Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn un o’r llwybrau mwyaf godidog yn y DU!
Gan ddechrau ger y Senotaff ar Mumbles Road, bydd hanner cyntaf y cwrs yn dilyn y ffordd i lawr i ardal hardd y Mwmbwls, cyn dychwelyd ar hyd prom trawiadol Abertawe. Bydd ras eleni’n dechrau ar y ffordd, a bydd arwyddion ar gael i ddangos amserau gorffen amcanol fel y gallwch ymuno â’r rhedwyr sydd o allu tebyg ac a fydd yn gorffen y ras tua’r un amser â chi. Cadwch lygad am benwyr cyflymder hefyd. Mae rhywfaint o newid i’r llinell derfyn ar gyfer ras 2022 – wrth i chi fynd yn ôl ar hyd y prom, bydd rhedwyr yn ailymuno â’r ffordd wrth iddynt fynd heibio Brynmill Lane ac anelu am linell derfyn ar Mumbles Road.
Ar y llinell derfyn, bydd stiwardiaid yn eich arwain drwy’r twmffedi lle gallwch gasglu dŵr, eich medal a’r bag rhoddion, a fydd yn eich arwain chi yn ôl i bentref yr athletwyr.
Defnyddiwch ein map rhyngweithiol isod i’ch helpu i gael ymdeimlad o’r cwrs. Amlygir y siecbwyntiau ar bob cilometr, yn ogystal â lleoliadau allweddol (gorsafoedd dŵr, y babell wybodaeth, etc.)
Cyrsiau rasys iau
- Bydd y rasys iau 1k yn dechrau ar brif linell gychwyn/derfyn y ras 10k. Bydd rhedwyr yn rhedeg i fynediad Prifysgol Abertawe, yn troi’n ôl ac yn dychwelyd i llinell gychwyn/derfyn y ras 10k.
- Bydd y ras iau 3k yn dechrau ym maes parcio Sketty Lane, ac yn mynd ar hyd y Prom i Brynmill Lane, yn troi i’r chwith ar Mumbles Road ac yn mynd tuag at y Mwmbwls. Yna, bydd angen troi i’r chwith a dychwelyd i faes parcio Sketty Lane, yna rhedeg ar hyd y Prom i Brynmill Lane cyn troi i’r dde ar Mumbles Road a gorffen ar llinell gychwyn/derfyn y ras 10k.
I gael mynediad i’r allwedd, cliciwch ar eicon arwydd/ffenest yn y cornel chwith uchaf, cyn “Admiral Swansea Bay 10k”. I weld y map ar y sgrin lawn, cliciwch yr eicon blwch yn y gornel dde uchaf.