Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
    • Wheelchair race
  • Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Race Guide
    • First Timers
    • Run for Charity
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
    • English (English)
  • Ras 3k
  • Canlyniadau’r Ras
  • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
  • Gwirfoddolwyr
  • Clybiau Rhedeg

Teithio a Pharcio

Os ydych chi’n lleol i Abertawe neu’n teithio i lawr am y penwythnos i gymryd rhan, dyma wybodaeth ddefnyddiol am gludiant, llety a’r ffyrdd a fydd ar gau.

Mae dros 4,000 o gystadleuwyr a’u teuluoedd yn dod i 10k Bae Abertawe Admiral bob blwyddyn, felly oherwydd cynnydd yn swm y traffig ar y ffyrdd, rydym yn cynghori cystadleuwyr i rannu ceir neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus lle y bo’n bosib.


Sut ydw i'n cyrraedd yno mewn car?

Am beiriant llywio lloeren, cofnodwch SA1 4PQ

Bydd arwyddion melyn o gyffordd 47 a 42 yr M4 i ardal y digwyddiad yn dangos dyn yn rhedeg arnynt.

Bydd parcio am ddim yn y Rec a'r cae lacrosse (cyn 9.30am fan bellaf) ger maes rygbi San Helen, ac o flaen a gerllaw Neuadd y Ddinas. Mae'r maes parcio ychwanegol ym maes parcio gorllewin y Ganolfan Ddinesig.

Ceisiwch ein helpu drwy gyrraedd yn gynnar gan fod y meysydd parcio'n llenwi'n gyflym ac mae traffig yn cynyddu'n sylweddol ger maes parcio'r prif ddigwyddiad. Llunnir cynllun rheoli traffig manwl a bydd ffyrdd yn cau oddeutu 9.30pm. Fodd bynnag, yn dilyn profiadau'r gorffennol, bydd rhesi o draffig yn cynyddu yn agos at y cwrs. Atgoffir cystadleuwyr i gyrraedd yn gynnar ac i gofio am oedi ar y ffyrdd wrth ardaloedd dechrau a gorffen y ras. Pan fyddwch yn gadael y maes parcio ar droed, cymerwch ofal a chroeswch y ffordd yn y mannau croesi dynodedig yn unig. Bydd hyn hyd yn oed yn bwysicach ar ddiwedd y digwyddiad pan fyddwch yn dychwelyd i'ch ceir, gan y byddwch yn croesi ffordd ddeuol brysur iawn.

Sut ydw i'n cyrraedd ar y bws?

O orsaf fysus y Cwadrant yng nghanol y ddinas, bydd y bysus canlynol yn mynd â chi i Faes Rygbi San Helen: 2A/3A. Mae nifer o wasanaethau cludiant cyhoeddus yng nghanol y ddinas. I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau bysus a thrên, ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 neu ewch i Traveline Cymru

Ble gallaf barcio?

Gallwch barcio am ddim ar y "Rec" a'r Cae Lacrosse (erbyn 12.00pm fan bellaf), ger Maes Rygbi San Helen, ac o flaen ac wrth ochr Neuadd y Ddinas, Abertawe. Mae meysydd parcio gorlifo wrth Faes Parcio Gorllewinol y Ganolfan Ddinesig.

Pan fyddwch yn gadael y maes parcio ar droed, cymerwch ofal a chroeswch y ffordd yn y mannau croesi dynodedig yn unig. Mae hyn yn bwysig iawn yn enwedig ar ddiwedd y digwyddiad pan fyddwch yn dychwelyd i'ch cerbydau, oherwydd byddwch yn croesi ffordd ddeuol brysur iawn.

Ble gallaf aros?

Teithio i Abertawe ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral? Gadewch i Groeso Bae Abertawe'ch helpu i gynllunio'ch arhosiad.  Cynhelir croesobaeabertawe.com gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe, a'r tîm yw darparwr swyddogol gwybodaeth i dwristiaid Bae Abertawe (Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr).  Mae'r wefan yn llawn syniadau am bethau ychwanegol i'w gweld a'u gwneud yn ogystal â gwybodaeth am amrywiaeth eang o lety o safon.

