Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Home
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
      • 3k Race
    • Wheelchair race
    • Mascot Race
  • Results
    • Race Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Course Map
    • Race Guide
    • Travel and Parking
    • First Timers
    • Race Rules – T&Cs
    • Volunteers
    • Run for Charity
    • Running Clubs
  • Partners and Sponsors
  • News

Arweiniad i’r ras

Pictured: Sunday 18 September 2022 Re: Swansea 10k race in Swansea, Wales, UK.

Yma gallwch ddod o hyd i unrhyw gwestiynau y mae angen atebion arnoch iddynt, o deithio a gwybodaeth am barcio’r car ar gyfer eich peiriant llywio lloeren, i lety yn Abertawe, i fanylion y ras megis amser dechrau’r ras, cyfleusterau toiledau a mwy.

Oes gennych gwestiwn nad yw wedi’i ateb? E-bostiwch 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk


Cwestiynau Cyffredin

Beth yw 10k Bae Abertawe Admiral?

Mae ras arobryn 10k Bae Abertawe'n un o'r rasys ffordd mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae'r ras, a gynhelir am y 42ain flwyddyn erbyn hyn, yn boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a dechreuwyr ac enillodd wobr y 10k orau yng Nghymru yng Ngwobrau Rhedeg 2018 a 2019.

Ble?

Cynhelir 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd bae eiconig a hardd Abertawe, sy'n golygu bod y cwrs yn gyflym ac yn wastad a bydd yn rhoi cyflwyniad perffaith i redeg ar y ffordd ac mae'n berffaith ar gyfer gwella'ch amser gorau personol.

Pryd mae'r digwyddiad?

Cynhelir Ras 10k Bae Abertawe Admiral 2023 ddydd Sul 17 Medi.

Faint o bobl fydd yn rhedeg?

Mae oddeutu 4,000 o bobl yn cofrestru ar gyfer y ras bob blwyddyn.

Oes angen i mi fod yn rhedwr proffesiynol neu brofiadol?

Nac oes wrth gwrs! Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn ras hwyl hefyd, ac mae croeso i redwyr profiadol a phobl sy'n rhedeg am y tro cyntaf hefyd. Mae miloedd o bobl yn cofrestru bob blwyddyn am y tro cyntaf, mewn gwisg ffansi ac er mwyn codi arian i elusen.

A fyddaf yn derbyn medal?

Bydd pob un sy'n gorffen 10k Bae Abertawe Admiral yn derbyn medal!

Ga i redeg mewn gwisg ffansi?

Wrth gwrs! Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn rhedeg mewn gwisg ffansi er mwyn codi arian ar gyfer achosion da. Cofiwch rannu eich lluniau â ni ar y diwrnod

Ga i godi arian ar gyfer elusen?

Wrth gwrs! Bob blwyddyn, mae miloedd o redwyr yn cofrestru ar gyfer y ras ar gyfer achosion da. Mae 10k Bae Abertawe Admiral hefyd yn cefnogi elusennau'r Arglwydd Faer.

Sut gallaf gofrestru?

Ar lein

Ga i ddod ar y diwrnod a chofrestru ar gyfer y ras?

Na chewch - ni fydd modd cofrestru na chymryd rhan yn y brif ras 10k ar y diwrnod.

Rwyf wedi colli'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru - a yw dal yn bosib i gofrestru ar gyfer y ras?

Na - unwaith bod digon o ymgeiswyr neu bod y dyddiad cau wedi mynd heibio, ni dderbynnir unrhyw geisiadau eraill. Sylwer ni fydd modd cofrestru na chymryd rhan yn y brif ras 10k ar y diwrnod.

A fydd rhaid i mi gofrestru ar y diwrnod?

Na, unwaith eich bod wedi cofrestru ar-lein, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dod a rhedeg! Ni allwch gofrestru ar y diwrnod ar gyfer y brif ras 10k.

Ni allaf ddod i'r ras, ga i ad-daliad?

Gweler rheolau'r ras a'r amodau a'r telerau.

Ni allaf ddod i'r ras, alla i roi fy lle i rywun arall?

Na chewch - yn anffodus, nid ydym yn caniatáu newid enwau ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y ras. Peidiwch â newid eich rhif ras ag unrhyw redwr arall chwaith, gan y gallai hyn achosi problemau ar gyfer ein gwasanaeth meddygol neu ganlyniadau. Os bydd trefnwyr y ras yn ymwybodol bod unrhyw un yn newid ei rif ras bydd yn cael ei wahardd rhag y ras hon, ac efallai bydd yn cael ei wahardd rhag rasys eraill o dan reolau UKA. Gweler rheolau'r ras a'r amodau a'r telerau.

Ga i drosglwyddo fy ngais?

