Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Home
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
      • 3k Race
    • Wheelchair race
    • Mascot Race
  • Results
    • Race Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Course Map
    • Race Guide
    • Travel and Parking
    • First Timers
    • Race Rules – T&Cs
    • Volunteers
    • Run for Charity
    • Running Clubs
  • Partners and Sponsors
  • News

Gwybodaeth am ddiwrnod ras 10k Bae Abertawe Admiral 2021

Gwybodaeth bwysig am 10k Bae Abertawe Admiral 2021

*Sylwer: *chaiff y dudalen hon ei diweddaru’n rheolaidd*

Redwyr, rydym bron ar y llinell gychwyn!

Mae tîm 10k Bae Abertawe Admiral yn edrych ymlaen i’ch croesawu nôl i’r cwrs ar 19 Medi, yn enwedig gan mai hon fydd ein 40fed flwyddyn. Er ein bod yn gobeithio’ch bod chi yr un mor gyffrous â ni i redeg ar y cwrs trawiadol, mae COVID-19 yn golygu y bydd diwrnod ras 10k Bae Abertawe Admiral 2021 ychydig yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol.

Mae cynllun ac asesiad COVID-19 cynhwysfawr yn cael eu datblygu, gan olygu y gallwch ddal i fwynhau profiad ein diwrnod ras anhygoel ond gyda rhai newidiadau a mesurau ychwanegol i sicrhau bod y digwyddiad yn ddiogel i bawb sy’n rhan ohono, gan gynnwys y gymuned leol ehangach.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys:

  • Nifer is o redwyr, er mwyn rhoi mwy o le i bawb pan fyddant ar y cwrs.
  • Lleihau nifer yr ardaloedd ar y ffordd lle bydd rhedwyr yn closio at ei gilydd
  • Proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy, i ganiatáu mwy o le ac amser rhwng rhedwyr Bydd hyn yn helpu i wasgaru rhedwyr ar draws y cwrs o’r llinell gychwyn i’r llinell derfyn
  • Caniatáu cadw pellter cymdeithasol
  • Lleihau nifer y pwyntiau cyffwrdd ar y dydd
  • Annog cefnogwyr i fynd ar wasgar ar hyd y llwybr 10k cyfan, gan roi mwy o le i bawb
  • Cyfleusterau ar y safle’n cael eu glanhau’n amlach
  • Annog yr holl redwyr a gwylwyr i gymryd prawf LFT cyn iddynt gyrraedd ar ddiwrnod y ras

Mae rhai newidiadau allweddol ar gyfer ras eleni – darllenwch yr adrannau canlynol yn ofalus cyn diwrnod y ras;

Cyn y ras

  • Mae 2 babell wybodaeth eleni; pabell casglu crysau-t a gwybodaeth ar y Rec ger San Helen, a pwynt gwybodaeth yn y man gorffen
  • Does DIM pwynt dŵr ar y pwynt 5k eleni. Cofiwch ystyried hyn wrth i chi gynllunio ar gyfer y ras
  • Sylwer: ni fydd bysus gwennol i’r llinellau cychwyn eleni – dylech ystyried hyn wrth drefnu’ch cynlluniau teithio.
  • Yn anffodus, ni fydd man storio bagiau eleni.

Dechrau’r ras

Mae un o’r newidiadau pwysicaf i fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ras eleni’n ymwneud â’r broses ddechrau. Yr amser dechrau fydd 11am.

  • Bydd ras 2021 yn dechrau unwaith eto ger Maes Rygbi a Chriced San Helen, ond bydd proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy i ganiatáu mwy o amser a lle rhwng rhedwyr. Bydd hyn i bob pwrpas yn gwasgaru’r rhedwyr o’r ardal gychwyn hyd at y diwedd.
  • Ewch i San Helen lle byddwch yn gallu mynd i mewn i’r safle o’r gorllewin (lleoliad what3words – mute.slows.trials) a’r dwyrain (caller.rocky.output).
  • Caiff rhedwyr eu galw ymlaen yn seiliedig ar amserau gorffen disgwyliedig, sy’n golygu y byddwch yn dechrau’r cwrs gyda rhedwyr o allu tebyg sydd ag amser gorffen targed tebyg.

Yn ystod y ras

Unwaith y byddwch wedi dechrau ras 10k Bae Abertawe Admiral 2021, byddwch yn rhedeg ar yr un cwrs trawiadol rydym i gyd yn gyfarwydd ag e’. Cadwch lygad am ein mannau cefnogi, cymeriadau a fydd yn cerdded o gwmpas y lle, a mwy ar y llwybr. Mae un gwahaniaeth allweddol i’r cwrs eleni;

  • Dim ond un gorsaf ddŵr fydd yn ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni, a honno ar y diwedd. NI fydd dŵr ar gael ar y marc 5km fel yn y blynyddoedd blaenorol. Cofiwch ystyried hyn wrth i chi baratoi ar gyfer y ras.

Gorffen y ras

  • Wrth orffen y ras, byddwch yn derbyn dŵr a’ch medal gorffenwyr ras 10k Bae Abertawe Admiral. Eleni byddwch yn derbyn bag rhoddion rhithwir – cadwch lygad ar eich e-byst ar ôl y ras.

Rasys iau

Mae ein rasys iau hefyd wedi newid ychydig ar gyfer eleni;

  • Bydd yr holl rasys iau (1k a 3k) yn dechrau o Faes Parcio Sketty Lane, ar yr amserau arferol (1k 7 oed ac iau 9.15am, 1k 8 – 11 oed 9.30am, 3km 10am)
  • Sylwer: ni fydd bysus gwennol i’r llinellau cychwyn eleni – dylech ystyried hyn wrth drefnu’ch cynlluniau teithio.
  • Mae’r llinell derfyn ar gyfer yr holl rasys iau yr un peth â’r blynyddoedd blaenorol (llinell derfyn y ras 10k, ger y senotaff ar y prom)

Mae cwrs y ras 3k ychydig yn wahanol eleni hefyd;

  • Mae’r ras yn dechrau ym maes parcio Sketty Lane;
  • bydd rhedwyr yn rhedeg i fyny’r prom i Brynmill Lane, ac yna’n ymuno â’r ffordd (a fydd ar gau) ac yn rhedeg tuag at ganol y ddinas cyn troi o gwmpas a rhedeg yn ôl i lawr i faes parcio Sketty.
  • Byddant yn ailymuno â’r prom wrth y maes parcio ac yn ei ddilyn hyd at y linell derfyn (bydd yr un llinell derfyn ar gyfer pob ras, ger y senotaff)

Edrychwch ar ôl eich hun a’r rheini o’ch cwmpas

Mae’n hanfodol nad ydych yn dod i’r ras os:

  • Ydych wedi cael prawf positif
  • Ydych yn hunanynysu
  • Oes gennych chi unrhyw un o’r symptomau COVID-19 nodweddiadol:
  • tymheredd uchel – mae hyn yn golygu bod eich brest yn teimlo’n boeth pan gaiff ei gyffwrdd, neu
  • beswch newydd, parhaus – mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 achlysur neu fwy o beswch mewn 24 awr neu
  • wedi colli synnwyr arogli neu flasu neu wedi profi newid iddynt – mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli neu flasu unrhyw beth, neu mae pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer

Rydym yn annog rhedwyr a gwylwyr i gymryd prawf LFT cyn iddynt gyrraedd ar y diwrnod. Nid yw brechiadau na phrofion LFT yn ofynnol ar gyfer y digwyddiad hwn

SUT I GAEL PRAWF LLIF UNFFORDD

  • Gallwch archebu profion llif unffordd yma
  • Gallwch ddod o hyd i fan casglu lleol yma
  • Gallwch ddod o hyd i fan casglu fferyllfa leol yma

Gwylwyr

Fel rhan o’r cynlluniau, mae 10k Bae Abertawe Admiral yn gofyn i’r gymuned leol, teuluoedd a ffrindiau ymddwyn yn gyfrifol os ydynt yn gwylio ac yn cefnogi eleni.

I helpu i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ar ddiwrnod y ras, gofynnir i breswylwyr a chefnogwyr osgoi sefyll ger y llinell gychwyn a’r llinell derfyn (fel arfer y mannau mwyaf poblogaidd), a sefyll ar wasgar ar hyd yr holl llwybr yn lle. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan bawb le i gadw pellter cymdeithasol a hefyd i barhau i gefnogi’r redwyr ar hyd yr holl lwybr.

Ar gyfer ein 40fed ras, bydd gennym hefyd 4 man cefnogi ar hyd y llwybr! Bydd yr ardaloedd hyn yn cynnwys cerddoriaeth, dawnswyr codi hwyl a mwy i helpu’n rhedwyr! Gallwch ddod o hyd i’r Mannau Cefnogi:

  • Ar waelod Brynmill Lane
  • Ar waelod Sketty Lane
  • Lido Blackpill
  • Norton

Noddir ein mannau cefnogi gan Sancta Maria

Map o’r cwrs

Gallwch weld ein map cwrs rhyngweithiol ar-lein neu gallwch glicio yma am fersiwn i’w lawrlwytho.

