Os ydych chi’n lleol i Abertawe neu’n teithio i lawr am y penwythnos i gymryd rhan, dyma wybodaeth ddefnyddiol am gludiant, llety a’r ffyrdd a fydd ar gau.
Mae dros 4,000 o gystadleuwyr a’u teuluoedd yn dod i 10k Bae Abertawe Admiral bob blwyddyn, felly oherwydd cynnydd yn swm y traffig ar y ffyrdd, rydym yn cynghori cystadleuwyr i rannu ceir neu ddefnyddio cludiant cyhoeddus lle y bo’n bosib.
Am beiriant llywio lloeren, cofnodwch SA1 4PQ
Bydd arwyddion melyn o gyffordd 47 a 42 yr M4 i ardal y digwyddiad yn dangos dyn yn rhedeg arnynt.
Bydd parcio am ddim yn y Rec a'r cae lacrosse (cyn 9.30am fan bellaf) ger maes rygbi San Helen, ac o flaen a gerllaw Neuadd y Ddinas. Mae'r maes parcio ychwanegol ym maes parcio gorllewin y Ganolfan Ddinesig.
Ceisiwch ein helpu drwy gyrraedd yn gynnar gan fod y meysydd parcio'n llenwi'n gyflym ac mae traffig yn cynyddu'n sylweddol ger maes parcio'r prif ddigwyddiad. Llunnir cynllun rheoli traffig manwl a bydd ffyrdd yn cau oddeutu 9.30pm. Fodd bynnag, yn dilyn profiadau'r gorffennol, bydd rhesi o draffig yn cynyddu yn agos at y cwrs. Atgoffir cystadleuwyr i gyrraedd yn gynnar ac i gofio am oedi ar y ffyrdd wrth ardaloedd dechrau a gorffen y ras. Pan fyddwch yn gadael y maes parcio ar droed, cymerwch ofal a chroeswch y ffordd yn y mannau croesi dynodedig yn unig. Bydd hyn hyd yn oed yn bwysicach ar ddiwedd y digwyddiad pan fyddwch yn dychwelyd i'ch ceir, gan y byddwch yn croesi ffordd ddeuol brysur iawn.
O orsaf fysus y Cwadrant yng nghanol y ddinas, bydd y bysus canlynol yn mynd â chi i Faes Rygbi San Helen: 2A/3A. Mae nifer o wasanaethau cludiant cyhoeddus yng nghanol y ddinas. I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau bysus a thrên, ffoniwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33 neu ewch i Traveline Cymru
Gallwch barcio am ddim ar y "Rec" a'r Cae Lacrosse (erbyn 12.00pm fan bellaf), ger Maes Rygbi San Helen, ac o flaen ac wrth ochr Neuadd y Ddinas, Abertawe. Mae meysydd parcio gorlifo wrth Faes Parcio Gorllewinol y Ganolfan Ddinesig.
Pan fyddwch yn gadael y maes parcio ar droed, cymerwch ofal a chroeswch y ffordd yn y mannau croesi dynodedig yn unig. Mae hyn yn bwysig iawn yn enwedig ar ddiwedd y digwyddiad pan fyddwch yn dychwelyd i'ch cerbydau, oherwydd byddwch yn croesi ffordd ddeuol brysur iawn.
Teithio i Abertawe ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral? Gadewch i Groeso Bae Abertawe'ch helpu i gynllunio'ch arhosiad. Cynhelir croesobaeabertawe.com gan Dîm Twristiaeth Cyngor Abertawe, a'r tîm yw darparwr swyddogol gwybodaeth i dwristiaid Bae Abertawe (Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr). Mae'r wefan yn llawn syniadau am bethau ychwanegol i'w gweld a'u gwneud yn ogystal â gwybodaeth am amrywiaeth eang o lety o safon.
Er mwyn cynnal y ras ac er diogelwch y rhedwyr.
Na fydd, ond bydd arwyddion rhybuddio ymlaen llaw wedi'u gosod a bydd stiwardiaid ar hyd y llwybr yn cynghori beicwyr i ddod oddi ar eu beiciau yn ystod cyfnodau prysuraf y ras.
Bydd lleoedd parcio ar gael ym Maes Parcio'r Rec, sy'n gyfochrog ag ardaloedd dechrau a gorffen y ras.
8.30am
Gallwch - ond parciwch yn gyfrifol. Bydd pob ffordd gyfagos yn destun rheoliadau parcio arferol, a bydd wardeniaid parcio'n patrolio'r ardal ac yn gorfodi cyfyngiadau parcio.
Bydd parcio’n cael ei atal ar Bryn Road i alluogi mynediad i gerbydau brys.
Na fydd
Bydd arwyddion melyn o gyffordd 47 a 42 yr M4 i ardal y digwyddiad yn dangos dyn yn rhedeg arnynt.
Bydd Heol y Mwmbwls/Heol Ystumllwynarth yn dal i fod ar agor i draffig hyd at Lôn Sgeti, felly gallwch gyrraedd yr M4 o hyd, ond caniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith.
Gallwch ddilyn ein tudalen Facebook a Twitter.