Gweler rheolau'r ras a'r amodau a'r telerau.

A fydd gorsafoedd dwr? Ble byddan nhw?

Bydd dwy orsaf ddŵr ar y cwrs - un ar y marc hanner ffordd (5km) ac un ar y diwedd.

A fydd unrhyw help ar gael ar y cwrs?

Bydd stiwardiaid gwirfoddol ar y cwrs i fonitro, cyfarwyddo, cynorthwyo ac annog rhedwyr. Os oes angen cymorth arnoch unrhyw bryd yn ystod y digwyddiad, dylech fynd atyn nhw'n gyntaf.

Cofiwch fod gwirfoddolwyr ar y cwrs yn rhoi o'u hamser rhydd i'ch helpu chi ar ddiwrnod y ras, a gwneud eich profiad ras mor bleserus â phosib. Bydd unrhyw iaith anweddus neu ymddygiad ymosodol tuag at y marsialiaid yn arwain at anghymwyso a/neu wahardd unrhyw unigolyn sy'n ymddwyn yn y modd hwn o ddigwyddiadau yn y dyfodol, ac adroddir amdanynt i UK Athletics.

A fydd Cymorth Cyntaf ar gael?

Bydd. Darperir cymorth cyntaf gan wirfoddolwyr Ambiwlans Sant Ioan a thîm o barafeddygon.  Byddant ar gael ar hyd y llwybr a bydd ganddynt ganolfan wrth y llinell derfyn.  Os ydych yn teimlo’n sâl cyn, yn ystod, neu ar ôl y digwyddiad, gofynnwch i'r marsial neu’r stiward agosaf am gymorth.

A fydd toiledau yno?

Mae toiledau ar gael ger y llinell gychwyn a'r llinell derfyn, ac mewn sawl man ar hyd y llwybr rhedeg.

Beth os aiff fy mhlentyn ar goll?

Bydd y pwynt plant coll yn y Babell Wybodaeth lle bydd staff yn gallu'ch helpu.

Rwy'n pryderu am effaith y digwyddiad hwn ar yr amgylchedd - pa fesurau ydych chi'n eu rhoi ar waith?

Mae gennym dîm o gasglwyr sbwriel sy'n casglu ac yn trefnu gwastraff i'w ailgylchu, ond helpwch ni i ailgylchu gymaint o wastraff â phosib gan ddefnyddio'r biniau ailgylchu a ddarperir pan y gallwch.

Collais i rywbeth yn ystod y ras - a oes ardal eiddo coll yno?

Os collwch chi unrhyw beth yn ystod y digwyddiad, gallwch gysylltu â ni trwy'r dudalen Facebook, neu e-bostiwch y tîm digwyddiadau yn special.events@abertawe.gov.uk.

Cofiwch y bydd y tîm digwyddiadau'n brysur iawn dros y penwythnos, a byddant yn dychwelyd i'r swyddfa ar ôl y digwyddiad.


Cyn y Ras

Pryd byddaf yn derbyn fy mhecyn ras?

Anfonir pecynnau ras at yr holl redwyr bythefnos cyn y ras.

Beth sydd yn fy mhecyn ras?

Bydd yn cynnwys eich bib rasio, taleb am grys T (i'w chyflwyno wrth gasglu'ch crys T 10k) a gwybodaeth am ddiwrnod y ras.

Eleni, fe ddaw eich bib gyda label bag i'w rwygo oddi arno a thaleb crys T.

Nid wyf wedi derbyn fy mhecyn ras - beth dylwn i ei wneud?

Os nad ydych wedi derbyn eich pecyn ras erbyn dydd Mercher 13 Medi 2023, e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk

Mae fy nghyfeiriad wedi newid ers i mi gofrestru ar gyfer y ras - oes angen i mi wneud rhywbeth?

Os yw'ch cyfeiriad wedi newid ers y tro diwethaf i chi gofrestru, gallwch ddiweddaru'ch manylion ar yr Hwb Aelodau. Mae'r nodwedd hon ar gael am gyfnod penodol yn unig, ac ar ôl hynny bydd rhaid i chi gysylltu â 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk.

Os oes angen i chi ddiweddaru'ch cyfeiriad ar ôl i'r pecynnau rasio gael eu postio, efallai y gallwn eich helpu, fodd bynnag codir ffi fach i ailgyflwyno pecynnau'r ras.

Beth sydd angen i mi ei wneud gyda fy rhif ras?

Rhoddir y sglodyn amseru ar gefn eich rhif ras. Ar ddiwrnod y ras, gwisgwch eich rhif ras ar eich blaen â phin diogelwch ar bob cornel. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cyrraedd y llinell derfyn gyda'ch rhif ras yn gyflawn.