Caiff y dudalen hon ei diweddaru’n rheolaidd cyn gynted ag y caiff cynlluniau eu cadarnhau – bydd yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod cyn diwrnod y ras, gan sicrhau profiad difyr, hamddenol a diogel.

Rydym yn deall y gall fod gennych gwestiynau a phryderon ynghylch ras eleni, felly rydym wedi rhoi rhai cwestiynau cyffredin ynghyd isod. A chofiwch wirio’n Harweiniad i’r Ras i gael yr holl wybodaeth arferol am y ras gan gynnwys cwestiynau cyffredin, gwybodaeth am deithio a mwy.Oes gennych gwestiwn nad yw wedi cael ei ateb? E-bostiwch y tîm yn 10kbaeabertawe@abertawe.gov.uk

Ydy'r ras 10k yn dal i fynd yn ei flaen?

Ydy, mae 10k Bae Abertawe Admiral 2021 yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad ddydd Sul 19 Medi 2021, gan lynu wrth ganllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru ac Athletau Cymru.

Ydy'r llwybr yn wahanol eleni?

Bydd 10k Bae Abertawe Admiral 2021 yn dilyn yr un llwybr trawiadol ag arfer. Ond, bydd y broses gychwyn yn wahanol eleni, gydag ardal gychwyn fwy a mwy o amser a lle rhwng y rhedwyr. Bydd hyn i bob pwrpas yn gwasgaru'r rhedwyr o'r ardal gychwyn hyd at y llinell derfyn. Mae hyn yn cael ei ddatblygu o hyd a byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted ag y caiff ei gadarnhau - ond peidiwch â phoeni, caiff eich amser ei gofnodi o hyd a chewch fwy o le wrth redeg!

Ble byddai'n dechrau'r ras?

Mae un o’r newidiadau pwysicaf i fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ras eleni’n ymwneud â’r broses ddechrau. Yr amser dechrau fydd 11am.

  • Bydd ras 2021 yn dechrau unwaith eto ger Maes Rygbi a Chriced San Helen, ond bydd proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy i ganiatáu mwy o amser a lle rhwng rhedwyr. Bydd hyn i bob pwrpas yn gwasgaru’r rhedwyr o’r ardal gychwyn hyd at y diwedd.
  • Ewch i San Helen lle byddwch yn gallu mynd i mewn i’r safle o’r gorllewin (lleoliad what3words – mute.slows.trials) a’r dwyrain (caller.rocky.output).
  • Caiff rhedwyr eu galw ymlaen yn seiliedig ar amserau gorffen disgwyliedig, sy’n golygu y byddwch yn dechrau’r cwrs gyda rhedwyr o allu tebyg sydd ag amser gorffen targed tebyg.
Faint fydd yn rhedeg ar y diwrnod?

Rydym yn rhagweld y bydd bron 4,000 o redwyr yn rhedeg yn y 4 ras ar y dydd. Mae hyn yn llai na rasys blaenorol, gan ein bod wedi lleihau niferoedd i gynyddu'r lle sydd ar gael ar y cwrs.

Fydd gorsafoedd dŵr ar y llwybr o hyd?

NI fydd dŵr ar gael ar y marc 5km fel yn y blynyddoedd blaenorol. Cofiwch ystyried hyn wrth i chi baratoi ar gyfer y ras.

Fydd yn rhaid fy mod wedi cael brechiad neu brawf LFT?

Rydym yn annog rhedwyr a gwylwyr i gymryd prawf LFT cyn iddynt gyrraedd ar y diwrnod. Nid yw brechiadau na phrofion LFT yn ofynnol ar gyfer y digwyddiad hwn.

SUT I GAEL PRAWF LLIF UNFFORDD

  • Gallwch archebu profion llif unffordd yma
  • Gallwch ddod o hyd i fan casglu lleol yma
  • Gallwch ddod o hyd i fan casglu fferyllfa leol yma

Mae'n hanfodol nad ydych yn dod i'r ras os:

  • Ydych wedi cael prawf positif
  • Ydych yn hunanynysu
  • Oes gennych chi unrhyw un o'r symptomau COVID-19 nodweddiadol:
    • tymheredd uchel - mae hyn yn golygu bod eich brest yn teimlo'n boeth pan gaiff ei gyffwrdd, neu
    • beswch newydd, parhaus - mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 achlysur neu fwy o beswch mewn 24 awr neu
    • wedi colli synnwyr arogli neu flasu neu wedi profi newid iddynt - mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli neu flasu unrhyw beth, neu mae pethau'n arogli neu'n blasu'n wahanol i'r arfer
Beth am y rasys iau?

