Bydd sylwebaeth ar y llinell derfyn, a fydd yn disgrifio lleoliad y rhedwyr ar y cwrs, a bydd yn galw enwau rhedwyr sydd wedi gorffen y ras wrth iddynt groesi'r llinell derfyn. Gwrandewch yn astud - efallai y byddwch yn clywed eich enw!
Mae'r ras yn dechrau am 9.15am ac mae'r brif ras 10k yn dechrau am 11.00am. Mae'r brif ras 10k fel arfer yn cymryd tua 2 awr i'w chwblhau.
Pentref y Ras, sydd ar ardal laswelltog y Rec.
Bydd staff diogelwch a Heddlu De Cymru i'w gweld ar y safle a byddant yn patrolio yn arena'r digwyddiad ac yn yr ardal gyfagos. Os byddwch yn gweld rhywbeth drwgdybus, adroddwch amdano i staff diogelwch neu stiward ar unwaith.
Eich diogelwch a'ch diogeledd yw ein prif bryder, ac rydym yn ymdrin â hyn yn ddifrifol iawn. Mae Cyngor Abertawe a Heddlu De Cymru wedi bod yn cynllunio'r digwyddiad hwn am amser hir, ac os byddwch yn bresennol yn y digwyddiad rydym am i chi fwynhau a chael hwyl, felly darllenwch yr wybodaeth a'r cyngor canlynol ynghylch diogelwch yn y digwyddiad.
- Bydd staff diogelwch i'w gweld yn y digwyddiad a byddant yn patrolio o amgylch y safle.
- Efallai y bydd cŵn arbenigol yn patrolio hefyd.
- Mae rhwydwaith o gamerâu CCTV wedi'i osod o gwmpas y lleoliad, a chânt eu monitro o'n hystafell reoli'r digwyddiad.
- Rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Heddlu a'r gwasanaethau brys eraill i gynllunio digwyddiad sy'n ddiogel i bawb.
- Bydd yr Heddlu'n patrolio'r digwyddiad a'r ardal leol.
- Efallai y byddwch yn gweld heddweision arfog yn patrolio'r ardal gan ei fod yn arfer arferol mewn digwyddiadau o'r maint hwn.
- Bydd nifer o fesurau diogelwch eraill ar waith na allwch chi eu gweld.
Cynhelir y digwyddiad, hyd yn oed os bydd yn glawio. Os bydd y tywydd yn wael, byddwch yn ofalus wrth i chi redeg.
- 10k Cadair olwyn (15+ oed)
- 10k (15+ oed)
- 3k (rhwng 9 a 14 oed)
- 1k (rhwng 8 a 11 oed)
- 1k (7 oed ac iau)
Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau brys er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hwn yn ddiogel. Er y bydd rhai ffyrdd ar gau, bydd gan y gwasanaethau brys fynediad ar bob adeg.
Dyma'r rheswm pam ni chaniateir clustffonau.
Na - ni chaniateir clustffonau yn ystod y ras. Mae llwybr 10k Bae Abertawe Admiral yn cynnwys adrannau o ffyrdd sydd ar gau, ac mae angen mynediad i gerbydau brys ar bob adeg. Er diogelwch yr athletwyr, ni chaniateir clustffonau oherwydd y gallant stopio'r rhedwyr rhag clywed hysbysiadau diogelwch neu gerbydau gwasanaethau brys.
Na, er ei fod yn un o'r rasys cyflymaf yn y DU mae croeso i redwyr hwyl hefyd. Os ydych tua chefn y ras, efallai y gofynnir i chi symud i'r palmant os ystyrir bod angen i chi wneud hynny gan Gyfarwyddwr y Ras.
Caniateir dyfeisiau ffitrwydd personol, ond sylwer ni chaniateir clustffonau.
Na, oherwydd byddai hyn yn cyflwyno perygl baglu i redwyr eraill.
Na, oherwydd byddai hyn yn cyflwyno perygl baglu i redwyr eraill.
Gallwch ein dilyn ar Facebook a Twitter er mwyn cael diweddariadau ar y ras, a'r traffig a theithio.
Gall rhieni redeg gyda'u plant yn ein rasys iau 1k ar gyfer plant 7 oed ac iau ac ar gyfer plant 8-11 oed. Ni all rhieni redeg yn ein ras 3k, ond caniateir iddynt ddilyn yng nghefn y grŵp.