Admiral Swansea Bay 10K

Admiral Swansea Bay 10k

  • Home
  • Races
    • 10k Race
    • Junior Races
      • 1k Race
      • 3k Race
    • Wheelchair race
    • Mascot Race
  • Results
    • Race Results
    • Historic Results
    • Race History
  • Event info
    • Course Map
    • Race Guide
    • Travel and Parking
    • First Timers
    • Race Rules – T&Cs
    • Volunteers
    • Run for Charity
    • Running Clubs
  • Partners and Sponsors
  • News

Give it a go! Entries open for 2023 Admiral Swansea Bay 10k

February 7, 2023 By Chris Williams

New entrants – along with existing runners – are being invited to get their entries in for the 2023 Admiral Swansea Bay 10k.

Organisers Swansea Council have already started putting up new-look banners with “Give it a go!” messages around the city.

The event will take place on Sunday, September 17.

It’ll be the 17th event that Admiral has sponsored, which, as well as the 10k, offers 1k and 3k junior fun runs, along with a 10k wheelchair race and a mascot race.

Council cabinet member Robert Francis-Davies said: “Thousands of people see their friends run the 10k, cheer them on at the event and then wish they’d given it a go too. It’d be great for those people to sign up this year and they still have more than seven months to train.

“We’ve had an excellent response to our early bird offer and we are expecting demand for places to be as high as usual.”

Rhian Langham, Head of People at Admiral, said, “We’re excited to be sponsoring the Admiral Swansea Bay 10k once again this year, with last year bringing thousands of people together to achieve their goals and cheer their loved ones on.”

Book your place on the 2023 start line here

Filed Under: News

Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral 2022!

January 11, 2022 By Chris Williams

Mae Cyngor Abertawe’n trefnu digwyddiad eleni ar gyfer ddydd Sul 18 Medi. Mae cynnig pris cofrestru cynnar ar gael tan 31 Ionawr.

Roedd digwyddiad y llynedd yn nodi’r 40fed tro i’r ras boblogaidd hon sydd bob amser yn cynnig cwrs arfordirol gwastad a hynod olygfaol gael ei chynnal.

Mae’r digwyddiad wedi ennill gwobrau’n rheolaidd ac mae’r cyngor am iddo barhau fel digwyddiad o safon, gan ddenu rhedwyr o bob oedran a gallu.

Sefydlodd Cyngor Abertawe’r ras ym 1981 ac maent wedi parhau i’w threfnu ers hynny – gan ei chynnwys yn rhaglen ddigwyddiadau flynyddol y ddinas.

Yr haf hwn fydd y 16eg achlysur hefyd i gwmni Admiral noddi’r digwyddiad, sydd yn ogystal â’r 10k yn cynnig rasys hwyl iau 1K a 3K, ynghyd â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn a ras masgotiaid.

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, “Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn ddigwyddiad nodedig yn y calendr rhedeg ac mae’n denu cyfranogwyr o bob cwr o’r DU.

“Mae’n nodwedd boblogaidd iawn o galendr digwyddiadau blynyddol Abertawe; mae’n wych ar gyfer athletwyr ar lefel elît, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a’r rheini sy’n ceisio curo’u hamser gorau neu drechu’u nodau ffitrwydd.

“Mae cefndir anhygoel Bae Abertawe a’r cwrs gwastad yn golygu ei fod yn ddigwyddiad o’r radd flaenaf. “Roedd ras arbennig y llynedd i ddathlu’r 40fed ras yn llwyddiant enfawr – ac rydym yn hyderus y bydd digwyddiad 2022 yn llwyddiant hefyd.

“Rydym yn rhagweld bydd y galw am leoedd yn uchel unwaith eto eleni. Byddem felly’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael ei siomi oherwydd unwaith y bydd y lleoedd ar gyfer y ras wedi’u llenwi, ni fydd rhagor ar gael!”

Meddai Rhian Langham, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Admiral, “Rydym wrth ein boddau ein bod yn parhau i noddi ras 10k Bae Abertawe Admiral a’r rasys hwyl am y 16fed blwyddyn.

“Mae cefnogi digwyddiadau yn ein cymuned leol yn rhan fawr o ddiwylliant Admiral felly mae’n wych bod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn, yn enwedig ar ôl blwyddyn anodd.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i’r holl redwyr.”

Bydd Tîm Digwyddiadau’r cyngor yn parhau i fonitro sefyllfa’r pandemig. Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral dim ond os yw’n dilyn holl reoliadau a chanllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athletau’r DU.

Caiff cynlluniau eu hadolygu wrth i unrhyw ganllawiau newydd gael eu cyhoeddi a gall hyn gynnwys newidiadau a mesurau ychwanegol i sicrhau bod digwyddiad 2022 yn ddiogel i bawb a fydd yn cymryd rhan, gan gynnwys y gymuned leol ehangach.

Roedd tua 4,000 o redwyr wedi cymryd rhan yn y ras y llynedd, gan redeg rhwng San Helen a’r Mwmbwls. Dyma’r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg 2019.

I gadw’ch lle ar linell gychwyn ras 2022 ac i fanteisio ar y cynnig cynnar

Filed Under: Blog, News

Rhedwyr a chefnogwyr ar lan môr Abertawe ar gyfer ras 10k flynyddol lwyddiannus

September 21, 2021 By Chris Williams

Roedd rhedwyr a gwylwyr ar strydoedd Abertawe heddiw (ddydd Sul) ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral – oedd â thema liwgar yr 1980au.

Roedd tua 4,000 o redwyr wedi cymryd rhan yn un o’r digwyddiadau gorau o’i fath yn y DU. Dyma’r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg 2019.

Yn ogystal â phrif ddigwyddiad y 10k, hefyd cynhaliwyd rasys iau 1k a 3k i blant a ras cadair olwyn 10k.

Cynhaliwyd y 40fed ras flynyddol rhwng San Helen a’r Mwmbwls, a chan mai’r thema oedd yr 80au, cafwyd gwisgoedd ffansi a hwyl o’r cyfnod hwnnw ar y dydd.

Roedd rhai agweddau ar y digwyddiad yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol oherwydd y mesurau yr oedd y trefnwyr, Cyngor Abertawe, wedi’u rhoi ar waith o ystyried y ffaith bod COVID-19 yn dal i fod gyda ni ac i helpu i leihau ymlediad y feirws ymhlith pawb a oedd yn rhan o’r digwyddiad.

Roedd y newidiadau’n cynnwys nifer is o gyfranogwyr, llai o ardaloedd lle byddai rhedwyr yn closio at ei gilydd a mesurau fel dechrau’r ras ar adegau gwahanol.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn rhan allweddol o galendr digwyddiadau Abertawe felly roedd yn dda ei gweld yn ôl.

“Roedd miloedd o bobl wedi mwynhau’r awyrgylch ac wedi cael ychydig oriau mas rhagorol. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i’w cadw’n ddiogel a diolchwn i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at wneud y digwyddiad yn llwyddiant. A gallwn ddweud yn awr ein bod yn bwriadu’i chynnal eto’r flwyddyn nesaf ar 18 Medi, felly dylai pob rhedwr brwd nodi’r dyddiad yn ei ddyddiadur.”

Hwn oedd y 15fed tro i Admiral noddi’r digwyddiad.

Bydd holl ganlyniadau’r rasys ar gael i’w gweld ar-lein.

Bydd ffotograffau swyddogol o’r rasys ar gael yr wythnos hon ganphoto-fit.net, ffotograffydd swyddogol ras 10K Bae Abertawe Admiral.

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau y cynhelir 10k Bae Abertawe Admiral 2022 ddydd Sul 18 Medi.

Filed Under: News

Gallwch gyflwyno cais yn awr ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral 2021!

June 17, 2021 By Chris Williams

Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema’r 80au.

Yn dilyn y cyhoeddiad mwyaf diweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch digwyddiadau awyr agored, mae Cyngor Abertawe yn falch o allu parhau i gynllunio ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni a gynhelir ddydd Sul 19 Medi.

Fel yr holl ddigwyddiadau rhedeg yng Nghymru, gohiriwyd ras y llynedd o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae digwyddiad eleni’n mynd i fod yn un arbennig iawn gan y bydd yn nodi’r 40fed tro i’r ras boblogaidd hon ar hyd cwrs gwastad a hynod olygfaol gael ei chynnal.

Ers ei ddechreuad ym 1981, mae’r digwyddiad wedi ennill gwobrau niferus yn gyson, ac mae Cyngor Abertawe yn cynllunio i ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn. Bydd digwyddiad eleni’n ymwneud â dathlu’r 40fed ras a degawd bythgofiadwy’r 1980au – meddyliwch am gynheswyr coesau, bandiau chwys, gwallt mawr a lliwiau llachar!

