Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
You are here: Home / Uncategorized @cy / Codi’r cyflymder

Codi’r cyflymder

Awst 27, 2013 By Chris Williams

Rwyf wedi rhedeg sawl gwaith ers i mi ysgrifennu y tro diwethaf felly dyma beth ydw i wedi’i wneud ers hynny (mae’n fis Ebrill):  Rwyf wedi newid fy app i km yn lle milltiroedd sy’n ei wneud yn haws i mi gyfrifo’r pellter.  Mae gennyf ffrind rhedeg bellach sy’n wych ac rydym wedi bod ar ddwy daith redeg wych – 6k y ddau dro sydd tua 4.6 milltir. Nid y nod o 5 milltir ond bron â chyrraedd y nod. Ac es i ar daith redeg 4k o amgylch y stryd i geisio cael pŵer yn fy nghoesau – nid yw wedi digwydd eto fodd bynnag.  Rwyf hefyd wedi cael cinio gwych gyda’r menywod ac wedi yfed llawer o swigod pinc – neis ac wedi cyrraedd 7k – hwre!

Nid oeddwn wedi sylweddoli mor bell ydoedd nes i mi gyrraedd y Mwmbwls o Sgeti – o diar!  Roedd 3k yn iawn ond roedd yr hanner km ychwanegol yn teimlo fel milltiroedd!  Roedd yn iawn nes cyrraedd tua 5 km a hanner ac roedd fy nghoesau (a’m bysedd traed, od) wedi dechrau brifo am y tro cyntaf ers i mi ddechrau ar yr ymgais 10k ym mis Chwefror. Mae’n hen bryd i mi gael esgidiau hyfforddi newydd (er fy mod wedi bod yn dweud hyn ers sbel hir nawr!) Roedd y 6k yn iawn y ddau dro felly bydd yn rhaid i mi redeg am 7k ychydig weithiau cyn rhedeg 8k.  Rwy’n falch iawn y gallaf redeg mor bell 0 hwre!   Rwyf hefyd yn teimlo llawer yn fwy heini ac rwy’n bwyta’n fwy iachus (diflas iawn) felly rwy’n teimlo’n eithaf hunanfodlon ar hyn o bryd!  Mae’r tywydd yn newid hefyd wrth i’r gwanwyn nesáu (ond yn methu’r rhan fwyaf o’r amser!)  Ond pam na allaf fynd yn gynt?  Atebion ar gerdyn post…

Filed Under: Uncategorized @cy

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.