Bydd Cerebra, The Paul Popham Fund a Make Some Noise gan Global ymhlith y rhai a fydd yn elwa o ras flynyddol y masgotiaid yn ras 10k Bae Abertawe Admiral a gynhelir yn ddiweddarach y mis hwn.
Ar hyn o bryd, gydag ychydig dros wythnos i fynd cyn y ras fawr, mae’r masgotiaid sy’n bwriadu cymryd rhan wedi bod yn hyfforddi ar gyfer eu ras 100 metr a gynhelir ddydd Sul 16 Medi.
Bydd y ras 100 metr yn dechrau 10 munud ar ôl y brif ras y tu allan i Faes Rygbi San Helen.
Mae’r masgotiaid a fydd yn cymryd rhan yn cynnwys Sparky o Cerebra, Tommy the turtle o’r LC a Jagger o Heart FM y bydd ei gwrandawyr yn dewis ei wisg dros yr wythnosau i ddod.
Cyflwynir y ras 10k Bae Abertawe Admiral, sydd hefyd yn cynnwys rasys iau 1k, 3k a 5k, gan Gyngor Abertawe.
Dywedodd y Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn ddigwyddiad anhygoel i gymryd rhan ynddo ond mae hefyd yn ddigwyddiad gwych ar gyfer gwylwyr, gyda miloedd o bobl yn bresennol ar hyd Bae Abertawe i wylio eu ffrindiau a’u hanwyliaid wrth iddynt gymryd rhan yn y ras.
“Dros y blynyddoedd, mae ras y masgotiaid wedi datblygu i fod yn rhan allweddol o’r digwyddiad, gan gynnig adloniant i wylwyr wrth helpu i godi arian ar gyfer llawer o elusennau gwerth chweil. Mae’n ychwanegu elfen o hwyl at ddigwyddiad sy’n addas i deuluoedd wrth ddiwallu anghenion athletwyr profiadol, codwyr arian a phobl sydd am gyflawni eu heriau ffitrwydd personol.”
Dylai unrhyw grŵp, elusen, sefydliad neu gwmni a hoffai i’w masgot gymryd rhan yn y ras 100 metr a chael cyfle i ennill y £100 sydd ar gynnig i’r masgot sy’n ennill y ras, e-bostio Lindsay Sleeman ar lindsay.sleeman@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635428.
Mae croeso i wylwyr o 10am – cynhelir rasys iau o 10.45am i 12pm a bydd y brif ras 10k yn dechrau am 1pm.