Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Cartref
  • Cofrestru
    • Ras 10k
    • Rasys Iau
      • Ras 1k
      • Ras 3k
    • Ras mewn cadair olwyn
    • Ras y Masgotiaid
  • Canlyniadau
    • Canlyniadau’r Ras
    • Canlyniadau Blaenorol
    • Hanes y ras
  • Gwybodaeth am y Digwyddiad
    • Arweiniad i’r ras
    • Map o’r cwrs
    • Rheolau’r Ras – Amodau a Thelerau
    • Teithio a Llety
    • Gwirfoddolwyr
    • Rhedeg dros Elusen
    • Hyfforddiant
      • Clybiau Rhedeg
  • Partneriaid a Noddwyr
  • Blogiau
  • Cymraeg (Cymraeg)
You are here: Home / Uncategorized @cy / Profion Ffitrwydd – sut ydw i’n cymharu â’m cydweithwyr/cyfoedion

Profion Ffitrwydd – sut ydw i’n cymharu â’m cydweithwyr/cyfoedion

Awst 14, 2014 By Chris Williams

Mae bob amser yn ddefnyddiol gwneud profion ffitrwydd wrth i chi ymarfer ar gyfer digwyddiad gan ei fod yn eich helpu i osod meincnod ar gyfer ble rydych chi ar hyn o bryd, a lle yr hoffech chi fod. Mae hefyd yn eithaf defnyddiol i fesur sut mae eich hyfforddiant yn datblygu gan y gallwch weld sut rydych wedi datblygu dros yr wythnosau.

Mae nifer o brofion ffitrwydd ar gael sy’n mesur nifer o wahanol agweddau o’ch iechyd.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cofio’r prawf blîp, sef rhedeg rhwng dau bwynt, 20m ar wahân, a chael eich amseru, gyda chyfnodau byrrach o amser wrth i chi symud ymlaen drwy bob lefel. Os hoffech lawrlwytho’r prawf blîp am ddim o iTunes, cliciwch yma.

Mae profion ffitrwydd mwy modern ar gael gan y fyddin i weld a ydych chi’n ddigon iach a ffit i ymuno â’r fyddin. Yn wahanol i’r prawf blîp, sy’n profi eich ffitrwydd cardio, crëwyd y profion hyn i brofi eich cryfder craidd (eisteddiadau), eich cardio (rhedeg), a chryfder rhan uchaf eich corff (ymwthiadau).

Yna, mae nifer o brofion ffitrwydd ar gael i bobl gyffredin, i brofi amrywiaeth o rannau o’r corff, yn amrywio o dyniadau, rhwyfo, planciau, rhagwthion a mwy.

Pam na wnewch chi weld sut y dewch chi ymlaen gyda’r ychydig o brofion isod?

Planc Dynion Menywod
Da < 75 eiliad < 60 eiliad
Gweddol 45 – 75 35 – 60
Gwael > 45 > 35
Cyrcydu Dynion Menywod
Da < 50 < 40
Gweddol 30 – 49 25 – 40
Gwael > 30 > 25
Ymwthiadau Dynion Menywod
Da < 25 < 15
Gweddol 16 – 24 5 – 15
Gwael > 15 > 5
Tyniadau Dynion Menywod
Da < 8 4
Gweddol 4 – 7 1-3
Gwael > 4 >1
Rhedeg 1km Dynion Menywod
Da > 3:30 mun 4:30 mun
Gweddol 3:30 – 4:30 4:30 – 5:30
Gwael < 4:30 < 5:30

Am gael her ffitrwydd yn fisol?

  • Her crensiadau/eisteddiadau
  • Her neidiau gwasg a chyrcydau
  • Her neidiau hanner seren
  • Her rhagwthion

 

Filed Under: Uncategorized @cy

Erthyglau ddiweddar

  • Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021
  • Cyflwynwch eich ceisiadau heddiw ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral
  • Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
  • Thousands hit Swansea seafront for annual 10k success
  • Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral

Yr wybodaeth ddiweddaraf

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio er mwyn cael y newyddion a’r diweddaraf am y 10k drwy e-bost

Cysylltwch â ni

Digwyddiadau Darganfod Bae Abertawe

Dewch o hyd i arweiniad cynhwysfawr ar gyfer digwyddiadau eraill a gynhelir ym Mae Abertawe eleni ar wefan Joio Bae Abertawe

Joio Bae Abertawe

DILYNWCH NI

  • Email
  • Facebook
  • Twitter

Cyngor Abertawe

Swansea Council logo

Copyright © 2021 · Swansea Council | Privacy | Cookies

  • cyCymraeg
I’n helpu i ddarparu’r profiad pori gorau posib, mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis Dewch o hyd i wybodaeth am sut gallwch reoli ac analluogi eich cwcis yma.