Bydd staff yno i'ch helpu a gallwch hefyd gasglu potel o ddŵr a chasglu'ch bag anrhegion a fydd yn cynnwys eich medal a'ch tystysgrif (tystysgrifau ar gyfer rasys iau'n unig). I gwrdd â ffrindiau a theulu ar ôl y ras, symudwch o'r sianeli ac ewch i gwrdd â hwy y tu allan i'r babell wybodaeth.
Gallwch gasglu eich medal gorffen ras 10k Bae Abertawe Admiral ar ôl cwblhau'r ras. Caiff manylion eu cadarnhau'n fuan.
Bydd canlyniadau dros dro ar gael yn www.10kbaeabertawe.com yn hwyr ar ddiwrnod y ras. Bydd y set gyntaf o ganlyniadau dros dro ar gael ychydig oriau ar ôl i'r rhedwr olaf groesi'r llinell derfyn. Bydd y canlyniadau terfynol ar gael oddeutu 7 niwrnod ar ôl digwyddiad. Os nad yw eich canlyniadau'n gywir/nid yw'n ymddangos yn y canlyniadau dros dro, peidiwch â phoeni! Byddant yn ymddangos yn y canlyniadau terfynol.
Photo-fit.com yw ffotograffwyr swyddogol y ras eleni.
Os nad ydych wedi derbyn unrhyw un o'r pethau uchod, ewch i'r Babell Wybodaeth. Os ydych yn sylweddoli ar ôl i chi adael safle'r digwyddiad, gallwch gysylltu â ni trwy'r dudalen Facebook, neu e-bostiwch dîm digwyddiadau arbennig y cyngor yn special.events@abertawe.gov.uk