A fydd unrhyw ffyrdd ar gau?

Caiff trefniadau cau ffyrdd ar gyfer ras 2022 eu cadarnhau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.

Pam bydd ffyrdd ar gau?

Er mwyn cynnal y ras ac er diogelwch y rhedwyr.

A fydd unrhyw lwybrau beicio ar gau?

Na fydd, ond bydd arwyddion rhybuddio ymlaen llaw wedi'u gosod a bydd stiwardiaid ar hyd y llwybr yn cynghori beicwyr i ddod oddi ar eu beiciau yn ystod cyfnodau prysuraf y ras.

A fydd parcio hygyrch ar gael?

Bydd lleoedd parcio ar gael ym Maes Parcio'r Rec, sy'n gyfochrog ag ardaloedd dechrau a gorffen y ras.

Pryd bydd Maes Parcio'r Rec ar agor?

8.30am

A allaf barcio'n lleol?

Gallwch - ond parciwch yn gyfrifol. Bydd pob ffordd gyfagos yn destun rheoliadau parcio arferol, a bydd wardeniaid parcio'n patrolio'r ardal ac yn gorfodi cyfyngiadau parcio.

A fydd gwasanaeth Parcio a Theithio?

Na fydd

Byddaf yn teithio i Abertawe, felly a fydd arwyddion er mwyn fy nghyfeirio?

Bydd arwyddion melyn o gyffordd 47 a 42 yr M4 i ardal y digwyddiad yn dangos dyn yn rhedeg arnynt.

A fydd modd i mi gael mynediad i Ysbyty Singleton?

Nid effeithir ar Ysbyty Singleton gan gau ffyrdd neu safle'r digwyddiad, a bydd mynediad i Ysbyty Singleton yn dilyn y drefn arferol. Fodd bynnag, oherwydd y bydd rhai ffyrdd ar gau, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio ffyrdd eraill - cynlluniwch ymlaen llaw.

Alla i gael mynediad i Brifysgol Abertawe o hyd?

Ni fydd hi'n bosib cael mynediad i brif fynedfa Prifysgol Abertawe rhwng 10am a 11.30am. Ceir mynediad amgen trwy Ysbyty Singleton - cynlluniwch ymlaen llaw.

Alla i gael mynediad i Lyn Cychod Singleton/Pub on the Pond?

Effeithir ar Lyn Cychod Singleton/Pub on the Pond am gyfnod byr ar ddechrau'r ras (rhwng tua 11am a 11.20am oherwydd y bydd y ffyrdd ar gau, ond ceir mynediad cyn ac ar ôl hyn).

Rwyf am deithio i'r Mwmbwls/Gwr, sut y gallaf gyrraedd yno?

Rhwng 10am a 10.30am, ceir mynediad trwy droi i'r dde ger Lôn Sgeti

Rhwng 10.30am a 12.00pm, ceir mynediad trwy Gŵyr.

Unwaith y bydd y rhedwr olaf yn mynd heibio Lôn Sgeti, bydd y traffig yn gallu dilyn y cerbyd cefnogi.

Rwy'n bwriadu teithio allan o Abertawe, sut gallaf gyrraedd yr M4?

Bydd Heol y Mwmbwls/Heol Ystumllwynarth yn dal i fod ar agor i draffig hyd at Lôn Sgeti, felly gallwch gyrraedd yr M4 o hyd, ond caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith.

Sut gallaf gael yr wybodaeth ddiweddaraf am barcio a theithio ar y diwrnod?

Gallwch ddilyn ein tudalen Facebook a Twitter.

This post is also available in: English

Erthyglau ddiweddar

  • Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral 2022!
  • Rhedwyr a chefnogwyr ar lan môr Abertawe ar gyfer ras 10k flynyddol lwyddiannus
  • Ras 10k a Ras Hwyl Bae Abertawe – Y Dechrau
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema’r 80au
  • Gwnaeth pobl o fath penodol estyn y ffiniau ym 1981

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2022 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
SAVE & ACCEPT
  • enEnglish (English)
  • cyCymraeg