Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Home
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
      • 3k Race
    • Wheelchair race
    • Mascot Race
  • Results
    • Race Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Course Map
    • Race Guide
    • Travel and Parking
    • First Timers
    • Race Rules – T&Cs
    • Volunteers
    • Run for Charity
    • Running Clubs
  • Partners and Sponsors
  • News

Newidiadau

August 27, 2013 By Chris Williams

Mae mis Mawrth wedi troi’n fis Ebrill a chyda rhai teithiau rhedeg pellach wedi’u cwblhau, rwyf wedi penderfynu peidio â chyfrif fy nheithiau rhedeg oherwydd y gobaith yw y byddaf yn gwneud gormod i gyfrif erbyn i’r 10k gyrraedd (o bosib!) Profiad newydd unwaith eto, yn rhedeg ar ôl noson hwyr (mae canol nos yn anarferol iawn gyda 2 blentyn dan 5 oed) nos Sadwrn gyda’m gŵr a ffrindiau ac yn teimlo ychydig yn sâl fore Sul.  Nid oeddwn wedi mynd i redeg nes y prynhawn ac es i’n gynt nag arfer – gyda’m het bêl-fas a’m top rhedeg llewychol wrth gwrs!  Roedd y llais Americanaidd yn dweud wrthyf pa mor bell roeddwn wedi rhedeg.  Yr un llwybr eto – nawr rwyf wedi diflasu’n llwyr ar y golygfeydd (nid golygfeydd mewn gwirionedd – dim ond traffig a thai)L felly bydd angen i mi newid fy llwybr y tro nesaf yn sicr.

Popeth yn iawn y tro hwn, roeddwn yn teimlo’n iawn ac roeddwn yn gynt (yn bennaf oherwydd fy mod wedi diflasu ar y llwybr) a llwyddais i gyflymu o funud!  Hwre!  Rhedais 2.6 milltir mewn 26 munud – llawenydd.  Roeddwn yn haeddu fy nghinio rhost y noson honno! Rwy’n bwriadu rhedeg ar hyd y traeth y tro nesaf i weld pa mor bell gallaf fynd – gan anelu at 5k.

Filed Under: Uncategorized @cy

Gwobrwyo gwelliant trwy siocled

August 27, 2013 By Chris Williams

Woohoo!  Sul y Pasg (gwallgofrwydd llwyr ond roedd yn rhaid i mi losgi calorïau’r wyau Pasg rhywsut) 9.30am, 1 gradd uwchlaw’r rhewbwynt a’r gwynt yn aeafol. Dylai’r tywydd yma fod ym mis Mawrth! Ond roedd yn ddiwrnod hyfryd a dechreuais redeg ar y llwybr 10k.  Gyda menig y tro hwn – rhai streipïog 2-3 oed – diolch blant!

Siaradodd y person Americanaidd ar yr app Nike yn fwy y tro hwn, gan ddweud milltir, 2 filltir a 2 filltir a hanner a 3 milltir.  Roeddwn wedi synnu ar ôl milltir fy mod wedi rhedeg milltir (llawenydd) ac roedd hi’n anodd iawn peidio â mwynhau rhedeg ar lan y môr (oni bai am y don fawr ddaeth dros y wal.  Yn ffodus, nid oedd unrhyw un wedi fy ngweld!)

Y canlyniad oedd 38 munud a 5k / 3.67 milltir – Hwre!  Dim ond 3 milltir i fynd cyn i mi gyrraedd 10k/6milltir ac yna bydd yn rhaid gweithio ar yr amser.  Rhaid i mi redeg 5 milltir y tro nesaf i weld a fyddaf yn llwyddo.  Es i adref yn hapus i fwyta fy mhwysau mewn siocled. 🙂

Filed Under: Uncategorized @cy

Ar y trywydd iawn

August 27, 2013 By Chris Williams

Es i ar fy nhaith redeg nesaf neithiwr ar ôl seibiant o bythefnos (roedd penwythnos i ffwrdd a haint ar y fron yn llythrennol wedi fy atal rhag rhedeg.)  Bellach mae’n fis Mawrth ac nid wyf yn rhedeg gyda’r nos fel arfer ond rhaid i chi ddychwelyd i’ch esgidiau ymarfer cyn gynted â phosib ar ôl cyfnod o beidio â rhedeg (o leiaf dyna beth wedais i wrtha i fy hun) ac roedd hi’n noson hyfryd – yn gynnes ac yn heulog, sy’n dywydd arferol ym mis Mawrth.

Roedd hi’n iawn, roedd pobl yn gallu fy ngweld yn fy nhop rhedeg llewychol (roeddwn ar y palmant ond…byddwch ddisglair, byddwch ddiogel) ond hanner ffordd trwy fy nhaith redeg, bu farw’r batri ar fy ffôn ac roedd yn rhaid i mi wrando ar fy anadlu yn hytrach na’r app gyda’r llais Americanaidd yn fy annog ac yn dweud wrthyf pa mor bell roeddwn wedi rhedeg felly nid oedd hynny’n llawer o hwyl.  Roeddwn wedi cwblhau fy nhaith redeg mewn hanner awr y tro hwn, felly ychydig yn gynt. 🙂

Es i ar yr un llwybr ag o’r blaen, yn bennaf i weld a allaf redeg ychydig yn gynt ond nid wyf yn siŵr a oeddwn wedi gwneud hynny.  Nid oeddwn wedi mwynhau cymaint y tro hwn a bellach mae gennyf ewin bys troed tost (braidd yn rhyfedd, efallai ei fod yn amser cael esgidiau newydd) ond rwy’n falch fy mod wedi gallu rhedeg heb stopio eto.  Byddaf yn mynd ar fy nhaith redeg nesaf ar ddiwedd yr wythnos ac rwy’n meddwl am redeg ar lwybr newydd i weld a ydw i’n gwella.

Filed Under: Uncategorized @cy

Rhedeg yn y glaw

August 27, 2013 By Chris Williams

Mis Chwefror o hyd… Roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn, roedd fy ngŵr yn y gwaith ac roedd y plant allan am ginio, felly dyma oedd y cyfle perffaith i mi fynd am fy nhaith redeg wythnosol (mae’r cyfleoedd hyn i fod ar fy mhen fy hun yn rhai prin ac fel arfer ni fyddwn yn rhedeg, bwyta siocled ac ymlacio rwy’n ei wneud fel arfer,  neu hyd yn oed edrych o amgylch y siopau.)  [Read more…]

Filed Under: Uncategorized @cy

Fy mlog rhedeg

August 27, 2013 By Chris Williams

Rwy’n 37 oed, yn fam i ddau o blant dan 5 oed, mae gen i dŷ, morgais a chi, rwy’n gweithio rhan-amser (4 diwrnod) ac yn mynd i ddosbarth hyfforddi ysbeidiol ac ambell ddosbarth troelli. Ond eleni, mae rhai o’m ffrindiau wedi dechrau rhedeg ac felly rwy’n mynd i ymuno â hwy! Fel dechreuwr, mae’n her rhedeg 1k heb sôn am 10k ond dyna’r nod. Mae Ras 10k Bae Abertawe’n ffordd hir eek! [Read more…]

Filed Under: Uncategorized @cy

  • « Previous Page
  • 1
  • …
  • 20
  • 21
  • 22

Recent News

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Erthyglau ddiweddar

  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update
  • Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!

Copyright © 2023 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT