Rhedwyr gosod cyflymder yn barod i helpu rhedwyr y 10k i guro eu hamserau gorau
Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral ar y gorwel a gall y rhedwyr sydd am gyflawni amser penodol wneud hynny gyda chymorth rhedwr gosod cyflymder.
Rhedwyr profiadol sydd wedi’u hyfforddi i helpu raswyr i gyflawni eu hamser gorffen targed yw rhedwyr gosod cyflymder. Mae llawer o rasys, gan gynnwys marathonau, yn aml yn cynnwys rhedwyr gosod cyflymder, sy’n cynorthwyo rhedwyr eraill i gynnal cyflymder cyson drwy’r ras.
Yn ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni, bydd 4 rhedwr gosod cyflymder ar gyfer amserau gorffen o 40 munud, 45 munud, 50 munud ac awr.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Gyda’i llwybr gwastad a godidog, mae 10k Bae Abertawe Admiral yn cynnig cyfle gwych i guro eich amser gorau, ac mae’r rhedwyr gosod cyflymder profiadol, sy’n wirfoddolwyr, yn ffordd ardderchog o helpu rhedwyr i gyflawni eu nodau personol.
“Gan fod pob lle ar gyfer y ras wedi’i lenwi, mae’r cyffro’n dechrau cynyddu ar gyfer y digwyddiad, a fydd eto’n denu miloedd o bobl. Mae’r ras wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu ym 1981 i fod yn un o’r gorau o’i bath yn y DU ac mae ei lleoliad ar hyd y bae’n berffaith ar gyfer rhedwyr a gwylwyr.
“Mae chwaraeon yn rhan sylweddol o ddiwylliant y DU, gyda digwyddiadau ledled y wlad yn denu llawer o gyfranogwyr a gwylwyr. Disgwylir miloedd o redwyr a gwylwyr ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni, sy’n arwydd clir pam mae Abertawe wedi cyflwyno cais am deitl Dinas Diwylliant y DU 2021.”
Cynhelir y ras ddydd Sul, 24 Medi; yn ogystal â’r prif ddigwyddiad, sef y 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k, a ras gadair olwyn 10k. Cynhelir sbrint blynyddol y masgotiaid dros 100 metr ychydig ar ôl y ras 10k, o’r tu allan i faes San Helen. Croesewir gwylwyr o 10am.