu i bwyso ymlaen pan fyddwch yn rhedeg, gan fod hyn yn rhoi pwysau diangen ar y rhan hon o’r corff. Ceisiwch sicrhau bod eich osgo bob amser yn unionsyth. Bydd hyn nid yn unig yn dileu’r poenau hynny ond bydd hefyd yn cryfhau eich cyhyrau craidd yn yr abdomen a galluogi eich corff i weithio’n fwy effeithiol.
Bydd techneg wael yn rhan uchaf y corff yn cael sgil effaith ar ran isaf y corff. Bydd buddsoddi mewn pâr o esgidiau rhedeg pwrpasol yn help.
Anadlu’n gywir
Pam rydym yn anadlu’n drwm pan fyddwn yn rhedeg? Wel, gallai hyn fod oherwydd eich bod yn rhy uchelgeisiol neu oherwydd tensiwn. Neu hyd yn oed y ddau. Os ydych yn anadlu’n drwm yna mae’n arwydd nad ydych yn anadlu’n gywir.
Gall tensiwn gyfyngu ar anadlu, felly sicrhewch fod eich osgo yn gywir a bod eich breichiau a’ch ysgwyddau yn rhydd. O ran techneg anadlu, ceisiwch anadlu’n hir ac yn ddwfn, po fasach fydd eich anadlu, lleiaf o aer fydd yn gallu cyrraedd eich ysgyfaint, a fydd yn ei dro’n creu tensiwn yn eich brest.