Cymerwch gip ar ein hadran Cwestiynau Cyffredin am fwy o wybodaeth
Amserlen diwrnod y ras
Gwybodaeth Cyfyngiad Oedran | Amser Dechrau | Lleoliad Dechrau | |
10k Cadair olwyn (15+ oed) | 12.55pm | Y tu allan i Faes Rygbi San Helen | |
Ras y Masgotiaid | 1.10pm | Y tu allan i Faes Rygbi San Helen | |
10k 15+ oed | 1.00pm | Y tu allan i Faes Rygbi San Helen | |
5K (15 – 21 oed) | 12 ganol | Ar y Promenâd ger Sgwâr Ystumllwynarth | |
3k (9 oed – 14 oed) | 11.15am | Ochr y Mwmbwls Lido Blackpill |
|
1k (8 oed – 11 oed) | 11.00am | Maes Parcio Lôn Sgeti | |
1k (7 oed ac iau) | 10.45am | Maes Parcio Lôn Sgeti |
Ardal fagiau
Gall cyfranogwyr adael eu bagiau yn y babell wybodaeth trwy ddefnyddio’r label bag sydd ynghlwm wrth eich rhif ras.
Athletwyr cadair olwyn elitaidd profiadol
Os ydych yn athletwr cadair olwyn hunan-wthio profiadol â chadair olwyn rasio, mae’n rhaid i chi adrodd i’r Cyfarwyddwr Cychwyn erbyn 12.15pm er mwyn dechrau cyn y prif redwyr.
A fydd modd i mi gael ad-daliad os na allaf redeg?
NA FYDD – nid ydym yn cynnig ad-daliadau.
A fydd modd i mi gynnig fy lle i rywun arall?
NA FYDD – Nid ydym yn caniatáu newid enwau ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y ras. Peidiwch â newid eich rhif ras ag unrhyw redwr arall chwaith, gan y gallai hyn achosi problemau ar gyfer ein gwasanaeth meddygol neu ganlyniadau. Os bydd trefnwyr y ras yn ymwybodol bod unrhyw un yn newid ei rif ras bydd yn cael ei wahardd a dywedir amdano wrth yr UKA
Ble mae’r man ymgynnull ar gyfer y 10k?
Y man ymgynnull i gychwyn yw’r ffordd ddeuol ar Heol Ystumllwynarth (y tu allan i Faes Rygbi San Helen) o oddeutu 12.30pm. Bydd cyfnod o gynhesu oddeutu 10 munud cyn y ras.
Ar gyfer prif ras 10k Bae Abertawe Admiral, mae’r man ymgynnull wedi’i rannu’n ardaloedd bandiau amser. Dylech ymgynnull yn yr ardal sy’n cyd-fynd â’ch amser rhedeg tebygol. Dylai hyn sicrhau eich bod yn rhedeg gyda rhedwyr o allu tebyg er mwyn rhoi’r profiad a’r amser terfynol gorau posib i chi.
Cofiwch gynnwys amser ychwanegol ar gyfer tagfeydd posib a pharcio wrth gynllunio’ch taith.
Rhoddir y bandiau amser ar waliau Maes Rygbi San Helen.
Beth sydd yn fy mhecyn ras?
Anfonir pecynnau ras at yr holl redwyr bythefnos cyn y ras. Mae eich pecyn ras yn cynnwys rhif â sglodyn amseru’n atodedig, label bag a thaleb i gael crys-t technolegol am ddim.
Gallwch gasglu’r crys-t o Neuadd y Ddinas ddydd Gwener 14 a dydd Sadwrn 15 Medi neu ar ddiwedd y ras yn y Babell Wybodaeth. Bydd yr amserau casglu wedi’u nodi ar y daleb. Rhaid bod gennych eich taleb i dderbyn eich crys-t.
Rhoddir eich sglodyn amseru ras ar gefn eich rhif ras a gallwch rwygo’r label bagiau ar waelod rhif eich ras.
A fydd rhaid i mi gofrestru ar y diwrnod?
Na – ni allwch gofrestru ar y diwrnod ar gyfer y brif ras 10k.
Beth dylwn ei wneud os nad wyf wedi derbyn fy mhecyn ras?
Os nad ydych wedi derbyn eich rhif ras erbyn dydd Llun 10 Medi, e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk
Beth yw’r llwybr?
Mae’r 10k yn cychwyn ar ochr orllewinol ffordd gerbydau Heol Ystumllwynarth y tu allan i Faes Rygbi San Helen, gyda’r 5k cyntaf yn parhau ar hyd y ffordd. Wrth y troad, mae’r llwybr yn troi’n ôl ar ei hun, ar bromenâd hyfryd Bae Abertawe. Mae’r llwybr yn gyflym, yn wastad ac mae ganddo gefnogaeth gwylwyr gwych ar ei hyd. Mae’r llinell derfyn ger garreg goffa’r senotaff.
Unrhyw ymholiadau eraill?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, bydd y babell wybodaeth ar y promenâd ger yr allanfeydd gyferbyn â Maes Rygbi San Helen. Mae’r man plant coll yn y Babell Wybodaeth.