Mae'n ddrwg gennym glywed na allwch gymryd rhan ar y dyddiad newydd.
Gallwch ofyn am ad-daliad hyd at ddydd Sul 19 Medi 2021 trwy e-bostio 10kbaeabertawe@abertawe.gov.uk.
Cofiwch gynnwys y canlynol yn eich e-bost:
- '10k Bae Abertawe Admiral - AD-DALIAD' fel pwnc
- Yr enw llawn a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru'n wreiddiol.
- Y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i gofrestru'n wreiddiol.
- Enw'r holl gofrestriadau y talwyd amdanynt gennych. Sylwer - ni allwn gynnig ad-daliadau rhannol felly os ydych chi wedi talu i gofrestru pedwar person, bydd angen i ni ad-dalu'r arian am y pedwar ohonynt.
- Os nad oes gennych chi'r cerdyn gwreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i wneud y taliad gwreiddiol, rhowch wybod i ni. Bydd angen i ni gysylltu â chi ar wahân am hyn.
- Peidiwch â chynnwys manylion eich cerdyn yn yr e-bost.
Y dyddiad cau ar gyfer pob ad-daliad ar gyfer ras 2021 fydd 19 Medi 2021. Ar ôl y dyddiad hwn, ni chynigir unrhyw ad-daliadau.
Gal ad-daliadau gymryd hyd at 20 niwrnod gwaith ac fe'u telir gan Real Buzz i'r cerdyn a ddefnyddiwyd gennych i wneud y taliad gwreiddiol. Os nad ydych wedi derbyn ad-daliad o fewn 25 niwrnod gwaith, e-bostiwch helpdesk@realbuzz.com.
Gwneir ad-daliadau i'r cerdyn a ddefnyddiwyd i wneud y taliad gwreiddiol. Os nad oes gennych y cerdyn gwreiddiol hwnnw, nodwch hynny yn eich e-bost i ofyn am ad-daliad oherwydd bydd angen i ni ddilyn proses wahanol - byddwn yn cysylltu â chi ar wahân am hyn.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gallwch gofrestru eto'n hwyrach yn y flwyddyn. Bydd hyn yn destun argaeledd a phrisiau cofrestru ar y pryd.
Mae’n ddrwg gennym glywed na allwch gymryd rhan ar y dyddiad newydd.
Gallwch drosglwyddo'ch lle am ddim i rywun arall trwy ddefnyddio hwb aelodau Real Buzz.
Ceir rhagor o gyfarwyddiadau sy'n hawdd eu dilyn ar gyfer sut i drosglwyddo'ch lle i rywun arall YMA
Rhaid trosglwyddo pob lle i berson newydd am ddim erbyn dydd Sul 19 Medi 2021.
Gallwch drosglwyddo'ch lle ar ôl y dyddiad hwn, ond codir ffi drosglwyddo fach o 20 Medi. Y dyddiad olaf i drosglwyddo'ch lle i berson newydd ar gyfer ras 2021 fydd 1 Gorffennaf 2022.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gallech gofrestru eto'n hwyrach yn y flwyddyn, ond bydd hyn yn destun argaeledd a phrisiau cofrestru ar y pryd.
Mae’n ddrwg gennym glywed na allwch gymryd rhan ar y dyddiad newydd yn 2021. Yn anffodus, ni allwn drosglwyddo'ch cais i ras yn y dyfodol gan fod y ras yn digwydd o hyd, ond ar ddyddiad newydd.
Gallwch drosglwyddo'ch lle i berson arall am ddim trwy ddefnyddio hwb aelodau Real Buzz hyd at ddydd Sul 19 Medi 2021
Rhaid trosglwyddo pob lle i berson newydd erbyn dydd Sul 19 Medi 2021.
Y dyddiad olaf i drosglwyddo'ch lle i berson newydd ar gyfer ras 2022 fydd 1 Gorffennaf 2022.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gallwch gofrestru eto'n hwyrach yn y flwyddyn. Bydd hyn yn destun argaeledd a phrisiau cofrestru ar y pryd.