Diolch yn arbennig i holl gefnogwyr 10k Bae Abertawe Admiral 2019;
Prif Noddwyr
Admiral
Partneriaid
Sancta Maria – noddwyr swyddogol Mannau Cefnogi
Fel rhan o’r elusen gofal iechyd, The Healthcare Management Trust, mae HMT Ysbyty Sancta Maria yn sefydliad nid er elw. Felly, nid oes gennym randdeiliaid a chaiff ein gwargedion eu defnyddio i gefnogi elusennau dementia, grantiau addysgol ac ymchwil feddygol ynghylch heneiddio.
Ynghyd â’n chwaer ysbyty, HMT St Hugh’s yn Grimsby, ein nod yw gwella iechyd, lles ac annibyniaeth y bobl rydym yn gofalu amdanynt ac mae ansawdd a diogelwch wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Mae’n bwysig ein bod ni’n rhan o’r gymuned iechyd ac yn gweithio ar y cyd â’n cydweithwyr yn y GIG i ddarparu gwasanaeth gofal iechyd modern o safon i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Village Hotel Abertawe – Partner llety
Amberon – Partner Rheoli Traffig
Day’s Rental Swansea – Partner Cerbydau
Princes Gate – Partner hydradiad
Cyfleoedd noddi
Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn rhan o raglen amryfal o ddigwyddiadau arobryn sydd wedi’i threfnu gan Gyngor Abertawe, gan ddenu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r rhaglen ddigwyddiadau flynyddol hon yn dod â chymunedau ynghyd, yn helpu i gefnogi busnesau lleol, yn cryfhau’r economi leol ac yn hyrwyddo Abertawe fel lleoliad bendigedig i ymweld ag ef, neu i astudio, gweithio neu fyw yma.
Os ydych am wybod sut gallai’n rhaglen ddigwyddiadau gefnogi’ch amcanion busnes neu os hoffech fwy o wybodaeth am y pecynnau rydym yn eu cynnig, mae croeso i chi gysylltu â ni.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Steven Morse, Swyddog Marchnata a Noddi
01792 635781/07813579290
neu ffoniwch ein tîm Digwyddiadau Arbennig ar 01792 635102 neu e-bostiwch 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk
Stondinau Masnach 2018
Os ydych yn ystyried gwneud cais am Stondin Masnach yn nigwyddiad 10k Bae Abertawe Admiral 2018, gallwch lawrlwytho ffurflen gais yma.
This post is also available in: English