Gellir cofrestru ar gyfer 2023 nawr!
Mae hon yn ras wych ar gyfer rhedwyr iau yn y grŵp oedran 9-14 oed, am bellter o 3k. Mae’n cynnig her mewn cystadleuaeth gymysg ac mae’n ras wych ar gyfer adeiladu at bellterau hirach, ond yn fwy pwysig na dim, mae’n hwyl! Gellir gweld manylion llawn y ras yn y tabl isod.
Mae ein Rasys Iau wir yn gyflwyniad perffaith – yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2017, cawsom ein henwi’n Ddigwyddiad Plant Gorau’r DU!
Bydd y ras iau 3k yn dechrau ym maes parcio Sketty Lane, ac yn mynd ar hyd y Prom i Brynmill Lane, yn troi i’r chwith ar Mumbles Road ac yn mynd tuag at y Mwmbwls. Yna, bydd angen troi i’r chwith a dychwelyd i faes parcio Sketty Lane, yna rhedeg ar hyd y Prom i Brynmill Lane cyn troi i’r dde ar Mumbles Road a gorffen ar llinell gychwyn/derfyn y ras 10. Rhagor o wybodaeth.
Gellir cofrestru ar gyfer 2023 nawr
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad: 17 Medi 2023
- Amser: 10am
- Arwyneb: Ffordd
- Proffil: Fflat
- Traffig: Dim traffig
- Pellter: 3k
- Marcwyr Pellter: bob 1k
- Gorsafoedd Dŵr: Oes, ar y diwedd
- Cyfleusterau’r Lleoliad: Parcio am ddim, Cymorth cyntaf, Toiledau, Adloniant
- Y nifer a gofrestrodd y llynedd: 600
- Gwobrau: Oes
- Cofrestru ar y dydd: Na
- Adelodau: £10*
*Daw’r cyfle i gofrestru am bris is i ben ar 8 Ionawr
Gellir cofrestru ar gyfer 2023 nawr
Prynu cofrestriad ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral
Yr anrheg berffaith ar gyfer y rhedwr yn eich bywyd!
Prynwch gofrestriad ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral 2023 i’ch ffrindiau neu eich anwyliaid.
Caiff y cofrestriad ei anfon atoch ar ffurf côd gostyngiad unigryw. Byddwch wedyn yn gallu ei rannu â’r derbynnydd o’ch dewis. Mae’r côd yn caniatáu iddo gofrestru ar gyfer y digwyddiad, trwy’r broses gofrestru ar-lein, heb fod angen unrhyw daliad ychwanegol. Ar gau.
Eich proffil Members Hub
Angen newid eich manylion? Methu cofio a ydych wedi cofrestru neu beidio? Peidiwch â phoeni, mewngofnodwch i’ch proffil Members Hub ar RealBuzz a gallwch wirio unrhyw beth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich cais Ras 10k Bae Abertawe Admiral.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau Arbennig drwy ffonio: 01792 635428 yn ystod y dydd neu e-bostio 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk