Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
You are here: Home / Uncategorized @cy / 3 wythnos ar ôl i gofrestru!

3 wythnos ar ôl i gofrestru!

Awst 13, 2018 By Chris Williams

Tair wythnos yn unig sydd ar ôl i bobl sy’n dwlu ar ffitrwydd a chodi arian i elusennau gyflwyno’u ceisiadau ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral eleni.

Eich cyfle olaf i gofrestru ar gyfer y ras flynyddol, a gynhelir ddydd Sul 16 Medi, yw dydd Gwener 31 Awst.

Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y digwyddiad sy’n cael ei noddi gan Admiral am y drydedd flwyddyn ar ddeg yn olynol. Yn ogystal â’r 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k hefyd, yn ogystal â ras 10k mewn cadair olwyn.

Disgwylir i tua 5,000 o bobl gymryd rhan unwaith eto eleni.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Gyda chynifer o olygfeydd prydferth nid yw’n syndod bod rhedeg yn rhan o ddiwylliant cyfoethog ein dinas.

“Yn gynharach eleni enwyd 10k Bae Abertawe Admiral fel ras 10k orau Cymru yng Ngwobrau Rhedeg 2018, ac enwebwyd y ras yng Ngwobrau Rhedeg 2019 hefyd.”

Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn Abertawe, yn ras wych i athletwyr profiadol, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a phobl sydd am guro eu hamseroedd gorau neu drechu nodau ffitrwydd personol.

“Gyda golygfeydd prydferth Bae Abertawe yn gefndir i’r ras wastad, mae’r digwyddiad arobryn hwn hefyd yn cynnwys rasys i blant sy’n rhoi cyflwyniad perffaith i redeg ar y ffordd iddynt.

“Gyda’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar ddiwedd mis Awst, byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y digwyddiad eleni i gofrestru cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael ei siomi gan fod y ras bob amser yn llawn, yn aml cyn y dyddiad cau.

“Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y ras bob amser yn gadarnhaol iawn am y profiad oherwydd y ffordd y caiff ei threfnu a’i rheoli, heb anghofio am y gefnogaeth maent yn ei derbyn gan y cannoedd o bobl sy’n dod i gefnogi ar hyd y llwybr.”

Cynhelir ras fasgotiaid ar y diwrnod hefyd, felly croesewir pobl sydd am gofrestru fel rhan o grwpiau, sefydliadau a chwmnïau mewn ymdrech i ennill y £100 sydd ar gael i’r masgot buddugol.

Filed Under: Uncategorized @cy

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.