Peidiwch â phlygu na thorri eich rhif ras mewn unrhyw ffordd.

Oes amserlen rasys ar gael? Pa amser fydd fy ras yn dechrau?

Gweler yr amserlen isod;

  • 10k Cadair olwyn (15+ oed) 10.55am
  • 10k (15+ oed) 11am
  • 3k (rhwng 9 a 14 oed) 10am
  • 1k (rhwng 8 a 11 oed) 9.30am
  • 1k (7 oed ac iau) 9.15am
Athletwr cadair olwyn ydw i - ble ydw i'n dechrau'r ras?

Mae un o’r newidiadau pwysicaf i fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ras eleni’n ymwneud â’r broses ddechrau. Yr amser dechrau fydd 11am.

  • Bydd ras 2021 yn dechrau unwaith eto ger Maes Rygbi a Chriced San Helen, ond bydd proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy i ganiatáu mwy o amser a lle rhwng rhedwyr. Bydd hyn i bob pwrpas yn gwasgaru’r rhedwyr o’r ardal gychwyn hyd at y diwedd.
  • Ewch i San Helen lle byddwch yn gallu mynd i mewn i’r safle o’r gorllewin (lleoliad what3words – mute.slows.trials) a’r dwyrain (caller.rocky.output).
  • Caiff rhedwyr eu galw ymlaen yn seiliedig ar amserau gorffen disgwyliedig, sy’n golygu y byddwch yn dechrau’r cwrs gyda rhedwyr o allu tebyg sydd ag amser gorffen targed tebyg.

Yn ystod y Ras

A fydd sylwebaeth yn ystod y digwyddiad?

Bydd sylwebaeth ar y llinell derfyn, a fydd yn disgrifio lleoliad y rhedwyr ar y cwrs, a bydd yn galw enwau rhedwyr sydd wedi gorffen y ras wrth iddynt groesi'r llinell derfyn. Gwrandewch yn astud - efallai y byddwch yn clywed eich enw!

Pa mor hir bydd y digwyddiad yn para?

Mae'r ras yn dechrau am 9.15am ac mae'r brif ras 10k yn dechrau am 11.00am. Mae'r brif ras 10k fel arfer yn cymryd tua 2 awr i'w chwblhau.

Ble gallaf fynd er mwyn cael gwybodaeth pan fyddaf yno?

Pentref y Ras, sydd ar ardal laswelltog y Rec.

Rwyf ar y safle ac rwyf wedi bod yn dyst i ladrad/ymosodiad/rywbeth drwgdybus, beth dylwn i ei wneud?

Bydd staff diogelwch a Heddlu De Cymru i'w gweld ar y safle a byddant yn patrolio yn arena'r digwyddiad ac yn yr ardal gyfagos. Os byddwch yn gweld rhywbeth drwgdybus, adroddwch amdano i staff diogelwch neu stiward ar unwaith.

Rwy'n pryderu am fynd i ddigwyddiad mor fawr. Pa fesurau diogelwch sydd ar waith?

Eich diogelwch a'ch diogeledd yw ein prif bryder, ac rydym yn ymdrin â hyn yn ddifrifol iawn. Mae Cyngor Abertawe a Heddlu De Cymru wedi bod yn cynllunio'r digwyddiad hwn am amser hir, ac os byddwch yn bresennol yn y digwyddiad rydym am i chi fwynhau a chael hwyl, felly darllenwch yr wybodaeth a'r cyngor canlynol ynghylch diogelwch yn y digwyddiad.

  • Bydd staff diogelwch i'w gweld yn y digwyddiad a byddant yn patrolio o amgylch y safle.
  • Efallai y bydd cŵn arbenigol yn patrolio hefyd.
  • Mae rhwydwaith o gamerâu CCTV wedi'i osod o gwmpas y lleoliad, a chânt eu monitro o'n hystafell reoli'r digwyddiad.
  • Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Heddlu a'r gwasanaethau brys eraill i gynllunio digwyddiad sy'n ddiogel i bawb.
  • Bydd yr Heddlu'n patrolio'r digwyddiad a'r ardal leol.
  • Efallai y byddwch yn gweld heddweision arfog yn patrolio'r ardal gan ei fod yn arfer arferol mewn digwyddiadau o'r maint hwn.
  • Bydd nifer o fesurau diogelwch eraill ar waith na allwch chi eu gweld.
A yw'r digwyddiad yn cael ei gynnal os bydd hi'n bwrw glaw?

Cynhelir y digwyddiad, hyd yn oed os bydd yn glawio. Os bydd y tywydd yn wael, byddwch yn ofalus wrth i chi redeg.