Os ydych chi’n ystyried dechrau rhedeg ffordd unwaith eto, neu os ydych chi a’ch ffrindiau am redeg yn gwisgo gwisg ffansi, ymunwch â’r hwyl a chofrestrwch ar-lein heddiw. Cofiwch wrando ar faledi pwerus yr 80au wrth i chi hyfforddi!

P’un a’i hon yw eich ras 10k Bae Abertawe gyntaf neu’ch 40fed tro, edrychwn ymlaen at eich gweld wrth y llinell gychwyn.

Mwy o wybodaeth a cofrestrwch ar-lein

Sicrhawyd lleoedd i’r rheini a gofrestrodd ar gyfer digwyddiad 2020 yn awtomatig ar gyfer digwyddiad dathliadol eleni.


Cofrestrwch gyda hyder

Bydd Tîm Digwyddiadau’r cyngor yn parhau i fonitro sefyllfa’r pandemig yn agos. Cynhelir y ras yn unol â rheoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athletau’r DU sy’n berthnasol ar y pryd. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu a’u hadolygu wrth i wybodaeth a chanllawiau newydd gael eu cyhoeddi a gallai hyn gynnwys newidiadau a mesurau ychwanegol i sicrhau bod y digwyddiad yn ddiogel i bawb a fydd yn cymryd rhan, gan gynnwys y gymuned leol ehangach.

Bydd yr holl randdeiliaid, swyddogion, gwirfoddolwyr a chyflenwyr perthnasol y digwyddiad, h.y. pawb sy’n cymryd rhan, yn ymrwymedig i gynnal digwyddiad diogel o ran COVID-19 yn unol â’r rheoliadau perthnasol ar y pryd. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i sicrhau ei fod yn ddigwyddiad diogel a llwyddiannus.


Cychwynnwyd y ras gan Gyngor Abertawe ym 1981 ac mae wedi parhau i’w threfnu ers hynny – gan sicrhau ei bod wedi’i gwreiddio’n gadarn yn rhaglen ddigwyddiadau flynyddol Abertawe. Dyma fydd y 15fed achlysur hefyd i gwmni Admiral noddi’r digwyddiad, sydd yn ogystal â’r 10k yn cynnig rasys hwyl iau 1K a 3K, ynghyd â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn a ras masgotiaid.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn ddigwyddiad gwych i athletwyr elît, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a’r rheini sy’n ceisio curo’u hamser gorau neu drechu nodau ffitrwydd.

“Mae’r digwyddiad hwn a gynhelir ar gwrs gwastad a chyda bae hyfryd Abertawe yn gefndir iddo, yn un nodedig yn y calendr rhedeg ac mae’n denu cyfranogwyr o bob cwr o’r DU. Mae’n nodwedd boblogaidd iawn o galendr digwyddiadau blynyddol Abertawe.

“O gofio bod cynifer o rasys wedi’u canslo dros y flwyddyn a hanner diwethaf, ac mai dyma’n 40fed digwyddiad, rydym yn rhagweld y bydd y galw am leoedd yn uchel. Byddem felly’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael ei siomi oherwydd unwaith y bydd y lleoedd ar gyfer y ras wedi’u llenwi, ni fydd rhagor ar gael!”

Meddai Rhian Langham, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Admiral, “Rydym yn falch o barhau i noddi ras 10k a rasys hwyl Bae Abertawe Admiral am y 15fed flwyddyn. Mae cefnogi diwyddiadau yn ein cymuned leol yn rhan fawr o’n diwylliant yma yn Admiral felly mae’n wych bod yn rhan o ddigwyddiad fel hyn, yn enwedig ar ôl blwyddyn heriol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn, ar ran pawb yn Admiral, i ddymuno pob lwc i’r holl redwyr.”

Filed Under: Blog, News

Pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe’n 40 oed wedi’i gohirio nes haf 2021

June 15, 2020 By Chris Williams

Oherwydd y sefyllfa barhaus, mae’n flin gennym gyhoeddi bod ras 10k Bae Abertawe Admiral 2020, a fyddai hefyd wedi dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, wedi’i gohirio tan 19 Medi 2021. 

Mae Tîm Digwyddiadau’r Cyngor wedi bod yn monitro sefyllfa’r pandemig ynghyd â’r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn agos.

Er bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio’n raddol, mae bellach yn glir nad oes unrhyw sôn y bydd digwyddiadau prysur o’r natur hon yn cael eu caniatáu mewn pryd i allu cynnal y digwyddiad hwn yn ddiogel ym mis Medi.

Byddai cynnal y digwyddiad eleni wedi peryglu lledaeniad y feirws a rhoi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys, y gwirfoddolwyr a’r rheini sy’n rhoi cefnogaeth feddygol. Mae diogelwch ein cyfranogwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein partneriaid, ein gwylwyr a’n gwasanaethau brys yn flaenoriaeth.


Beth ydw i’n ei wneud nawr?

Ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf, mae trosglwyddiad awtomatig am ddim i ras 2021 sy’n dathlu 40 mlynedd. Does dim rhaid i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer 2020 wneud unrhyw beth – caiff eu manylion eu trosglwyddo a byddant yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad dathliadol 2021 wrth i’r cynlluniau ddatblygu.

Gall y rheini na allant fod yn bresennol ar y dyddiad newydd drosglwyddo eu tocyn mynediad i redwr arall am ddim trwy ddefnyddio’r Member’s Hub ar RealBuzz hyd at ddydd Sul, 20 Medi eleni. Mae nifer o opsiynau ar gael i chi – Gwiriwch ein cwestiynau cyffredin ar-lein ynghylch cymryd rhan yn y ras ac i gael rhagor o wybodaeth.


Cwestiynau Cyffredin

Pam y bu'n rhaid gohirio/canslo Ras 10k Bae Abertawe Admiral ar gyfer 2020?

Mae Tîm Digwyddiadau'r cyngor wedi bod yn monitro sefyllfa'r pandemig yn agos, yn ogystal â'r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Er bod y cyfyngiadau'n cael eu llacio'n raddol, mae bellach yn glir nad oes unrhyw sôn y bydd digwyddiadau prysur o'r natur hon yn cael eu caniatáu mewn pryd i allu cynnal y digwyddiad hwn yn ddiogel ym mis Medi.

Byddai cynnal y digwyddiad eleni wedi peryglu lledaeniad y feirws ac wedi rhoi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys, y gwirfoddolwyr a'r rheini sy'n rhoi cefnogaeth feddygol. Mae diogelwch ein cyfranogwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein partneriaid, ein gwylwyr a’n gwasanaethau brys yn flaenoriaeth.

Beth yw dyddiad newydd y ras?

Bydd y digwyddiad i nodi pen-blwydd Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn 40 oed bellach yn cael ei gynnal ddydd Sul 19 Medi 2021.

Ydy'r digwyddiad hwn yn cynnwys holl rasys 10k Bae Abertawe Admiral? (rasys iau 1k a 3k, ras mewn cadair olwyn a ras y masgotiaid)

Mae'r uchod yn cyfeirio at bob un o rasys 10k Bae Abertawe Admiral. Bydd pob ras 10k Bae Abertawe Admiral bellach yn cael ei chynnal ar 19 Medi 2021.

Rwyf eisoes wedi cofrestru a hoffwn gymryd rhan o hyd, beth sydd angen i mi ei wneud nawr?

Nid oes angen i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer ras 2020 wneud unrhyw beth - trosglwyddwyd eu manylion yn awtomatig ar gyfer ras 2021. Rhoddir y newyddion diweddaraf ynghylch digwyddiad dathliadol 2021 i redwyr wrth i'n cynlluniau ddatblygu.

Rwyf eisoes wedi cofrestru ond nid wyf ar gael ar y dyddiad newydd - oes modd i fi drosglwyddo fy lle i rywun arall?

Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd.

Gallwch drosglwyddo'ch lle am ddim i rywun arall drwy'r member's hub yn RealBuzz.

Ceir cyfarwyddiadau hawdd eu dilyn ar sut i drosglwyddo'ch lle i redwr arall YMA

Rhaid gwneud yr holl drosglwyddiadau am ddim o unigolyn i unigolyn cyn dydd Sul 20 Medi 2020.

Gallwch barhau i drosglwyddo'ch lle ar ôl y dyddiad hwn, fodd bynnag o 20 Medi codir ffi fach am drosglwyddo. Y dyddiad cau terfynol ar gyfer trosglwyddo'ch lle yn ras 2021 i rywun arall yw 1 Gorffennaf 2021.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, efallai y gallech gofrestru unwaith eto'n hwyrach yn y flwyddyn, ond bydd hyn yn amodol ar argaeledd a phrisiau cofrestru ar y pryd.

Rwyf wedi cofrestru ond ni fyddaf ar gael ar y dyddiad newydd - ga i ad-daliad?

Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd.

Gallwch ofyn am ad-daliad hyd at ddydd Sul 20 Medi 2020 drwy e-bostio 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk.

Yn eich e-bost, nodwch y canlynol:

  • ‘Admiral Swansea Bay 10k – REFUND’ fel testun yr e-bost.
  • Yr enw llawn a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru ar gyfer y ras yn wreiddiol.
  • Y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru'n wreiddiol
  • Enwau'r holl bobl rydych wedi eu cofrestru ar gyfer y ras ac wedi talu amdanynt. Sylwer - ni allwn gynnig ad-daliadau rhannol felly os ydych wedi prynu lle ar gyfer 4 person, bydd rhaid i ni ad-dalu'r 4 lle.
  • Os nad oes gennych y cerdyn talu gwreiddiol mwyach, rhowch wybod i ni. Bydd angen i ni gysylltu â chi ar wahân i drafod hwn.
  • Peidiwch â chynnwys manylion eich cerdyn yn yr e-bost.

Y dyddiad cau terfynol ar gyfer holl ad-daliadau ras 2020 yw 20 Medi 2020. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi.

Gall ad-daliadau gymryd hyd at 20 niwrnod gwaith - bydd RealBuzz yn ad-dalu'r cerdyn a ddefnyddiwyd gennych yn wreiddiol. Os nad ydych wedi derbyn ad-daliad o fewn 25 niwrnod gwaith, e-bostiwch helpdesk@realbuzz.com.

Caiff ad-daliadau eu gwneud i'r cerdyn a ddefnyddiwyd i dalu'n wreiddiol. Os nad oes gennych y cerdyn gwreiddiol mwyach, nodwch hyn yn eich e-bost sy'n gofyn am ad-daliad gan y bydd angen i ni ddilyn proses wahanol - byddwn yn cysylltu â chi ar wahân i drafod hyn.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid efallai y gallwch gofrestru i gymryd rhan yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn amodol ar argaeledd a phrisiau cymryd rhan ar y pryd hwnnw.

Rwyf wedi cofrestru i gymryd rhan ond ni fyddaf ar gael ar y dyddiad newydd - allai ohirio fy lle?

Mae'n flin gennym glywed na fyddwch ar gael ar y dyddiad newydd yn 2021. Yn anffodus, ni allwn ohirio'ch lle ar gyfer ras yn y dyfodol gan fod y ras yn cael ei chynnal o hyd, ond ar ddyddiad newydd.

Gallwch drosglwyddo'ch lle yn y ras i rywun arall, am ddim, drwy'r member's hub yn RealBuzz hyd at ddydd Sul 20 Medi 2020.

Rhaid gwneud yr holl drosglwyddiadau am ddim o unigolyn i unigolyn cyn dydd Sul 20 Medi 2020.

Y dyddiad cau terfynol ar gyfer trosglwyddo'ch lle yn ras 2021 i rywun arall yw 1 Gorffennaf 2021.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid efallai y gallwch gofrestru i gymryd rhan yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn amodol ar argaeledd a phrisiau cymryd rhan ar y pryd.

Nid wyf wedi cofrestru i gymryd rhan eto, ond hoffwn wneud hynny - allai gofrestru o hyd? A phryd gallaf wneud hynny?

Gallwch gofrestru o hyd i gymryd rhan yn ras 2021! Mae peth gwaith gennym i'w wneud er mwyn diweddaru'r gwefannau, ac rydym yn gobeithio cynnig rhagor o leoedd dros yr ychydig wythnosau nesaf. Gwiriwch ein tudalen Facebook i gael y newyddion diweddaraf am ddyddiadau cofrestru.

A fydd holl rasys 10k Bae Abertawe Admiral yn cael eu trosglwyddo? (Rasys Iau 1k a 3k, ras mewn cadair olwyn a ras y masgotiaid)

Byddant. Caiff holl rasys 10k Bae Abertawe Admiral (rasys iau 1k a 3k, ras mewn cadair olwyn) eu trin yn yr un ffordd â'n prif ras 10k, a'u trosglwyddo'n awtomatig i'r dyddiad newydd

Rwyf eisoes wedi cysylltu â thîm 10k Bae Abertawe Admiral am wirfoddoli

Diolch - rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth!

Bydd y Tîm Digwyddiadau Arbennig yn cysylltu â chi yn y man i roi'r diweddaraf i chi am ein cynlluniau. Cadwch le i ni yn eich dyddiadur am 2021 - gobeithiwn y gallwch helpu o hyd!

Roeddwn i'n teithio i Abertawe ar gyfer y ras ac rwyf eisoes wedi cadw lle mewn gwesty?

Os gwnaethoch gadw lle mewn gwesty cyn ras eleni, bydd angen i chi gysylltu â'ch darparwr llety'n uniongyrchol.

Oes opsiwn i gymryd rhan mewn ras rithwir?

Does dim opsiwn Ras Rithwir ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral.

Sut gallaf gael y diweddaraf am gyhoeddiadau a diweddariadau pellach?

I gael y newyddion diweddaraf am Ras 10k Bae Abertawe Admiral sicrhewch eich bod yn dilyn ein tudalen Facebook swyddogol.

Oes gennych gwestiynau i'w hateb o hyd?

Os oes gennych gwestiwn i'w ateb o hyd am ras 10k Bae Abertawe Admiral, e-bostiwch swanseabay10k@abertawe.gov.uk


Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym yn ymwybodol y bydd rhedwyr a chefnogwyr yn siomedig – rydyn ni’n siomedig hefyd, ond rydym yn gwybod y bydd pawb hefyd yn deall mai dyma’r penderfyniad cywir gan ystyried y sefyllfa bresennol.

“Y peth pwysicaf i’w wneud yn awr yw gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod cyfranogwyr a’r cyhoedd mor ddiogel â phosib, a lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau brys.

Y cyngor sy’n gyfrifol am y ras 10k a fydd yn cael ei noddi’r flwyddyn nesaf gan Admiral am y 15fed flynedd yn olynol. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k a 3k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.

Meddai Ceri Assiratti, Pennaeth y Gwasanaethau Pobl yn Admiral, “Mae iechyd a lles ein staff yn bwysig i ni, felly rydym yn cefnogi penderfyniad y cyngor. Rydym yn falch ein bod wedi noddi Ras 10k Bae Abertawe Admiral ers 2006, mae ein staff yn mwynhau cymryd rhan bob blwyddyn ac maent yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn 2021.”


Fel cyrchfan twristiaeth cyfrifol, mae Abertawe’n awyddus i gefnogi diogelwch preswylwyr y ddinas a’r twristiaid sy’n ymweld â’r ardal.

Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd gyda’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth y DU.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich iechyd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Coronafeirws neu ei symptomau, cymerwch gipolwg ar wefan GIG i weld y cyngor a’r arweiniad diweddaraf.

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Abertawe yma.

Gelir dod o hyd i ddiweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth y DU yma.

Filed Under: News

  • 1
  • 2
  • Next Page »

Recent News

  • Give it a go! Entries open for 2023 Admiral Swansea Bay 10k
  • Mae canlyniadau a lluniau 10K Bae Abertawe Admiral ar-lein
  • Your Admiral Swansea Bay 10k results and photos are now online
  • Diweddariad am y ras 2022
  • 2022 race update

Copyright © 2023 · Swansea Council | Privacy | Cookies

We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Cookie SettingsAccept All
Manage consent

Privacy Overview

This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.
Necessary
Always Enabled
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. These cookies ensure basic functionalities and security features of the website, anonymously.
CookieDurationDescription
cookielawinfo-checkbox-analytics11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Analytics".
cookielawinfo-checkbox-functional11 monthsThe cookie is set by GDPR cookie consent to record the user consent for the cookies in the category "Functional".
cookielawinfo-checkbox-necessary11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookies is used to store the user consent for the cookies in the category "Necessary".
cookielawinfo-checkbox-others11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Other.
cookielawinfo-checkbox-performance11 monthsThis cookie is set by GDPR Cookie Consent plugin. The cookie is used to store the user consent for the cookies in the category "Performance".
viewed_cookie_policy11 monthsThe cookie is set by the GDPR Cookie Consent plugin and is used to store whether or not user has consented to the use of cookies. It does not store any personal data.
Functional
Functional cookies help to perform certain functionalities like sharing the content of the website on social media platforms, collect feedbacks, and other third-party features.
Performance
Performance cookies are used to understand and analyze the key performance indexes of the website which helps in delivering a better user experience for the visitors.
Analytics
Analytical cookies are used to understand how visitors interact with the website. These cookies help provide information on metrics the number of visitors, bounce rate, traffic source, etc.
Advertisement
Advertisement cookies are used to provide visitors with relevant ads and marketing campaigns. These cookies track visitors across websites and collect information to provide customized ads.
Others
Other uncategorized cookies are those that are being analyzed and have not been classified into a category as yet.
SAVE & ACCEPT