Mae ein rasys iau arobryn yn parhau i dyfu bob blwyddyn ac mae’r digwyddiad yn ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan.
Dyma gyfle i chi gyflwyno’ch plant i ymarfer corff gyda rasys hwyl 1k a 3k. Mae’r 1k yn agored i blant dan 11 oed a’r 3k i blant rhwng 9 a 14 oed. Os ydych yn rhedwr iau cystadleuol neu’n chwilio am ddiwrnod hwyl i’r teulu, mae ein rasys iau’n agored i bob gallu. Bydd masgotiaid a stiwardiaid cefnogol yn annog cyfranogwyr ac mae gan ein rasys iau awyrgylch gwych.
Mae ein hawyrgylch hwyl a chyfeillgar yn sicrhau bod pawb yn cael amser gwych, ac mae rhieni’n cael rhedeg gyda’u plant hefyd!
Mae ein rasys iau mor boblogaidd, cawsom ein pleidleisio’n Ddigwyddiad Gorau i Blant yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2017.
This post is also available in: English