Oes terfyn oedran?
  • 10k Cadair olwyn (15+ oed)
  • 10k (15+ oed)
  • 3k (rhwng 9 a 14 oed)
  • 1k (rhwng 8 a 11 oed)
  • 1k (7 oed ac iau)
Os bydd argyfwng, a fydd y gwasanaethau brys yn gallu ein cyrraedd ni?

Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hwn yn ddiogel. Er y bydd rhai ffyrdd ar gau, bydd gan y gwasanaethau brys fynediad ar bob adeg.
Dyma'r rheswm pam ni chaniateir clustffonau.

Ga i wisgo clustffonau?

Na - ni chaniateir clustffonau yn ystod y ras. Mae llwybr 10k Bae Abertawe Admiral yn cynnwys adrannau o ffyrdd sydd ar gau, ac mae angen mynediad i gerbydau brys ar bob adeg. Er diogelwch yr athletwyr, ni chaniateir clustffonau oherwydd y gallant stopio'r rhedwyr rhag clywed hysbysiadau diogelwch neu gerbydau gwasanaethau brys.

A oes amser terfyn?

Na, er ei fod yn un o'r rasys cyflymaf yn y DU mae croeso i redwyr hwyl hefyd. Os ydych tua chefn y ras, efallai y gofynnir i chi symud i'r palmant os ystyrir bod angen i chi wneud hynny gan Gyfarwyddwr y Ras.

Beth yw rheolau'r ras?

Gallwch ddod o hyd i reolau'r ras a'r amodau a'r telerau ar-lein yma

Ga i wisgo dyfeisiau ffitrwydd personol (Garmin, Fitbit etc.)?

Caniateir dyfeisiau ffitrwydd personol, ond sylwer ni chaniateir clustffonau.

Ga i redeg gyda phram?

Na, oherwydd byddai hyn yn cyflwyno perygl baglu i redwyr eraill.

Ga i redeg gyda fy nghi?

Na, oherwydd byddai hyn yn cyflwyno perygl baglu i redwyr eraill.

A fydd yn bosib i mi ddilyn y digwyddiad hyd yn oed os nad ydw i yno?

Gallwch ein dilyn ar Facebook a Twitter er mwyn cael diweddariadau ar y ras, a'r traffig a theithio.

A oes modd i mi redeg gyda fy mhlentyn yn y ras iau?

Gall rhieni redeg gyda'u plant yn ein rasys iau 1k ar gyfer plant 7 oed ac iau ac ar gyfer plant 8-11 oed. Ni all rhieni redeg yn ein ras 3k, ond caniateir iddynt ddilyn yng nghefn y grŵp.


Ar ôl y Ras

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gorffen y ras?

Bydd staff yno i'ch helpu a gallwch hefyd gasglu potel o ddŵr a chasglu'ch bag anrhegion a fydd yn cynnwys eich medal a'ch tystysgrif (tystysgrifau ar gyfer rasys iau'n unig). I gwrdd â ffrindiau a theulu ar ôl y ras, symudwch o'r sianeli ac ewch i gwrdd â hwy y tu allan i'r babell wybodaeth.

Ble gallaf gasglu fy medal?

Gallwch gasglu eich medal gorffen ras 10k Bae Abertawe Admiral 2022 ar ôl cwblhau'r ras. Caiff manylion eu cadarnhau'n fuan.

Pryd bydd y canlyniadau ar gael?

Bydd canlyniadau dros dro ar gael yn www.10kbaeabertawe.com yn hwyr ar ddiwrnod y ras. Bydd y set gyntaf o ganlyniadau dros dro ar gael ychydig oriau ar ôl i'r rhedwr olaf groesi'r llinell derfyn. Bydd y canlyniadau terfynol ar gael oddeutu 7 niwrnod ar ôl digwyddiad. Os nad yw eich canlyniadau'n gywir/nid yw'n ymddangos yn y canlyniadau dros dro, peidiwch â phoeni! Byddant yn ymddangos yn y canlyniadau terfynol.

Ble gallaf ddod o hyd i luniau o'r ras?

Photo-fit.com yw ffotograffwyr swyddogol y ras eleni.

Nid wyf wedi derbyn medal/crys-t

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw un o'r pethau uchod, ewch i'r Babell Wybodaeth. Os ydych yn sylweddoli ar ôl i chi adael safle'r digwyddiad, gallwch gysylltu â ni trwy'r dudalen Facebook, neu e-bostiwch dîm digwyddiadau arbennig y cyngor yn special.events@abertawe.gov.uk


Rheolau/Amodau a thelerau’r ras

Sicrhewch eich bod yn darllen rheolau ac amodau a thelerau’r ras cyn y diwrnod.

Recent News

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Erthyglau ddiweddar

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Copyright © 2023 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT