Ydy, mae 10k Bae Abertawe Admiral 2021 yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad ddydd Sul 19 Medi 2021, gan lynu wrth ganllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru ac Athletau Cymru.
Bydd 10k Bae Abertawe Admiral 2021 yn dilyn yr un llwybr trawiadol ag arfer. Ond, bydd y broses gychwyn yn wahanol eleni, gydag ardal gychwyn fwy a mwy o amser a lle rhwng y rhedwyr. Bydd hyn i bob pwrpas yn gwasgaru'r rhedwyr o'r ardal gychwyn hyd at y llinell derfyn. Mae hyn yn cael ei ddatblygu o hyd a byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y caiff ei gadarnhau - ond peidiwch â phoeni, caiff eich amser ei gofnodi o hyd a chewch fwy o le wrth redeg!
Mae un o’r newidiadau pwysicaf i fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ras eleni’n ymwneud â’r broses ddechrau. Yr amser dechrau fydd 11am.
- Bydd ras 2021 yn dechrau unwaith eto ger Maes Rygbi a Chriced San Helen, ond bydd proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy i ganiatáu mwy o amser a lle rhwng rhedwyr. Bydd hyn i bob pwrpas yn gwasgaru’r rhedwyr o’r ardal gychwyn hyd at y diwedd.
- Ewch i San Helen lle byddwch yn gallu mynd i mewn i’r safle o’r gorllewin (lleoliad what3words – mute.slows.trials) a’r dwyrain (caller.rocky.output).
- Caiff rhedwyr eu galw ymlaen yn seiliedig ar amserau gorffen disgwyliedig, sy’n golygu y byddwch yn dechrau’r cwrs gyda rhedwyr o allu tebyg sydd ag amser gorffen targed tebyg.
Rydym yn rhagweld y bydd bron 4,000 o redwyr yn rhedeg yn y 4 ras ar y dydd. Mae hyn yn llai na rasys blaenorol, gan ein bod wedi lleihau niferoedd i gynyddu'r lle sydd ar gael ar y cwrs.
NI fydd dŵr ar gael ar y marc 5km fel yn y blynyddoedd blaenorol. Cofiwch ystyried hyn wrth i chi baratoi ar gyfer y ras.
Rydym yn annog rhedwyr a gwylwyr i gymryd prawf LFT cyn iddynt gyrraedd ar y diwrnod. Nid yw brechiadau na phrofion LFT yn ofynnol ar gyfer y digwyddiad hwn.
SUT I GAEL PRAWF LLIF UNFFORDD
- Gallwch archebu profion llif unffordd yma
- Gallwch ddod o hyd i fan casglu lleol yma
- Gallwch ddod o hyd i fan casglu fferyllfa leol yma
Mae'n hanfodol nad ydych yn dod i'r ras os:
- Ydych wedi cael prawf positif
- Ydych yn hunanynysu
- Oes gennych chi unrhyw un o'r symptomau COVID-19 nodweddiadol:
- tymheredd uchel - mae hyn yn golygu bod eich brest yn teimlo'n boeth pan gaiff ei gyffwrdd, neu
- beswch newydd, parhaus - mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 achlysur neu fwy o beswch mewn 24 awr neu
- wedi colli synnwyr arogli neu flasu neu wedi profi newid iddynt - mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli neu flasu unrhyw beth, neu mae pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer
Mae ein rasys iau hefyd wedi newid ychydig ar gyfer eleni;
- Bydd yr holl rasys iau (1k a 3k) yn dechrau o Faes Parcio Sketty Lane, ar yr amserau arferol (1k 7 oed ac iau 9.15am, 1k 8 – 11 oed 9.30am, 3km 10am)
- Sylwer: ni fydd bysus gwennol i’r llinellau cychwyn eleni – dylech ystyried hyn wrth drefnu’ch cynlluniau teithio.
- Mae’r llinell derfyn ar gyfer yr holl rasys iau yr un peth â’r blynyddoedd blaenorol (llinell derfyn y ras 10k, ger hen bont y slip ar y prom)
Mae cwrs y ras 3k ychydig yn wahanol eleni hefyd;
- Mae’r ras yn dechrau ym maes parcio Sketty Lane;
- bydd rhedwyr yn rhedeg i fyny’r prom i Brynmill Lane, ac yna’n ymuno â’r ffordd (a fydd ar gau) ac yn rhedeg tuag at ganol y ddinas cyn troi o gwmpas a rhedeg yn ôl i lawr i faes parcio Sketty.
- Byddant yn ailymuno â’r prom wrth y maes parcio ac yn ei ddilyn hyd at y linell derfyn (bydd yr un llinell derfyn ar gyfer pob ras, ger y senotaff)
Peidiwch â phoeni, byddwch yn dal i gael eich medal a'ch crys T 10k Bae Abertawe Admiral! Mae dosbarthu medalau'r ras yn cael eu datblygu o hyd, a chewch wybod amdanynt cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau.
Gallwch gasglu'ch crys T o babell fawr yn y Rec. Gallwch gasglu crysau T ar ddydd Gwener 17 a dydd Sadwrn 18, a bydd angen eich taleb crys T o'ch pecyn ras. Bydd crysau-T hefyd ar gael ar ddiwrnod y ras ond rydym yn annog pawb i’w casglu ddydd Gwener a dydd Sadwrn lle bo hynny’n bosib.
- Dydd Gwener 17 Medi: 12pm - 8pm
- Dydd Sadwrn 18 Medi: 9am - 6pm
Byddwch - bydd pecynnau ras yn cael eu postio i bobl fel arfer a byddant yn cynnwys eich bib rasio, taleb am grys T (i'w chyflwyno wrth gasglu'ch crys T 10k) a gwybodaeth am ddiwrnod y ras.
I helpu i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ar ddiwrnod y ras, gofynnir i breswylwyr a chefnogwyr osgoi sefyll ger y llinell gychwyn a'r llinell derfyn (fel arfer y mannau mwyaf poblogaidd), a sefyll ar wasgar ar hyd yr holl llwybr yn lle. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan bawb le i gadw pellter cymdeithasol a hefyd i barhau i gefnogi'r redwyr ar hyd yr holl lwybr.
Byddwn yn darparu nifer o orsafoedd cymeradwyo a bydd perfformwyr yn cerdded o gwmpas y lle ac ar hyd y llwybr, felly cadwch lygad ar y wefan am ddiweddariadau.
Ar gyfer ein 40fed ras, bydd gennym hefyd 4 man cefnogi ar hyd y llwybr! Bydd yr ardaloedd hyn yn cynnwys cerddoriaeth, dawnswyr codi hwyl a mwy i helpu’n rhedwyr! Gallwch ddod o hyd i’r Mannau Cefnogi:
- Ar waelod Brynmill Lane
- Ar waelod Sketty Lane
- Lido Blackpill
- Norton
Noddir ein mannau cefnogi gan Sancta Maria
Mae cynllun ac asesiad C19 cynhwysfawr yn cael eu datblygu, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru ac Athletau Cymru, i liniaru yn erbyn COVID-19 yn 10k Bae Abertawe Admiral.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys:
- Nifer is o redwyr, er mwyn rhoi mwy o le i bawb pan fyddant ar y cwrs.
- Lleihau nifer yr ardaloedd ar y ffordd lle bydd rhedwyr yn closio at ei gilydd
- Proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy, i ganiatáu mwy o le ac amser rhwng rhedwyr Bydd hyn yn helpu i wasgaru rhedwyr ar draws y cwrs o'r llinell gychwyn i'r llinell derfyn
- Caniatáu cadw pellter cymdeithasol
- Lleihau nifer y pwyntiau cyffwrdd ar y dydd
- Annog cefnogwyr i fynd ar wasgar ar hyd y llwybr 10k cyfan, gan roi mwy o le i bawb
- Cyfleusterau ar y safle'n cael eu glanhau'n amlach
- Annog yr holl redwyr a gwylwyr i gymryd prawf LFT cyn iddynt gyrraedd ar ddiwrnod y ras
Yn anffodus, ni fydd man storio bagiau eleni.
Yn anffodus, yn unol â'n hamodau a thelerau, nid ydym yn cynnig ad-daliadau neu ohiriadau a'r dyddiad cau ar gyfer trosglwyddiadau oedd dydd Sadwrn 31 Gorffennaf.
Yn anffodus, yn unol â'n hamodau a thelerau, nid ydym yn cynnig ad-daliadau neu ohiriadau a'r dyddiad cau ar gyfer trosglwyddiadau oedd dydd Sadwrn 31 Gorffennaf.
Bydd tlysau ar gyfer enillwyr categorïau ond ni fydd y tlysau'n cael eu cyflwyno'n gyhoeddus.
Bydd y brif ras 10k yn dechrau o Faes Rygbi San Helen am 11am a bydd yn dilyn gorllewin Mumbles Road i Sgwâr Ystumllwynarth lle bydd hi’n troi ac yn dychwelyd ar hyd promenâd y blaendraeth.
Bydd y ffyrdd ar gau a’r dargyfeiriadau ar waith o:
09.30am tan 1.30pm
- Bydd Mumbles Road ar gau rhwng Guildhall Road South a Sketty Lane.
- Bydd Brynmill Lane ar gau rhwng Mumbles Road a Bryn Road, oni bai am fynediad o gyfeiriad y de i'r Rec oddi ar Brynmill Lane ar gyfer parcio (yn ddibynnol ar argaeledd ar y diwrnod).
10.30am tan 1.30pm
- Troi i'r dde yn unig o Sketty Lane i Mumbles Road.
- Sketty Lane ar gau i gyfeiriad y de. Caiff mynediad i Ysbyty Singleton a Phwll Cenedlaethol Cymru ei gynnal.
- Bydd Mymbles Road ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Sketty Lane a Mayals Road. Troi i'r chwith yn unig (tuag at ganol y ddinas) o Ashleigh Road, Derwen Fawr Road, Mill Lane a Mayals Road.
- Mumbles Road ar gau rhwng Mayals Road a Fairwood Road.
- Mumbles Road ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Fairwood Road a Newton Road. Troi i'r chwith yn unig tuag at ganol y ddinas o Alderwood Road, Bethany Lane, Palmyra Court, Norton Avenue a Newton Road.
Er diogelwch pawb, ni fydd preswylwyr Mumbles Road yn gallu cael mynediad i rannau o’r ffordd hon rhwng tua 10.30pm a 1.30pm. Caiff y ffyrdd eu cau ar raglen dreigl a chânt eu hailagor cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny. Bydd mynediad i gerbydau argyfwng drwy’r amser.
Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer digwyddiad 2020, byddai eich cofrestriad wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i ddigwyddiad 2021.