Mae ein rasys iau hefyd wedi newid ychydig ar gyfer eleni;

  • Bydd yr holl rasys iau (1k a 3k) yn dechrau o Faes Parcio Sketty Lane, ar yr amserau arferol (1k 7 oed ac iau 9.15am, 1k 8 – 11 oed 9.30am, 3km 10am)
  • Sylwer: ni fydd bysus gwennol i’r llinellau cychwyn eleni – dylech ystyried hyn wrth drefnu’ch cynlluniau teithio.
  • Mae’r llinell derfyn ar gyfer yr holl rasys iau yr un peth â’r blynyddoedd blaenorol (llinell derfyn y ras 10k, ger hen bont y slip ar y prom)

Mae cwrs y ras 3k ychydig yn wahanol eleni hefyd;

  • Mae’r ras yn dechrau ym maes parcio Sketty Lane;
  • bydd rhedwyr yn rhedeg i fyny’r prom i Brynmill Lane, ac yna’n ymuno â’r ffordd (a fydd ar gau) ac yn rhedeg tuag at ganol y ddinas cyn troi o gwmpas a rhedeg yn ôl i lawr i faes parcio Sketty.
  • Byddant yn ailymuno â’r prom wrth y maes parcio ac yn ei ddilyn hyd at y linell derfyn (bydd yr un llinell derfyn ar gyfer pob ras, ger y senotaff)
Fyddwn ni'n dal i gael medalau a chrysau T?

Peidiwch â phoeni, byddwch yn dal i gael eich medal a'ch crys T 10k Bae Abertawe Admiral! Mae dosbarthu medalau'r ras yn cael eu datblygu o hyd, a chewch wybod amdanynt cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau.

Gallwch gasglu'ch crys T o babell fawr yn y Rec. Gallwch gasglu crysau T ar ddydd Gwener 17 a dydd Sadwrn 18, a bydd angen eich taleb crys T o'ch pecyn ras. Bydd crysau-T hefyd ar gael ar ddiwrnod y ras ond rydym yn annog pawb i’w casglu ddydd Gwener a dydd Sadwrn lle bo hynny’n bosib.

  • Dydd Gwener 17 Medi: 12pm - 8pm
  • Dydd Sadwrn 18 Medi: 9am - 6pm
Fyddwn ni'n dal i gael pecynnau ras?

Byddwch - bydd pecynnau ras yn cael eu postio i bobl fel arfer a byddant yn cynnwys eich bib rasio, taleb am grys T (i'w chyflwyno wrth gasglu'ch crys T 10k) a gwybodaeth am ddiwrnod y ras.

Fydd fy ffrindiau a'm teulu'n dal i allu dod i'm cefnogi?

I helpu i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ar ddiwrnod y ras, gofynnir i breswylwyr a chefnogwyr osgoi sefyll ger y llinell gychwyn a'r llinell derfyn (fel arfer y mannau mwyaf poblogaidd), a sefyll ar wasgar ar hyd yr holl llwybr yn lle. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan bawb le i gadw pellter cymdeithasol a hefyd i barhau i gefnogi'r redwyr ar hyd yr holl lwybr.

Byddwn yn darparu nifer o orsafoedd cymeradwyo a bydd perfformwyr yn cerdded o gwmpas y lle ac ar hyd y llwybr, felly cadwch lygad ar y wefan am ddiweddariadau.

Ar gyfer ein 40fed ras, bydd gennym hefyd 4 man cefnogi ar hyd y llwybr! Bydd yr ardaloedd hyn yn cynnwys cerddoriaeth, dawnswyr codi hwyl a mwy i helpu’n rhedwyr! Gallwch ddod o hyd i’r Mannau Cefnogi:

  • Ar waelod Brynmill Lane
  • Ar waelod Sketty Lane
  • Lido Blackpill
  • Norton

Noddir ein mannau cefnogi gan Sancta Maria

Rwy'n nerfus am COVID, pa fesurau fydd ar waith?

Mae cynllun ac asesiad C19 cynhwysfawr yn cael eu datblygu, ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru ac Athletau Cymru, i liniaru yn erbyn COVID-19 yn 10k Bae Abertawe Admiral.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys:

  • Nifer is o redwyr, er mwyn rhoi mwy o le i bawb pan fyddant ar y cwrs.
  • Lleihau nifer yr ardaloedd ar y ffordd lle bydd rhedwyr yn closio at ei gilydd
  • Proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy, i ganiatáu mwy o le ac amser rhwng rhedwyr Bydd hyn yn helpu i wasgaru rhedwyr ar draws y cwrs o'r llinell gychwyn i'r llinell derfyn
  • Caniatáu cadw pellter cymdeithasol
  • Lleihau nifer y pwyntiau cyffwrdd ar y dydd
  • Annog cefnogwyr i fynd ar wasgar ar hyd y llwybr 10k cyfan, gan roi mwy o le i bawb
  • Cyfleusterau ar y safle'n cael eu glanhau'n amlach
  • Annog yr holl redwyr a gwylwyr i gymryd prawf LFT cyn iddynt gyrraedd ar ddiwrnod y ras
Fydda i'n dal i allu storio fy magiau?

Yn anffodus, ni fydd man storio bagiau eleni.

Dwi ddim yn gyfforddus am redeg eleni.

Yn anffodus, yn unol â'n hamodau a thelerau, nid ydym yn cynnig ad-daliadau neu ohiriadau a'r dyddiad cau ar gyfer trosglwyddiadau oedd dydd Sadwrn 31 Gorffennaf.

Rwyf wedi cael prawf COVID positif/wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sy'n bositif a dwi ddim yn gallu rasio, beth sy'n digwydd i'm cofrestriad?

Yn anffodus, yn unol â'n hamodau a thelerau, nid ydym yn cynnig ad-daliadau neu ohiriadau a'r dyddiad cau ar gyfer trosglwyddiadau oedd dydd Sadwrn 31 Gorffennaf.

Rwy'n gobeithio ennill, a fydd tlws yn cael ei chyflwyno?

Bydd tlysau ar gyfer enillwyr categorïau ond ni fydd y tlysau'n cael eu cyflwyno'n gyhoeddus.

A fydd unrhyw ffyrdd ar gau?

Bydd y brif ras 10k yn dechrau o Faes Rygbi San Helen am 11am a bydd yn dilyn gorllewin Mumbles Road i Sgwâr Ystumllwynarth lle bydd hi’n troi ac yn dychwelyd ar hyd promenâd y blaendraeth.

Bydd y ffyrdd ar gau a’r dargyfeiriadau ar waith o:

09.30am tan 1.30pm

  • Bydd Mumbles Road ar gau rhwng Guildhall Road South a Sketty Lane.
  • Bydd Brynmill Lane ar gau rhwng Mumbles Road a Bryn Road, oni bai am fynediad o gyfeiriad y de i'r Rec oddi ar Brynmill Lane ar gyfer parcio (yn ddibynnol ar argaeledd ar y diwrnod).

10.30am tan 1.30pm

  • Troi i'r dde yn unig o Sketty Lane i Mumbles Road.
  • Sketty Lane ar gau i gyfeiriad y de. Caiff mynediad i Ysbyty Singleton a Phwll Cenedlaethol Cymru ei gynnal.
  • Bydd Mymbles Road ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Sketty Lane a Mayals Road. Troi i'r chwith yn unig (tuag at ganol y ddinas) o Ashleigh Road, Derwen Fawr Road, Mill Lane a Mayals Road.
  • Mumbles Road ar gau rhwng Mayals Road a Fairwood Road.
  • Mumbles Road ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Fairwood Road a Newton Road. Troi i'r chwith yn unig tuag at ganol y ddinas o Alderwood Road, Bethany Lane, Palmyra Court, Norton Avenue a Newton Road.

Er diogelwch pawb, ni fydd preswylwyr Mumbles Road yn gallu cael mynediad i rannau o’r ffordd hon rhwng tua 10.30pm a 1.30pm. Caiff y ffyrdd eu cau ar raglen dreigl a chânt eu hailagor cyn gynted ag yr ystyrir ei bod hi’n ddiogel gwneud hynny. Bydd mynediad i gerbydau argyfwng drwy’r amser.

Cofrestrais i ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral 2020 - ydw i wedi fy nghofrestru yn ras 2021?

Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer digwyddiad 2020, byddai eich cofrestriad wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i ddigwyddiad 2021.

Recent News

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Erthyglau ddiweddar

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Copyright © 2023 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT